Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Mae hynny, mewn gwirionedd, yn rhan o bwynt a diben sefydlu'r ganolfan yn y lle cyntaf—i geisio sicrhau ein bod ni'n ymwreiddio'r hyn a ddysgwyd ar gyfer helpu i geisio sicrhau bod llai o Brofiadau Niweidiol mewn Plentyndod yn digwydd, ond rydym ni'n ymyrryd yn gynharach na hynny mewn gwirionedd i helpu i gefnogi'r plant a'u teuluoedd.
Fe allaf i ddweud, o ran y gyllideb, ei bod hi'n ystyriaeth wirioneddol gan Weinidogion ar hyn o bryd a chyn gynted ag y byddwn ni mewn sefyllfa i gyhoeddi ein cyllideb, rwy'n disgwyl y bydd gennym ni newyddion cadarnhaol i'r ganolfan ACE a'i gwaith parhaus ar draws y gwasanaethau cyhoeddus.