7. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12.63 — Cwestiynau Llafar y Cynulliad

– Senedd Cymru am 3:13 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:13, 13 Tachwedd 2019

Mae'r eitem nesaf hefyd yn gynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12.63 ar gwestiynau llafar y Cynulliad. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM7185 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12.63 – Cwestiynau Llafar y Cynulliad’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2019.

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 12.63, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Neb yn cyfrannu i'r ddadl, felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, rŷn ni'n derbyn y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.