Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Diolch. Fel yr ydych chi wedi ei ddweud, Cymru sydd â'r cyfraddau rhoi organau uchaf yn y Deyrnas Unedig ac mae hyn yn llwyddiant ysgubol. Fel y bydd y Gweinidog yn ymwybodol, gall un unigolyn sy'n rhoi ei organau weddnewid bywydau wyth o bobl eraill o leiaf. Felly, a gaf i ofyn beth arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo rhoi organau mewn teuluoedd i fynd i'r afael â'r nifer fach o deuluoedd sy'n gwrthod rhoi organau? A hefyd, gydag organau gan roddwyr yng Nghymru yn rhan o gronfa ddata o organau ar draws Ewrop, pa drafodaethau ydych chi chi wedi eu cael am unrhyw heriau ar ôl Brexit?