Part of the debate – Senedd Cymru am 6:27 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Diolch i'r Dirprwy Lywydd. Ac er yr hyn rŷn ni newydd ei glywed gan David Melding, mi ydw i yn weddol hyderus ein bod ni wedi dod yn weddol bell o ran trafod materion sy'n ymwneud ag atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol ers i'r Bil yma gael ei gyflwyno. Dwi eisiau achub ar y cyfle i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid ac i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith yn trafod y materion hyn hyd yma. Ac maen nhw wedi cael eu trafod mewn tipyn o fanylder, ac mi ydw i, y Cwnsler Cyffredinol a'r Comisiwn Etholiadol ac eraill wedi rhoi tystiolaeth ar y polisi yma o flaen y pwyllgorau hynny ar amryw o gyfnodau. A hefyd, dwi eisiau diolch i'r Cwnsler Cyffredinol a'i swyddogion am weithio gyda ni ar y broses yma, ac i'r Comisiwn Etholiadol eu hunain am eu cydweithrediad nhw hefyd.
Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i i'w trafod heddiw, a'r rhai a gyflwynwyd yn enw'r Cwnsler Cyffredinol, yn adlewyrchu'r gwaith parhaus sydd wedi ei wneud ers trafodion Cyfnod 2 hefyd, i sicrhau y gellir gweithredu'r darpariaethau yn llwyddiannus. Ac mae hefyd yn bwysig nodi fan hyn fod y cydsyniad Gweinidog y Goron angenrheidiol wedi ei dderbyn ers Cyfnod 2 hefyd. A diolch i bawb fu ynghlwm yn sicrhau y cydsyniad hynny.
Dwi'n gofyn i'r Aelodau, felly, gefnogi gwelliant 87 yn fy enw i, sy'n welliant technegol i ddarparu cysondeb a newidiadau eraill i'r Bil a wnaed yng Nghyfnod 2. Dwi hefyd yn annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliant 97, sy'n sicrhau cysondeb ar draws y Bil gyda gwelliannau y cytunwyd arnynt yn ystod Cyfnod 2, i gyllido'r Comisiwn Etholiadol yn uniongyrchol o gronfa gyfunol Cymru, yn ogystal â thacluso cyfeiriadau sydd wedi dyddio yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Wrth eu hystyried gyda'i gilydd, mae gwelliannau 66 a 67 y Cwnsler Cyffredinol yn dileu gallu'r Senedd i alw pwyllgor y Llywydd yn ôl enw arall, os byddai'n dymuno gwneud hynny, heb droi at ddeddfwriaeth sylfaenol. Roedd yr hyblygrwydd hwn yn nodwedd fwriadol yn y darpariaethau a gyflwynwyd fel gwelliannau i'r Bil yng Nghyfnod 2. Roedd yn adlewyrchu'r ymagwedd a gymerwyd o gyfeirio at y Pwyllgor Archwilio yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mae'r Cynulliad wedi penderfynu erbyn hyn ei alw'n Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ers hynny. Gan hynny, mae budd mewn galluogi'r Cynulliad i benderfynu ar faterion o'r fath mewn ffordd fwy hyblyg na deddfwriaeth sylfaenol, os oes angen. Fodd bynnag, dwi hefyd yn deall y rhesymeg sydd tu ôl i welliannau'r Cwnsler Cyffredinol, fel y mae e wedi ei amlinellu'r prynhawn yma.
Yn ystod Cyfnod 2, cytunodd y Cynulliad ar welliant a gyflwynwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, sy'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gychwyn adran 28 y Bil drwy Orchymyn. Esboniodd y Cwnsler Cyffredinol y byddai'n gwneud hynny unwaith y byddai'n fodlon ar drefniadau archwilio ac atebolrwydd sy'n gysylltiedig â gwelliannau eraill a wnaed i adran 28. Rwy'n cytuno na ddylai'r darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â'r Comisiwn Etholiadol ddod i rym nes ei bod hi'n sicr y gellir eu gweithredu'n effeithiol a bod y trefniadau cyllido ar waith. Gan hynny, rwy'n cefnogi gwelliannau 68, 83 ac 84 y Cwnsler Cyffredinol, sy'n dileu cyfeiriad at y flwyddyn 2021-2 fel y flwyddyn ariannol gyntaf y mae'r darpariaethau yn adran 28 yn ymwneud â hi.
Ers trafodion Cyfnod 2, mae'r Cwnsler Cyffredinol a finnau wedi parhau â thrafodaethau ynghylch sut y gall y Senedd sicrhau bod ganddi fecanweithiau priodol ar waith i ddwyn y Comisiwn Etholiadol i gyfrif am ei waith mewn perthynas â refferenda ac etholiadau datganoledig. Rwy'n hyderus bod gwelliannau 69, 70, 71 a 72 yn cydbwyso angen y Senedd i gael yr offer a'r modd sydd ar gael iddi i graffu’n effeithiol ar waith y Comisiwn Etholiadol, gan osgoi rhoi galwadau gormodol ar y Comisiwn Etholiadol neu gyrff eraill ledled y Deyrnas Unedig neu adrannau llywodraethol.
Yn olaf, dwi'n gofyn hefyd i'r Aelodau gefnogi gwelliant 82 y Cwnsler Cyffredinol, sy'n cywiro gwall drafftio yn y Bil, yn dilyn gwelliannau yng Nghyfnod 2.