Lleihau Lefelau Digartrefedd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:50, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i fynd i'r afael â digartrefedd ar ei holl ffurfiau yng Nghymru. Cefnogir yr ymrwymiad hwn gan dros £20 miliwn eleni yn unig. Mae ein strategaeth, a gyhoeddwyd y mis diwethaf, yn nodi'r fframwaith polisi ar gyfer camau i atal digartrefedd, a lle na ellir ei atal, i sicrhau ei fod yn brin, dros gyfnod byr ac nad yw'n digwydd eto.