Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Iawn, credaf fod fy nghyd-Aelod Rebecca Evans wedi ateb hyn yn weddol gynhwysfawr mewn dadl yn lled ddiweddar. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw os ydynt—rwyf wedi dweud wrth bob un o'r awdurdodau lleol ledled Cymru, os oes ganddynt dystiolaeth fod hyn yn achosi problem iddynt, dylent ei chyflwyno. Dywedais hynny ym mhwyllgor gweithredol CLlLC, a chefais gyfarfodydd unigol ag awdurdodau lleol amrywiol yng ngogledd Cymru ynghylch y dystiolaeth y gallent ei chyflwyno. Os yw'r dystiolaeth honno'n bodoli, rydym yn fwy na pharod i edrych arni. Ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth gennym fod y newid hwnnw'n digwydd ar draul y trethi lleol a godir, ond os oes tystiolaeth yn bodoli, rydym yn fwy na pharod i edrych arni.