Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Yn amlwg, mae rhoi organau yn gofyn am lawer iawn o broffesiynoldeb ac ymroddiad gan y staff sy'n rhan o'r maes penodol hwnnw o feddygaeth. Ein staff yw asgwrn cefn y GIG, Gweinidog iechyd, fel y byddwch chi, gobeithio, yn cytuno â mi. A wnewch chi, felly, gynnig ymddiheuriad heddiw am weithredoedd eich plaid yn ei darllediad gwleidyddol drwy ddefnyddio actores i ddynwared sylwadau nyrs pan fo hyn yn gwbl gamarweiniol ac mewn gwirionedd yn amharu ar broffesiynoldeb y gweithwyr iechyd sy'n gweithio ar draws ein gwasanaeth iechyd gwych?