Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon i Lywodraeth y DU sawl tro am fenywod sydd wedi gweld eu hoedran ar gyfer derbyn pensiwn gwladol yn cael ei godi heb hysbysiad effeithiol na digonol. Fel y gŵyr yr Aelod, yn ddiweddar gwrthododd yr Uchel Lys adolygiad barnwrol o achos a gafodd ei ddwyn gan ddwy fenyw. Rwy'n ymwybodol o'r dyfarniad hwnnw ac yn aros am unrhyw apêl a allai ddod.