Part of the debate – Senedd Cymru am 6:48 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Wel, rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt da fod gan lawer ohonom gyfrifoldebau ychwanegol a ysgwyddir gennym, sy'n creu galwadau sylweddol ar ein hamser. A gwnawn hynny fel rhan o wasanaeth sy'n cyfoethogi ein galwedigaeth yma. Rwy'n aelod o ddau gorff llywodraethu ysgolion arbennig ers amser maith, er enghraifft.
Felly, credaf mai'r pwynt yw fod yn rhaid inni fod yn ofalus ynglŷn â defnyddio'r gyfraith—dyna'r peth mwyaf dramatig y gallwn ei wneud—i gyfyngu ar hawl yr etholwyr i wneud y dewisiadau y credant sydd orau iddynt hwy. Mae hwnnw'n rheswm difrifol iawn dros beidio â chaniatáu i bobl fod mewn mwy nag un ddeddfwrfa, ond nid wyf yn credu bod yr egwyddor honno'n gryf o ran cyfiawnhau gwahardd ar lefel llywodraeth leol rhag bod yn Aelod o'r lle hwn. Fodd bynnag, byddai llawer ohonom yn bersonol yn ei chael hi'n anodd cyflawni'r ddwy rôl ac ni fyddem yn dewis eu gwneud. Mae'n fater i'r Aelod etholedig a'r etholwyr, yn fy marn i.
Felly, rwy'n eich annog i wrthdroi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth. Ac fel y dywedodd y Llywydd, ni ymdriniwyd â hyn eto wrth gyflwyno'r Bil, ni chafodd ei archwilio'n llawn. Roedd y pedwerydd Cynulliad yn eithaf rhanedig ar y mater pan gafodd ei archwilio gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, oherwydd—yn fy marn i, beth bynnag, fel y Cadeirydd ar y pryd—ni allem ddod o hyd i'r egwyddor gadarn honno a oedd yn tynnu llinell ddiamwys. Nid yw'n gwneud hynny. Rydym yn gwneud dewis gwleidyddol yma, ac nid wyf yn credu y dylem; dylem ei adael i'r etholwyr.