Oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 19 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:34, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Rwy'n ofni y bydd wedi cael llond bol arnaf i'r prynhawn yma. Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn, Llywydd, i atgoffa'r Siambr o raddfa'r broblem hon. Amcangyfrifir bod hyn yn effeithio ar 195,000 o fenywod ledled Cymru—dros 41,000 yn y rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli. Fe hoffwn i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol y prynhawn yma—fe soniodd ef yn ei ymateb am yr apêl sy'n mynd rhagddi—i edrych ac ystyried unwaith eto a oes unrhyw  ffordd y gall Llywodraeth Cymru ac yntau, o gofio effaith colli'r incwm hwnnw i Gymru o ran y menywod hynny nad ydynt yn cael y pensiynau hyn, ac a oes yna unrhyw ffordd y gallai ef roi cymorth i'r apêl, neu gyflwyno rhywfaint o dystiolaeth efallai—a rhan arall o Lywodraeth Cymru yn hytrach nag ef ei hunan fyddai'n gwneud hynny—i gefnogi'r apêl honno. Ac a gaf i ofyn iddo gynnal trafodaethau hefyd, yn enwedig yn dibynnu ar ganlyniad yr etholiad cyffredinol, wrth gwrs, gyda'i gyd-aelodau ef yn y Blaid Lafur ar lefel y DU? Nawr, maen nhw eisoes wedi addo ymestyn credyd pensiwn i'r menywod y mae hyn yn effeithio arnynt, ond budd-dal prawf modd yw hwnnw ac nid yw'n deg gofyn i'r menywod hynny sydd wedi colli budd-dal y mae ganddyn nhw'r hawl iddo ofyn am fudd-daliadau prawf modd er mwyn cael cyfiawnder. Felly, a gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a fydd ef neu'r unigolyn priodol yn Llywodraeth Cymru yn cyflwyno sylwadau ar ran y menywod hyn pe byddai ei blaid ef mewn grym? Mae pawb yn gwerthfawrogi maint y broblem hon, ond rwy'n siŵr y byddai ef yn cytuno â mi ei bod hefyd yn anodd peidio â sylweddoli graddfa'r anghyfiawnder.