Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Fel y dywedais, rydym wedi buddsoddi dros £20 miliwn eleni yn unig i atal a lleddfu digartrefedd. Mae'r cyllid yn cefnogi ystod o wasanaethau statudol ac anstatudol i helpu pobl nad oes ganddynt le diogel i fyw. Cyhoeddwyd y datganiad polisi strategol ar 8 Hydref ac mae'n nodi'r fframwaith polisi a'r egwyddorion y bydd y Llywodraeth hon yn eu mabwysiadu er mwyn atal a mynd i'r afael â digartrefedd. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio'n helaeth ar ymateb sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, wedi'i lywio gan drawma, sy'n cynnwys yr holl wasanaethau cyhoeddus er mwyn diwallu anghenion y rheini sydd mewn perygl o fynd yn ddigartref neu sy'n ddigartref.