2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 13 Tachwedd 2019.
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i leihau lefelau digartrefedd? OAQ54684
Gwnaf. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i fynd i'r afael â digartrefedd ar ei holl ffurfiau yng Nghymru. Cefnogir yr ymrwymiad hwn gan dros £20 miliwn eleni yn unig. Mae ein strategaeth, a gyhoeddwyd y mis diwethaf, yn nodi'r fframwaith polisi ar gyfer camau i atal digartrefedd, a lle na ellir ei atal, i sicrhau ei fod yn brin, dros gyfnod byr ac nad yw'n digwydd eto.
Rwyf wedi derbyn gwaith achos ar bobl ddigartref mewn sefyllfa enbyd a ofynnodd am gymorth gan gyngor Rhondda Cynon Taf, ddim ond i gael eu troi ymaith. Gwn am elusen leol sy'n helpu pobl ddigartref sy'n cael profiadau tebyg. Nawr, mae'r cyngor fel arfer yn dweud nad oes ganddynt rwymedigaeth gyfreithiol i roi cartref i bobl os nad ydynt yn flaenoriaeth. Maent yn ychwanegu mai'r unig ffordd o gael eu trin fel blaenoriaeth yw os yw'r unigolyn yn fygythiad iddynt eu hunain, i'r cyhoedd neu os oes ganddynt broblemau iechyd meddwl neu broblemau meddygol.
Y mis diwethaf, gofynnais i chi mewn sesiwn bwyllgor a allem godi achosion yn uniongyrchol gyda chi pan fo'r awdurdod lleol wedi troi rhywun ymaith fel hyn, ac fe ateboch chi'n bendant y gallem. Fodd bynnag, pan anfonais e-bost atoch wedi hynny ynglŷn â dyn a oedd yn ddigartref ar ôl dioddef cam-drin domestig ac a oedd eisoes wedi cael ei droi ymaith gan gyngor Rhondda Cynon Taf, fe ysgrifennoch chi'n ôl ataf gan ddweud, a dyfynnaf,
Ni all Gweinidogion Cymru ymyrryd mewn achosion unigol, gan mai Awdurdodau Lleol sy'n gyfrifol am fynd i'r afael ag anghenion tai yn eu hardal.
Felly, a allwch egluro i mi heddiw, unwaith ac am byth, a all Llywodraeth Cymru ymyrryd pan fydd awdurdod lleol yn troi ei gefn ar bobl ddigartref neu unrhyw achosion eraill sy'n ymwneud â phobl mewn argyfwng?
Ie, wel, mae'r llythyr yn mynd yn ei flaen i ddweud,
Fodd bynnag, mae fy swyddogion wedi cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ynghylch y materion a godwch. Gallaf gynnig y cyngor canlynol.
Ac yna mae sawl paragraff arall yn manylu ar y cyngor y gallem ei gynnig. Mae'n ddrwg gennyf os nad dyna oeddech yn ei ddisgwyl, ond yn amlwg, ni allwn ymgymryd â gwaith achos unigol yn y Llywodraeth. Fodd bynnag, rydym wedi cysylltu â Rhondda Cynon Taf, fel y dywed y llythyr yn glir wrthych. Mae'n cynnig ystod o wasanaethau i'ch swyddfa etholaethol, yn nodi'r hyn sydd ar gael, a gwn fod y swyddogion wedi cael sgwrs eithaf hir gyda'r swyddogion yn Rhondda Cynon Taf am yr achos hwnnw a'r themâu cyffredinol a ddeilliai ohono. Felly, dyna oedd gennyf mewn golwg pan siaradais â chi. Yn amlwg, ni allaf ymgymryd â llwyth achosion unigol fel un o Weinidogion y Llywodraeth. Ond roedd swyddogion wedi cael y sgwrs honno gyda Rhondda Cynon Taf, ac os oes pethau'n codi yn gyffredinol o'ch gwaith achos sy'n mynd o chwith mewn cyngor yn eich barn chi, rwy'n fwy na pharod i ofyn i'r swyddogion gysylltu â'r cyngor a gwneud yn siŵr eu bod yn cadw at ysbryd a llythyren y gyfraith.
Weinidog, bydd yn aeaf arnom unwaith eto cyn bo hir, ac mae'n edrych yn debyg y bydd yn un gwael. Pa gefnogaeth y bydd eich Llywodraeth yn ei rhoi i'r awdurdodau lleol a phartneriaid cyflenwi yn y trydydd sector i helpu pobl sy'n cysgu allan yn enwedig?
Fel y dywedais, rydym wedi buddsoddi dros £20 miliwn eleni yn unig i atal a lleddfu digartrefedd. Mae'r cyllid yn cefnogi ystod o wasanaethau statudol ac anstatudol i helpu pobl nad oes ganddynt le diogel i fyw. Cyhoeddwyd y datganiad polisi strategol ar 8 Hydref ac mae'n nodi'r fframwaith polisi a'r egwyddorion y bydd y Llywodraeth hon yn eu mabwysiadu er mwyn atal a mynd i'r afael â digartrefedd. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio'n helaeth ar ymateb sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, wedi'i lywio gan drawma, sy'n cynnwys yr holl wasanaethau cyhoeddus er mwyn diwallu anghenion y rheini sydd mewn perygl o fynd yn ddigartref neu sy'n ddigartref.