Grŵp 7: Darpariaethau amrywiol a chyffredinol, gan gynnwys dod i rym (Gwelliannau 77, 95, 78, 79, 96, 80, 85)

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:10 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 7:10, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Mae gwelliannau 64 a 65 yn diwygio'r adran drosolwg i ddileu cyfeiriadau at ddau o Atodlenni'r Bil. Lle mae'r adran drosolwg yn cyfeirio at Rannau penodol o'r Bil, mae eisoes yn cynnwys yr Atodlen berthnasol, felly nid oes angen eu crybwyll ar wahân.

Mae gwelliant 77 yn dileu geiriau diangen o'r diffiniad o ddeddfiad yn adran 39 o'r Bil. Mae hyn yn dyblygu'r diffiniad o ddeddfiad yn ein Deddf ddehongli ein hunain—Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.

Mae gwelliannau 78 a 79 unwaith eto'n adlewyrchu'r dull a ffafrir gennym o gyfeirio at Atodlenni, y tro hwn yn adran 40.

Mae gwelliant 80 yn dileu'r geiriau diangen yn adran 40 ar ôl cyfeiriad at Ran 5. Mae'n amlwg o'r cyd-destun mai at Ran 5 y Bil hwn y cyfeirir. Ac mae gwelliant 81 yn gwneud y newidiadau canlyniadol sy'n ofynnol i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, o ganlyniad i Ran 2 o'r Bil hwn—hynny yw, y darpariaethau ar gyfer newid enw. Gan fod y Ddeddf deddfwriaeth yn cynnwys darpariaethau cyffredinol a fydd yn berthnasol i holl ddeddfwriaeth Cymru ac yn ymwneud â gwella hygyrchedd y gyfraith, credwn ei bod yn bwysig cofio testun y Ddeddf honno fel ei bod yn defnyddio'r enwau newydd yr adwaenir y Cynulliad a'i Ddeddfau wrthynt yn y dyfodol. Diolch.