Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:33, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, pe bai eich Llywodraeth yn cynnal asesiad, fel rwyf newydd ei awgrymu, credaf y byddai hynny o'r diwedd yn cael gwared ar y syniad fod budd ariannol i’w gael o San Steffan yn rheoli'r materion hyn. Y gwir amdani yw na allwn fforddio peidio â rheoli’r gwaith o weinyddu lles. Mae'n amlwg o dystiolaeth ryngwladol mai un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau tlodi yw rhoi mwy o arian i'r aelwydydd tlotaf. Nawr, mae Plaid Cymru yn awyddus i gael bargen deg i deuluoedd Cymru, sy'n golygu ein bod yn awr yn cynnig bod Cymru'n cyflwyno taliad newydd o £35 yr wythnos am bob plentyn mewn teulu incwm isel, gan ddod â 50,000 o blant allan o dlodi. Ar ôl bron i 20 mlynedd, mae tlodi plant yn waeth nag erioed yn y wlad hon. Onid yw'n bryd inni fabwysiadu ymagwedd wahanol, ac a fyddech yn cytuno â Phlaid Cymru mai nawr yw'r adeg i gyflwyno taliad o'r fath?