Grŵp 6: Anghymhwyso (Gwelliannau 88, 25, 89, 90, 91, 92, 98, 99, 73, 31, 74, 75, 76, 93, 94, 65)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:40, 13 Tachwedd 2019

Dirprwy Lywydd, dwi'n cynnig gwelliant 88, sef y prif welliant yn y grŵp yma. Gwelliant technegol sydd yn ganlyniadol i welliant 99 yw hwn, ac fe fyddaf i'n trafod hwnnw maes o law.

Ond dwi eisiau dechrau drwy ofyn i Aelodau gefnogi'r gwelliant mwyaf sylweddol sydd gen i yn y grŵp yma, sef gwelliant 89 a'r gwelliant canlyniadol, sef gwelliant 91, a fydd yn anghymwyso Aelodau Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd Ewrop rhag gwasanaethu yn y Cynulliad, ond gan barhau i ganiatáu iddynt sefyll mewn etholiad i'r Senedd.

Yn dilyn gwelliannau i'r Bil yng Nghyfnod 2, fe fyddai modd i Aelodau Seneddol ac Aelodau Tŷ'r Arglwyddi sefyll i'w hethol i'r Senedd ond y byddent yn cael eu hanghymwyso rhag gwasanaethu yn y Senedd yma, tra byddai Aelodau Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd Ewrop yn gallu sefyll i'w hethol i'r Senedd yma a gwasanaethu fel Aelodau. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, fod y Cwnsler Cyffredinol wedi nodi yn ystod trafodion Cyfnod 2 y byddai'n bosib anghymwyso Aelodau Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon rhag gwasanaethu drwy'r Gorchymyn anghymwyso. Fodd bynnag, fel y dywedais i yn ystod y ddadl bryd hwnnw, dwi'n credu y byddai'n well i nodi'n glir ar wyneb y Bil bod Aelodau Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd Ewrop wedi'u hanghymwyso rhag gwasanaethu yn y Cynulliad, ac mae hyn yn darparu'r eglurder na all unigolyn ddal mandad etholiadol deuol. Nid yw Comisiwn y Cynulliad o'r farn bod cyfiawnhad dros alluogi Aelodau Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd Ewrop i wasanaethu yn y Senedd yma tra bod Aelodau Seneddol, Aelodau Tŷ'r Arglwyddi a chynghorwyr wedi'u hanghymwyso rhag gwasanaethu yma. Bydd y gwelliant yn caniatáu, felly, i'r Aelodau yma, sef Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd Ewrop, sefyll i'w hethol i'r Senedd ond byddai'n rhaid iddynt ildio eu haelodaeth o'r ddeddfwrfa arall er mwyn gwasanaethu yma.

Troi nawr at anghymwyso cynghorwyr—fel y soniais yn ystod Cyfnod 2, nid oes gan Gomisiwn y Cynulliad safbwynt ynghylch a ddylid caniatáu i gynghorwyr awdurdodau lleol wasanaethu fel Aelodau Cynulliad ai peidio. Dewisodd y Comisiwn i beidio ag ymgynghori ar y mater yma a dewisodd beidio â mynd i'r afael ag ef yn y Bil a gyflwynwyd. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith na ddaeth Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y pedwerydd Cynulliad i gasgliad cadarn, er bod y pwyllgor wedi trafod a ddylid anghymwyso'r arfer o waith dwbl fel Aelod Cynulliad a chynghorydd awdurdod lleol. Yn hytrach, awgrymodd y pwyllgor y dylid cynnal adolygiad ffurfiol o'r mater yma, a dydw i ddim yn ymwybodol bod adolygiad o'r fath wedi digwydd ers hynny.

Dwi hefyd yn gofyn i Aelodau gefnogi fy ngwelliannau technegol rhifau 88, 90, 92, 98 a 99. Mae gwelliant 88 yn un canlyniadol i welliant 99. Mae fy ngwelliant 99 yn dileu'r rhestr gyfredol o anghymwysiadau sydd rhag sefyll i gael eu hethol i'r Senedd yn Atodlen 3 y Bil ac yn atgynhyrchu'r wybodaeth ar ffurf tabl wedi'i threfnu yn nhrefn yr wyddor. Mae'r tabl newydd hefyd yn cynnwys cyfeiriadau penodol at ddirprwyon statudol swyddi anghymwys er mwyn anghymwyso dirprwyon statudol o'r fath rhag sefyll i'w hethol i'r Senedd hefyd. Mae gwelliannau 90, 92, 94 a 98 i gyd yn dileu darpariaethau diangen yn y Bil a Deddf Llywodraeth Cymru, Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 a Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019. Ac mae gwelliant 94 yn gwneud newidiadau i Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Deddf ombwdsman gwasanaethau cyhoeddus.