Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Rŷch chi'n clochdar fan hyn fod y gwasanaeth yn un teilwng, ond, wrth gwrs, rŷch chi ddim ond yn gorfod edrych ar eich Twitter ffid chi heddiw, dwi'n siŵr, i sylweddoli gymaint o gwyno sydd yna'n barod gan gefnogwyr pêl-droed Cymru, sydd wedi ffeindio nad oes yna le iddyn nhw ar drenau o'r gogledd heddiw i deithio lawr i weld y gêm. Ble mae rheoli a rhagweld y gwasanaeth yma—gan wybod yn iawn y byddai yna filoedd o bobl eisiau teithio o'r gogledd? Unwaith eto, rŷch chi'n methu.