Undebau Credyd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:48, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae Undeb Credyd Casnewydd wedi arloesi gyda chynllun benthyciadau personol i atal mwy o bobl rhag cael eu bachu gan fenthycwyr diwrnod cyflog a'u cyfraddau llog uchel. Mae'r benthyciad teulu yn gynllun arloesol sy'n caniatáu i aelodau undeb credyd ad-dalu'r hyn y maent yn ei fenthyca yn uniongyrchol o'u budd-daliadau. Mae undebau credyd eraill yng Nghymru bellach yn dilyn esiampl Casnewydd. Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Undeb Credyd Casnewydd ar y cynllun hwn, ac a wnewch chi hefyd ymrwymo i barhau i gefnogi undebau credyd gyda'u gwaith i atal pobl rhag defnyddio benthycwyr diwrnod cyflog, sy'n codi dros 3,000 y cant yn fwy o log ar rai benthycwyr mewn rhai achosion? Diolch.