Cynorthwyo Pobl Ifanc sy'n Byw mewn Gofal

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:40, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rydym wedi buddsoddi £10 miliwn ychwanegol eleni i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, gan gynnwys ariannu prosiectau penodol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal. Rydym yn canolbwyntio ar gryfhau'r trefniadau sydd ar waith i sicrhau bod pobl ifanc yn pontio'n llwyddiannus o ofal i fyw'n annibynnol, gyda chyd-grŵp tai a gwasanaethau cymdeithasol yn llywio'r gwaith hwn.