Part of the debate – Senedd Cymru am 6:47 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Fel rhywun a safodd i lawr fel cynghorydd yn 2017, ar ôl treulio blwyddyn yn gwasanaethu fel cynghorydd tra'n Aelod Cynulliad, rhaid imi ddweud fy mod yn anghytuno. Canfûm ei bod hi'n gwneud synnwyr gyda rhai o'r penderfyniadau a wnaem yma mewn perthynas â llywodraeth leol—y trafodaethau ar y Papur Gwyn ar lywodraeth leol, er enghraifft—i wahanu'r rolau gwahanol hynny, a'u gwahanu'n bendant iawn. Ac wrth gwrs, gallech gymryd rôl fel aelod Cabinet mewn awdurdod lleol ac fel aelod o Lywodraeth Cymru, ac fe allech chi gael y pedair rôl honno y mae wedi'u nodi. Credaf y byddai hynny'n hurt. Ond mewn gwirionedd, os edrychwn ar hanfodion hyn, sef bod yn gynghorydd a bod yn Aelod Cynulliad, rwy'n teimlo o ddifrif, ar ôl cael y profiad hwnnw, nad yw'r ddwy rôl yn cydblethu.