Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Yn sicr, fe roddaf i'r sicrwydd hwnnw i'r Aelod. Bu mynediad at y system gyfiawnder, a'r llysoedd teulu yn benodol, yn fater y gwnaethom ni ei godi'n gyson gyda Gweinidogion yn Llywodraeth y DU. Ac mae'r pwynt y mae hi'n ei wneud am yr heriau sy'n wynebu unrhyw un sy'n ceisio cymorth cyfreithiol yn y rhan honno o system y llysoedd yn benodol, os caf i ddweud, yn un grymus. Mae rhan o'r dadansoddiad yr ydym wedi ymgymryd ag ef o ran effaith Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, yn benodol, wedi cwmpasu'r materion hynny y mae hi'n eu codi heddiw, ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud y sylwadau hynny ar ran defnyddwyr y system llysoedd yma yng Nghymru.