Part of the debate – Senedd Cymru am 6:48 pm ar 13 Tachwedd 2019.
O ran dwy swydd ac ail swydd, mae gan lawer o Aelodau'r Cynulliad yma ail swydd yn yr ystyr eu bod yn landlordiaid, ac eto rydych i gyd yn cymryd rhan mewn dadleuon ar dai. Nawr, yr hyn sydd—[Torri ar draws.] Wel, mae'n ddrwg gennyf, os ydych chi'n landlord a'ch bod yn gosod eiddo ar rent yn y sector preifat, mae honno'n alwedigaeth, ac eto mae pawb yma yn hapus i drafod polisi tai, Rhentu Doeth Cymru, ond mewn perthynas â llywodraeth leol, rydych chi eisiau cyfyngu ar ddewis, ac nid yw hynny'n dda. Diolch, David.