– Senedd Cymru am 7:10 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Mae'r grŵp olaf o welliannau'n ymwneud â darpariaethau amrywiol a chyffredinol, gan gynnwys dod i rym. Y gwelliant arweiniol yn y grŵp hwn yw gwelliant 77, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i gynnig ac i siarad am y gwelliant arweiniol a gwelliannau eraill yn y grŵp—Gwnsler Cyffredinol.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n gwahodd Aelodau i gefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn, sy'n cael eu cynnig yn fy enw i. Maen nhw'n welliannau technegol i ddileu anghysondebau ac i wella'r Bil mewn ffordd lai ond bwysig.
Mae gwelliannau 64 a 65 yn diwygio'r adran drosolwg i ddileu cyfeiriadau at ddau o Atodlenni'r Bil. Lle mae'r adran drosolwg yn cyfeirio at Rannau penodol o'r Bil, mae eisoes yn cynnwys yr Atodlen berthnasol, felly nid oes angen eu crybwyll ar wahân.
Mae gwelliant 77 yn dileu geiriau diangen o'r diffiniad o ddeddfiad yn adran 39 o'r Bil. Mae hyn yn dyblygu'r diffiniad o ddeddfiad yn ein Deddf ddehongli ein hunain—Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
Mae gwelliannau 78 a 79 unwaith eto'n adlewyrchu'r dull a ffafrir gennym o gyfeirio at Atodlenni, y tro hwn yn adran 40.
Mae gwelliant 80 yn dileu'r geiriau diangen yn adran 40 ar ôl cyfeiriad at Ran 5. Mae'n amlwg o'r cyd-destun mai at Ran 5 y Bil hwn y cyfeirir. Ac mae gwelliant 81 yn gwneud y newidiadau canlyniadol sy'n ofynnol i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, o ganlyniad i Ran 2 o'r Bil hwn—hynny yw, y darpariaethau ar gyfer newid enw. Gan fod y Ddeddf deddfwriaeth yn cynnwys darpariaethau cyffredinol a fydd yn berthnasol i holl ddeddfwriaeth Cymru ac yn ymwneud â gwella hygyrchedd y gyfraith, credwn ei bod yn bwysig cofio testun y Ddeddf honno fel ei bod yn defnyddio'r enwau newydd yr adwaenir y Cynulliad a'i Ddeddfau wrthynt yn y dyfodol. Diolch.
Diolch. Galwaf ar y Llywydd.
Rwy'n gofyn i Aelodau gefnogi fy ngwelliannau i, sef 95 a 96, sy'n darparu ar gyfer unigolion sydd wedi eu hetholfreinio gan y Bil i allu cofrestru i bleidleisio o 1 Mehefin 2020, yn hytrach nag ar Gydsyniad Brenhinol. Bydd hyn yn sicrhau digon o amser i ddiweddariadau meddalwedd, profion a hyfforddiant gael eu gwneud i systemau rheoli etholiadol a'r gwasanaeth digidol cofrestru etholiadol unigol, cyn i'r unigolion hynny sydd wedi eu hetholfreinio gan y Bil ddechrau cofrestru i bleidleisio. Byddai unigolion o'r fath yn dal i gael eu rhyddfreinio pan fydd y Bil yn derbyn Cydsyniad Brenhinol, ond ni allant ddechrau cofrestru i bleidleisio tan 1 Mehefin 2020. Cyn cyflwyno gwelliannau 95 a 96, cefais sicrwydd gan y gymuned etholiadol eu bod yn fodlon gohirio’r pwynt y gall unigolion sydd newydd eu hetholfreinio yn y Bil hwn gofrestru i bleidleisio.
Rwy'n gofyn hefyd i Aelodau gefnogi fy ngwelliant 85, sy’n welliant syml i egluro yn fersiwn Saesneg y Bil fod y cyfeiriad at ‘etholiad’ yn adran 1(4) yn gyfeiriad at etholiadau’r Senedd.
Dirprwy Lywydd, dyma’r tro olaf i fi siarad heno. Mae'r Mesur ar fin mynd yn ei flaen i’r bleidlais olaf yn y daith ddeddfu, yng Nghyfnod 4. Mae’r Mesur erbyn hyn yn cynnwys elfennau gwahanol i’r rhai y cyflwynais i yn wreiddiol: enw swyddogol Cymraeg a Saesneg fydd i’r Senedd hon; mi fydd etholfraint ein hetholiadau yn cynnwys gwladolon tramor; mi fydd cynghorwyr yn anghymwys i wasanaethu fel Aelodau o’r Senedd; ac mi fydd y Comisiwn Etholiadol yn atebol i’r Senedd hon. Mae yna Aelodau ar draws y Siambr, ym mhob grŵp gwleidyddol, wedi gwrthwynebu ar un neu fwy o'r materion yma. Er hyn, fel cyfanwaith, rwy'n gobeithio bod ysbryd a chynnwys y Mesur yma yn ddigonol i ddenu y mwyafrif angenrheidiol yng Nghyfnod 4 fel y gallwn greu Senedd i'r unfed ganrif ar hugain sy'n llwyr haeddiannol o ddyheadau bobl Cymru.
Diolch. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi nodi nad yw'n dymuno ymateb i'r ddadl. A yw hynny—?
Ydy.
Iawn, diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 77. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Derbynnir gwelliant 77.
David Melding, gwelliant 43.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig. Diolch.
Lywydd, gwelliant 95.
Os derbynnir gwelliant 95, bydd gwelliannau 125 a 126 yn methu. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 95. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 95 ac mae gwelliannau 125 a 126 yn methu.
Gwnsler Cyffredinol, gwelliant 78.
Yn ffurfiol.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 78. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 78.
Gwnsler Cyffredinol, gwelliant 165.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 165. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 49, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 165.
Gwnsler Cyffredinol, gwelliant 79.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 79. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 79.
Lywydd, gwelliant 96.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 96. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 96.
Gwnsler Cyffredinol, gwelliant 80.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 80. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Derbynnir gwelliant 80.
Gwnsler Cyffredinol, gwelliant 64.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 64. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 64.
Rhun ap Iorwerth, gwelliant 161.
Cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 161. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 43 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 161.
Darren Millar, gwelliant 101.
Rwy'n cynnig.
Os derbynnir gwelliant 101, bydd gwelliant 1 yn methu. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 101. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant, wyth, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 101.
David Melding, gwelliant 1.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig. Diolch.
Gwnsler Cyffredinol, gwelliant 65.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 65. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 49, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 65.
Lywydd, gwelliant 85.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 85. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 85.
Gwnsler Cyffredinol, gwelliant 163.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 163. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 163.
Felly, daethom i ddiwedd ein hystyriaeth o Gyfnod 3 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), ac rwy'n datgan y barnwyd bod pob adran ac Atodlen i'r Bil wedi'u cytuno, a dyna ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben. Diolch. Mae'n 19:17.