Plant Mewn Gofal

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 19 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:26, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol. Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, mae lleihau'n ddiogel niferoedd y plant sy'n cael eu derbyn i ofal yn flaenoriaeth, ac fe fydd hi'n ymwybodol o'r buddsoddiad a wnaeth y Llywodraeth o'r gronfa gofal integredig i geisio gwella'r sefyllfa'n gyffredinol. Mae hi'n cyfeirio'n benodol at waith y comisiwn cyfiawnder, ac rwyf innau, fel hithau, wedi darllen yr argymhellion a wnaeth y comisiwn. Mae trafodaethau yn parhau gyda'r barnwr cyswllt teulu dros Gymru, gyda'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru, a thrwy'r rhwydwaith cyfiawnder teuluol a byrddau cyfiawnder teuluol lleol. Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i gryfhau'r berthynas â'r farnwriaeth yn y maes hwn.

Ond y pwynt ehangach y mae hi'n ei wneud o ran argymhellion y Comisiwn—fe fydd hi wedi clywed datganiad y Prif Weinidog yn y Siambr ar yr argymhellion yn gyffredinol yn ddiweddar, ac fe fydd yna ddadl a chamau eraill yn cael eu cymryd yn y flwyddyn newydd a fydd yn rhoi cyfle i'r argymhellion hynny gael eu hystyried ymhellach ar lawr y Cynulliad hwn. Ond mae'r argymhellion a wneir yn gyfres o argymhellion ystyrlon a phendant iawn ar gyfer cael y system gyfiawnder y mae pobl Cymru'n ei haeddu, ac, yn benodol, i fynd i'r afael â'r mater pwysig iawn hwn o swyddogaeth a phresenoldeb plant sy'n derbyn gofal yn y system cyfiawnder troseddol.