Gwelyau Ysbyty

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 19 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:16, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Byrddau iechyd lleol sy'n gyfrifol am ddarparu digon o welyau mewn ysbytai i ddiwallu anghenion eu poblogaethau lleol drwy gydol y flwyddyn. Fel y Gweinidog iechyd, cyhoeddais £30 miliwn o fuddsoddiadau ychwanegol i ymdrin â phwysau'r gaeaf ddechrau mis Hydref. Mae hyn yn gynharach nag erioed o'r blaen er mwyn helpu i atal pobl rhag cael eu derbyn i'r ysbyty yn ddiangen ac i wella capasiti a chydnerthedd ar draws ein system.