Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Fe siaradaf â fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, sy'n arwain ar faterion lles, ond mae'n un o'r materion rydym wedi gofyn i'r grŵp gweithredu ar ddigartrefedd edrych arnynt hefyd, gan eu bod yn mynd i wneud tri adroddiad arall. Fel y gwyddoch, maent wedi cwblhau’r adroddiad ar ddigartrefedd yn y cyfnod cyn y Nadolig ar ein cyfer. Ond mae'n un o'r pethau rydym wedi gofyn iddynt edrych arnynt hefyd. A chredaf ein bod yn dal i aros am yr ymchwil ar weinyddu lles. Nid wyf yn siŵr heb fynd i edrych—nid wyf yn gwybod a yw Hannah yn gwybod—erbyn pryd y mae hwnnw i fod i ddod i law, ond gallaf ysgrifennu at yr Aelod i roi gwybod iddi.