Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:28, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol wedi ymuno â'r rhestr faith o sefydliadau sy'n feirniadol o ymddygiad yr adran fwyaf dialgar ac anghymwys yn Ewrop, yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yn yr achos hwn, maent yn cyfeirio at y problemau a achosir gan y credyd cynhwysol i'r rhai sy'n talu eu rhent yn wythnosol. Mae rheoliadau'r credyd cynhwysol yn datgan y bydd hawl i gredyd cynhwysol tenantiaid â thenantiaethau wythnosol yn cael ei gyfrifo ar sail uchafswm o 52 wythnos. Mae hyn yn golygu, bob pum mlynedd, y codir rhent ar denantiaid sy'n talu'n wythnosol ar yr un diwrnod ar sail 53 wythnos, ond ni fyddant ond yn gallu cael credyd cynhwysol ar gyfer 52 wythnos. Felly, dyma ddiffyg yr amcangyfrifodd Cartrefi Cymunedol Cymru y gallai effeithio ar 13,000 o bobl yng Nghymru.

Efallai fod hyn i'w weld yn nodwedd ddibwys sy'n codi o aliniad y rheoliadau a'r calendr, ond i bobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ac sydd eisoes yn ddrwgdybus o'r Adran Gwaith a Phensiynau, mae'n ychwanegu problem arall a gall wthio aelwydydd dros y dibyn. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd i liniaru hyn?