Grŵp 7: Darpariaethau amrywiol a chyffredinol, gan gynnwys dod i rym (Gwelliannau 77, 95, 78, 79, 96, 80, 85)

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:11 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:11, 13 Tachwedd 2019

Rwy'n gofyn i Aelodau gefnogi fy ngwelliannau i, sef 95 a 96, sy'n darparu ar gyfer unigolion sydd wedi eu hetholfreinio gan y Bil i allu cofrestru i bleidleisio o 1 Mehefin 2020, yn hytrach nag ar Gydsyniad Brenhinol. Bydd hyn yn sicrhau digon o amser i ddiweddariadau meddalwedd, profion a hyfforddiant gael eu gwneud i systemau rheoli etholiadol a'r gwasanaeth digidol cofrestru etholiadol unigol, cyn i'r unigolion hynny sydd wedi eu hetholfreinio gan y Bil ddechrau cofrestru i bleidleisio. Byddai unigolion o'r fath yn dal i gael eu rhyddfreinio pan fydd y Bil yn derbyn Cydsyniad Brenhinol, ond ni allant ddechrau cofrestru i bleidleisio tan 1 Mehefin 2020. Cyn cyflwyno gwelliannau 95 a 96, cefais sicrwydd gan y gymuned etholiadol eu bod yn fodlon gohirio’r pwynt y gall unigolion sydd newydd eu hetholfreinio yn y Bil hwn gofrestru i bleidleisio.

Rwy'n gofyn hefyd i Aelodau gefnogi fy ngwelliant 85, sy’n welliant syml i egluro yn fersiwn Saesneg y Bil fod y cyfeiriad at ‘etholiad’ yn adran 1(4) yn gyfeiriad at etholiadau’r Senedd.

Dirprwy Lywydd, dyma’r tro olaf i fi siarad heno. Mae'r Mesur ar fin mynd yn ei flaen i’r bleidlais olaf yn y daith ddeddfu, yng Nghyfnod 4. Mae’r Mesur erbyn hyn yn cynnwys elfennau gwahanol i’r rhai y cyflwynais i yn wreiddiol: enw swyddogol Cymraeg a Saesneg fydd i’r Senedd hon; mi fydd etholfraint ein hetholiadau yn cynnwys gwladolon tramor; mi fydd cynghorwyr yn anghymwys i wasanaethu fel Aelodau o’r Senedd; ac mi fydd y Comisiwn Etholiadol yn atebol i’r Senedd hon. Mae yna Aelodau ar draws y Siambr, ym mhob grŵp gwleidyddol, wedi gwrthwynebu ar un neu fwy o'r materion yma. Er hyn, fel cyfanwaith, rwy'n gobeithio bod ysbryd a chynnwys y Mesur yma yn ddigonol i ddenu y mwyafrif angenrheidiol yng Nghyfnod 4 fel y gallwn greu Senedd i'r unfed ganrif ar hugain sy'n llwyr haeddiannol o ddyheadau bobl Cymru.