Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Yr wythnos diwethaf, fe gafwyd cadarnhad bod sefyllfa Pacers Trafnidiaeth Cymru yn dal heb gael ei datrys, ac os na fydd yna gytundeb efo'r cerbydau yma, mae peryg y bydd yn rhaid tynnu rhai ohonyn nhw oddi ar y traciau, ac, yn amlwg, bydd hynny'n golygu y bydd gwasanaethau yn dirywio i bobl Cymru. Gaf i jest roi gair o rybudd i'ch Llywodraeth chi? Peidiwch â meddwl bod modd i chi israddio'r gwasanaethau yn y gogledd drwy dynnu trenau oddi ar y traciau, a thrwy redeg llai o wasanaethau, er mwyn i'r ardaloedd mwy poblog gael y trenau, ac er mwyn llenwi'r bwlch o golli'r Pacers. Mae'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig ar draws y gogledd ar hyn o bryd, ac o Gaerdydd i'r gogledd, yn jôc fel y mae hi.