Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Gwnaf, yn sicr. Nid wyf yn ymwybodol ohono, ac os yw Darren Millar eisiau ysgrifennu ataf gyda manylion penodol, rwy'n fwy na pharod i edrych arnynt. Nid wyf yn gwybod y manylion, felly ni allaf wneud sylwadau mewn gwirionedd, ond ar y cyfan nid yw hawliau datblygu a ganiateir ond ar gael lle ceir adeilad preswyl neu adeilad arall eisoes sydd â hawliau datblygu a ganiateir ynghlwm wrtho. Ni fyddent fel arfer ar gael mewn coetir agored lle nad oes adeilad yn bodoli eisoes. Felly, er na allaf wneud sylwadau penodol, oherwydd ni allwch wneud hynny oni bai eich bod yn gwybod y manylion penodol, y cyngor cyffredinol fyddai nad oes gennych hawliau datblygu a ganiateir oni bai eu bod ynghlwm wrth annedd neu fangre arall sydd â'r hawliau hynny. Felly, mae'n ymddangos yn annhebygol ar yr wyneb y byddai hwnnw'n ddatblygiad a ganiateir.