Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Un o'r problemau sy'n wynebu llawer o drigolion yng nghefn gwlad Cymru, am nad yw eu tir yn cael ei ystyried yn ardal ar gyfer datblygiad tai a ganiateir, yw eu bod yn ei chael hi'n anodd iawn cael caniatâd cynllunio ar gyfer tai ar eu tir, os mai bod yn ffordd i aelodau o'r teulu aros yn y gymuned leol yw diben y tai hynny wrth gwrs. Felly, a fyddech yn archwilio'r posibilrwydd o lacio'r rheolau hyn i ganiatáu datblygiad tai cyfyngedig ar gyfer angen lleol yn unig na ellir eu gwerthu neu eu troi'n ail gartrefi wedyn, fel ffordd o gefnogi cynaliadwyedd rhai o'n cymunedau gwledig?