Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Rydym ni'n manteisio ar bob cyfle i godi pryderon am fynediad at gyfiawnder yng Nghymru gydag adrannau yn Llywodraeth y DU. Yn yr un modd, nododd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru y graddau y mae pobl, er enghraifft, mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig y rhai y mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddyn nhw, er enghraifft, yn methu â chael mynediad at gyfiawnder.