Part of the debate – Senedd Cymru am 6:44 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Fy unig welliannau yn y grŵp hwn yw gwelliant 25 a 31 ac fe fyddent, o’u mabwysiadu, yn gwrthdroi gwelliant Llywodraeth Cymru yng Nghyfnod 2, sy'n anghymhwyso cynghorwyr rhag cael eu hethol yn Aelodau Cynulliad. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cyfyngu cyn lleied â phosibl ar hawliau democrataidd, ac rwy'n credu bod rheswm clir dros ddweud na ddylai pobl wasanaethu mewn mwy nag un ddeddfwrfa. Gallaf ddeall hynny. Ond nid deddfwrfeydd yw cynghorau. Mae’n bosibl fod gwrthwynebiad posibl yn yr ystyr y byddai aelod o gyngor yn wynebu gwrthdaro buddiannau yn ein trafodion ar adegau penodol. Nid wyf yn diystyru hyn; rwy'n credu bod hynny'n bosibilrwydd. Ond byddent hefyd yn cynnig safbwynt arall ar waith partner llywodraethu agos iawn, ac mae gennym ein mecanweithiau ein hunain i ymdrin â gwrthdaro buddiannau. Felly, ni chredaf fod hwn yn bwynt difrifol sy’n galw am anghymhwyso. Rhaid imi ddweud nad wyf yn credu'n bersonol ei bod yn ddelfrydol i fod yn gynghorydd a bod yn Aelod o'r lle hwn, ond credaf y gall yr etholwyr ddatrys y mater hwnnw a dyna lle dylai sefyll.
Mae rhai pobl wedi dweud na allwch wneud mwy nag un swydd. Wel, nid yw swydd cynghorydd yn alwedigaeth lawn amser. Yn wir, rydym yn ceisio recriwtio pobl o wahanol gefndiroedd a chyflogaeth i fod yn gynghorwyr. Mae'n ymrwymiad sylweddol fodd bynnag. Mae hynny, yn amlwg, yn cael ei gydnabod yn y lwfansau sydd ynghlwm wrth swydd cynghorydd, ac rwy'n credu ein bod i gyd yn edmygu'r gwaith y mae cynghorwyr yn ei wneud yn darparu gwasanaethau cyhoeddus, y system gynllunio; maent yn gyfrifoldebau eithaf beichus.
Ond wyddoch chi, yn ein system seneddol—ac nid wyf yn credu bod unrhyw un yma'n cynnig ein bod yn newid yn ddramatig i fodel cyngresol lle ceir rhaniad llwyr rhwng deddfwrfa a Gweithrediaeth—mae gennym weithio dwy swydd yn digwydd i bob pwrpas, oherwydd, o fy mlaen yn y fan hon, ar y fainc flaen, mae Llywodraeth Cymru. Nawr, mae'n debyg fod hwnnw'n waith caled, ac nid wyf yn dweud hyn mewn ffordd sarcastig, oherwydd nid wyf yn amau hynny; credaf ei fod yn gyfrifoldeb aruthrol o ran yr ymrwymiad amser a'r aberth y mae'n rhaid ichi ei wneud i wasanaethu yn y Weithrediaeth. Ond rydych chi'n gwneud hynny ac rydych chi'n gweithredu fel Aelodau Cynulliad. Felly, os gallwch gyfuno'r rolau hynny, credaf fod yn rhaid dweud ei bod o leiaf yn bosibl cyfuno rôl cynghorydd ac Aelod Cynulliad. Rwy'n ildio.