Ail Gartrefi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:58, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb. Yn ei hateb i'r cwestiwn blaenorol, cyfeiriodd at bremiymau treth gyngor y gellir eu codi bellach, ond rwy'n siŵr ei bod yn ymwybodol fod bwlch yn y gyfraith, wrth gwrs, sy'n caniatáu i unigolion gofrestru ail gartrefi fel busnesau ac yna'u gosod ar rent am isafswm o ddyddiau bob blwyddyn. Drwy wneud hyn, wrth gwrs, gallant osgoi premiymau'r dreth cyngor, ac mewn gwirionedd, gallant fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach—heb orfod cyfrannu unrhyw beth gan hynny.

Gwyddom fod amcangyfrif wedi'i wneud fod 1,000 o'r 5,000 o ail gartrefi yng Ngwynedd yn unig wedi bod yn manteisio ar y bwlch hwn yn y gyfraith. A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiad o'r sefyllfa mewn perthynas â hyn ar draws rhanbarth y canolbarth a'r gorllewin, pa fath o effaith y gallai hynny fod yn ei chael, a sut y gallai waethygu effaith perchentyaeth ail gartrefi ar y cymunedau arfordirol y cyfeiriais atynt yn fy nghwestiwn gwreiddiol?