– Senedd Cymru am 3:00 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Eitem 4 ar yr agenda, felly, yw’r datganiadau 90 eiliad, a daw'r datganiad 90 eiliad cyntaf y prynhawn yma gan Leanne Wood.
Hoffwn i'n Senedd gydnabod y doniau canu sydd gennym yn y Rhondda. Rydym yn enwog am gorau meibion o'r radd flaenaf, ac mae eu doniau'n adnabyddus tu hwnt. Ond mae'n wych gweld bod gennym rai wynebau newydd. Mae côr yr ysgol yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn wedi bod yn datblygu enw da iawn dros y blynyddoedd diwethaf. Maent wedi ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd ac wedi ennill gwobr Côr Ifanc y Flwyddyn BBC Songs of Praise. Eu camp ddiweddaraf yw cael eu dewis i ganu ac ymddangos ar ymgyrch hysbyseb Nadolig Marks & Spencer. Bydd y gân y maent wedi'i recordio—fersiwn o Albatross gan Fleetwood Mac—yn cael ei chwarae o leiaf unwaith yr awr ym mhob siop M&S, a bydd miliynau yn rhagor yn eu clywed ar yr hysbyseb teledu dros yr wythnosau nesaf. Os yw hynny'n swnio'n ormod i chi, nid ydych wedi clywed eu sain anhygoel. Mae'n wirioneddol arbennig, ac rwyf wedi cael y fraint o'u clywed sawl gwaith dros y blynyddoedd. Efallai fod y disgyblion yn newid o flwyddyn i flwyddyn, ond mae'r rhagoriaeth yn parhau. Rwyf mor falch o weld y genhedlaeth nesaf o gantorion yn y Rhondda. Hir oes i'r canu rhagorol hwn.
Llongyfarchiadau, Llwyncelyn, a diolch yn fawr iawn.
Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd. Mae mis Tachwedd bob amser yn troi ein meddyliau tuag at gofio’r aberth a wnaed ar ein rhan, pan fyddwn yn rhoi amser yn ein bywydau i gofio’r gwasanaeth a’n diolch amdano. Ddydd Sadwrn, ymunais ag etholwyr o wahanol oedrannau a ffydd i gymryd rhan yng ngwasanaeth coffa'r llynges fasnachol ar risiau'r Senedd gydag Aelodau eraill yn y Siambr heddiw. Dyma'r nawfed flwyddyn yn olynol fel Aelod etholaethol i mi gael yr anrhydedd o osod torch wrth gofeb y morwyr. Dadorchuddiwyd y gofeb ym 1997—diolch i ymroddiad a gwaith caled dyn lleol, Bill Henke, y cefais y pleser o’i gyfarfod—i sicrhau na fyddai'r morwyr byth yn cael eu hanghofio. Ac ar ôl hynny, mae bob amser yn ysbrydoledig gwrando ar gyn-filwyr, nid yn unig o Dde Caerdydd a Phenarth, ond o bob rhan o dde Cymru—Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Y Barri, Casnewydd a thu hwnt—wrth iddynt sôn am eu profiadau yn y llynges fasnachol. Ac wrth gwrs, mae gan Butetown a'r hen Tiger Bay hanes morwrol balch. Mae wedi dod â'r byd i'n dinas, ac rydym yn gyfoethocach yn sgil hynny. Ond mae eu straeon yn rhyfeddol ac yn cael eu hanghofio'n rhy hawdd neu eu cymryd yn ganiataol. Mae'r aberth, y golled, y fuddugoliaeth a'r cyfeillgarwch parhaus wedi helpu i sicrhau'r rhyddid rydym yn ei fwynhau heddiw, ac rwy'n falch o fod yn gweithio gyda Chymdeithas y Llynges Fasnachol a chyngor Caerdydd i sicrhau bod y gofeb yn cael ei hadfer i'w gogoniant blaenorol. Rwy'n gobeithio y bydd yn parhau i fod yn ganolbwynt i sgyrsiau, myfyrdod a choffâd am genedlaethau i ddod.
Mike Hedges.
Eleni yw dau ganmlwyddiant genedigaeth John Humphrey. Roedd yn cael ei adnabod fel 'pensaer Duw' oherwydd y capeli a gynlluniodd, gan gynnwys y Tabernacl yn Nhreforys. Amcangyfrifir ei fod wedi cynllunio neu ailfodelu rhwng 30 a 44 o gapeli, ac fe'u hadeiladwyd ar draws canolbarth a de Cymru, rhwng Llanidloes, Pentre Rhondda a sir Gaerfyrddin, tra bo'r rhan fwyaf wedi'u hadeiladu yn Abertawe. Cynlluniodd bedair ysgol hefyd, gan gynnwys ysgol Terrace Road yn Abertawe, sy'n dal i fod ar agor.
Yr hyn a wnaeth llwyddiant John Humphrey yn syfrdanol oedd nad oedd wedi cael unrhyw gymwysterau na hyfforddiant pensaernïol. Saer coed ydoedd wrth ei grefft. Roedd ei dad bron yn sicr yn anllythrennog. Bu'n byw ar hyd ei oes fel oedolyn yn Nhreforys rhwng Stryd Martin a Stryd y Goron—pellter o tua 100 metr. Cynlluniodd gapeli o bob maint. Mae'n fwyaf adnabyddus, wrth gwrs, am y capel mwyaf, crandiaf a drutaf a adeiladwyd yng Nghymru— disgrifiad Anthony Jones o'r Tabernacl yn Nhreforys yn ei lyfr awdurdodol yn 1996, Welsh Chapels. Fel pob pensaer, roedd i'w gynlluniau eu nodweddion unigryw, yn fewnol ac yn allanol, fel ffenestri tenau yn y tu blaen, a chwymp y balconi y tu ôl i'r sedd fawr. Ond yr hyn rwy'n awyddus iawn i sôn amdano yw sut y daeth o ddechrau mor ddi-nod. Nid oedd ganddo unrhyw gymwysterau pensaernïol o gwbl. Pe bai'n ceisio dechrau adeiladu heddiw, byddai'n cael ei atal ar unwaith gan yr adran reoli adeiladu. Ond yr hyn a wnaeth, mewn gwirionedd, oedd cynhyrchu adeiladau gwych drwy Gymru benbaladr. Felly, credaf fod honno'n gamp aruthrol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.