Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Gweinidog, mae dwy flynedd a hanner wedi mynd heibio ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r buddsoddiad o £100 miliwn mewn parc technoleg, ar y pryd, yng Nglynebwy. Mae llawer o bobl yng Nglynebwy a'r rhan ehangach o Flaenau Gwent eisiau gweld beth sy'n digwydd i'r buddsoddiad hwnnw o £100 miliwn ac eisiau gweld tystiolaeth o'r buddsoddiad hwnnw yn cael ei wneud. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Llywodraeth wneud datganiad ar y mater hwn, a hoffwn wahodd Gweinidogion i Lynebwy i drafod gyda'r trigolion yno yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, i sicrhau bod y buddsoddiad hwnnw o £100 miliwn yn cael ei wireddu.