1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 19 Tachwedd 2019.
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Canolfan Gymorth ACE yng Nghymru? OAQ54703
Gwnaf. Mae'r ganolfan cymorth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn parhau i roi cyngor a chymorth arbenigol i wasanaethau cyhoeddus fel addysg, iechyd a thai, i'w helpu i weithredu mewn ffordd a hysbysir gan drawma.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Roeddwn i'n falch iawn o gael ymweld â'r ganolfan cymorth ACE sef Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod yr wythnos diwethaf a chyfarfod â'r tîm bychan yn y fan honno sy'n gwneud gwaith mor bwysig a thrawsnewidiol i sicrhau bod ymwybyddiaeth dda o ymarfer sy'n rhoi ystyriaeth i drawma yng Nghymru. Serch hynny, rwy'n ymwybodol iawn bod y cyllid ar gyfer y ganolfan yn dod i ben yn y dyfodol agos. Felly, pa sicrwydd a wnewch chi ei roi nid yn unig y bydd y gwaith pwysig hwn yn gallu parhau, ond y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth i sicrhau bod y gwaith hwnnw'n cael ei ymwreiddio'n llwyr ar draws holl Lywodraeth Cymru? Yn bwysicaf oll, beth allwn ni ei wneud i sicrhau ein bod ni yn lleihau mewn gwirionedd nifer y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yng Nghymru fel nad oes cymaint o angen am y gwaith hwnnw?
Mae hynny, mewn gwirionedd, yn rhan o bwynt a diben sefydlu'r ganolfan yn y lle cyntaf—i geisio sicrhau ein bod ni'n ymwreiddio'r hyn a ddysgwyd ar gyfer helpu i geisio sicrhau bod llai o Brofiadau Niweidiol mewn Plentyndod yn digwydd, ond rydym ni'n ymyrryd yn gynharach na hynny mewn gwirionedd i helpu i gefnogi'r plant a'u teuluoedd.
Fe allaf i ddweud, o ran y gyllideb, ei bod hi'n ystyriaeth wirioneddol gan Weinidogion ar hyn o bryd a chyn gynted ag y byddwn ni mewn sefyllfa i gyhoeddi ein cyllideb, rwy'n disgwyl y bydd gennym ni newyddion cadarnhaol i'r ganolfan ACE a'i gwaith parhaus ar draws y gwasanaethau cyhoeddus.
Diolch i'r Gweinidog.