Gofal Iechyd Sylfaenol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 19 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:09, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Cefais fy hysbysu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar 16 Hydref bod meddygfa Gelligaer wedi gwneud cais ffurfiol i gau eu cangen yn y Gilfach, ger Bargoed. Mae honno'n feddygfa sydd wedi gweithredu fel meddygfa allgymorth o Gelligaer ers cryn amser. Mae dros 2,000 o gleifion yn y Gilfach a Bargoed yn mynychu meddygfa'r Gilfach, a phe byddai'n rhaid iddyn nhw symud, byddai'n rhaid iddyn nhw naill ai symud cryn bellter i Gelligaer neu i feddygfa Bryntirion gerllaw, sydd eisoes yn boblogaidd iawn.

Rwy'n cyfarfod â meddygon ym meddygfa Gelligaer ddydd Gwener i drafod hyn. Rwyf i hefyd yn paratoi llythyr gydag etholwyr i ysgrifennu at y bwrdd iechyd i gyflwyno'r achos i gadw'r feddygfa yn y Gilfach yn agored. Mae angen gwasanaethau meddygon teulu mwy hygyrch arnom ac mae angen dybryd i recriwtio meddygon teulu, yn enwedig i'w hyfforddi ac iddyn nhw weithio a byw yn y Cymoedd gogleddol mewn cymunedau fel Bargoed a'r Gilfach, o ble'r wyf i'n dod. Beth mae Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog Iechyd yn arbennig wedi ei wneud i gyrraedd y nod hwnnw o hyfforddi a recriwtio meddygon teulu a'u symud nhw i fyw a gweithio yn yr ardaloedd hynny yn y Cymoedd gogleddol?