Cyngor Cyfreithiol

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 19 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:24, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n deall, oherwydd natur agored iawn y cwestiwn gwreiddiol, nad wyf i mewn sefyllfa i ymateb yn fanwl i'r pwynt y mae hi newydd ei wneud ar gontract penodol, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n deall pam mae hynny. Ond rwyf i'n hapus, o ran y cytundeb lefel gwasanaeth y mae hi'n cyfeirio ato, i edrych i mewn i'r mater a gwneud yn siŵr fy mod i'n rhoi gwybod i'r aelod pan fyddaf i wedi cael unrhyw wybodaeth y gallaf i ei roi iddi hi.