Plant Mewn Gofal

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 19 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:25, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Gweinidog. Gyda niferoedd y plant sy'n derbyn gofal wedi cyrraedd y nifer uchaf ers dechrau cadw'r cofnodion yn 2003, nid wyf i'n synnu bod y Comisiwn ar Gyfiawnder wedi rhoi rhybudd. Rwy'n sylweddoli bod yna gynlluniau i weld gostyngiad o 4 y cant ar gyfartaledd ym mhob un o'r tair blynedd nesaf, ond mae angen ystyried dull ychwanegol. Nawr, er enghraifft, yn Lloegr, mae llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol (FDAC) yn helpu i ddatrys problemau i deuluoedd sydd mewn perygl o golli plant i ofal. Yn fwy felly, y dystiolaeth, yn sgil gwerthusiad FDAC Llundain, yw bod arbediad o £2.30, dros bum mlynedd, am bob £1 sy'n cael ei gwario. O gofio'r effaith gadarnhaol y gall FDAC ei chael ar deuluoedd ac ar bwrs y wlad, a wnewch chi roi gwybod inni sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar yr argymhelliad y dylid sefydlu llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol FDAC yma?