Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb i gwestiwn Janet Finch-Saunders. Tybed a yw ef yn cytuno â mi, er bod y targed o 4 y cant ar gyfer lleihad cyffredinol i'w groesawu ac nad oes unrhyw un ohonom yn dymuno gweld plant yn cael eu derbyn i ofal yn ddianghenraid, ni ddylai nodau cyffredinol fel hyn ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n ymwneud â phlant unigol. Mae rhai gweithwyr cymdeithasol rheng flaen wedi dweud wrthyf y gallen nhw fod dan bwysau i beidio â dwyn achosion gofal gerbron mewn rhai amgylchiadau pan ddylen nhw, efallai, fod yn gwneud hynny. Felly, a wnaiff ef gytuno â mi na ddylai'r nodau cyffredinol hynny rwystro awdurdodau lleol rhag cymryd y camau cyfreithiol priodol i amddiffyn plentyn unigol, hyd yn oed os yw hynny'n effeithio ar eu gallu nhw i gyrraedd y targed a osodwyd gan y Llywodraeth, sydd braidd yn artiffisial yn fy marn i?