Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod yn croesawu'r datganiad? A gaf i ddweud hefyd mai'r hyn sydd ei angen fwyaf ar lywodraeth leol yw setliad ariannol sy'n eich galluogi i ddiwallu anghenion y cymunedau a wasanaethir? A beth bynnag sydd gan y Bil—ac mae llawer o bethau da iawn yn y Bil—y setliad ariannol yw'r gwir sbardun i lywodraeth leol.
Tri datganiad cadarnhaol iawn am y Bil: mae'n ddigon posib y bydd rhoi'r bleidlais mewn etholiadau llywodraeth leol i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn sicrhau bod pob un ohonom ni wleidyddion yn rhoi mwy o sylw i farn pobl ifanc 16 a 17 oed nag a wnaethom ni hyd yma—ac nid wyf yn eithrio fy hun rhag hynny, nid wyf yn eithrio aelodau eraill yma chwaith, ac yn sicr nid awdurdodau lleol.
Yn ail, galluogi ychwanegu pobl i'r gofrestr etholiadol heb gais os yw'r swyddog cofrestru etholiadol yn fodlon bod ganddo wybodaeth ddibynadwy fod yr unigolyn yn gymwys i gofrestru: mae a wnelo hyn nid dim ond â'ch gallu i bleidleisio, ond â'r holl bethau eraill sy'n ymwneud â bod ar y gofrestr etholiadol.
Caniatáu i brif weithwyr a swyddogion cynghorau sy'n dymuno sefyll mewn etholiad ymddiswyddo ar ôl iddynt gael eu hethol, yn hytrach nag wrth ddatgan ymgeisyddiaeth: rwy'n credu bod hynny'n gam mawr ymlaen. Ac mae'r ddau ohonom ni'n adnabod pobl sydd wedi rhoi'r gorau i'w swyddi ac yna sydd wedi methu cael eu hethol wedyn. Ond pryd ddylid ymddiswyddo—pan ddaw'r datganiad ei fod wedi ei ethol, neu cyn iddo lofnodi'r datganiad fel aelod etholedig? Gall fod pedwar neu bum diwrnod rhwng y ddau ddyddiad hynny.
Mae gennyf bryderon am y cylch pum mlynedd. Fe wnaethom ni gyflwyno cylch pum mlynedd ar gyfer y Cynulliad, ond gan edrych ar gylch pum mlynedd ar gyfer llywodraeth leol—. Ac roedd hynny i gyd-fynd â Senedd San Steffan, lle byddai tymor sefydlog, pum mlynedd—wel, aeth hynny'n dda, onid do? [Chwerthin.] Ond rwy'n credu bod pum mlynedd yn rhy hir. Rwy'n credu bod pedair blynedd yn iawn. Rwy'n credu bod tair blynedd yn well na phump, mae'n debyg, ond rwy'n credu bod pum mlynedd yn ymestyn elastig democratiaeth yn rhy bell, ac rwy'n gobeithio'n wir y byddem yn troi etholiadau'r Cynulliad, nad ydych chi'n gyfrifol amdanynt, ac etholiadau awdurdodau lleol, ill dau yn ôl i gylch pedair blynedd. Oherwydd nid oes angen i ni boeni am San Steffan; ymddengys eu bod yn gweithredu ar gylch dwy flynedd ar hyn o bryd. [Chwerthin.]
Rwy'n croesawu'r ddarpariaeth arfaethedig i'r prif gynghorau a'r cynghorau cymuned cymwys gael pŵer cymhwysedd cyffredinol. Yr unig ofid oedd gennyf, ac rwyf wedi ymgyrchu dros y pŵer cymhwysedd cyffredinol drwy gydol fy mywyd gwleidyddol, yw bod rhai o gynghorau Lloegr yn ne Lloegr wedi troi'r pŵer cymhwysedd cyffredinol yn allu i brynu stadau a chanolfannau siopa drwy Brydain benbaladr. Ac rwy'n credu y gallai fod angen rhywfaint o reolaeth dros y lefel gyffredinol honno o gymhwysedd—bod yn gymwys i wneud unrhyw beth yn eich ardal eich hun, nid yn gymwys i fynd a benthyg £30 miliwn i fynd a phrynu canolfan siopa yn rhywle. Nid wyf yn credu bod unrhyw un ohonom ni sydd wedi dadlau dros bŵer cymhwysedd cyffredinol yn y gorffennol wedi meddwl erioed mai ar gyfer hynny y byddai pobl yn defnyddio eu pŵer cymhwysedd cyffredinol.
A oes cynnig i'w gwneud hi'n haws i awdurdodau lleol gael gwared â'r tri swyddog gwarchodedig—y prif swyddogion cyllid, y swyddog monitro a phennaeth y gwasanaeth cyflogedig? Pe cawn i ei alw'n broblem Caerffili—. Oherwydd bod yr anhawster, neu'r amhosibilrwydd bron, o gael y tair swydd hynny wedi'u diogelu yn golygu, oni wneir rhywbeth, y byddai unrhyw awdurdod lleol arall a oedd â phrif weithredwr nad oedd yn barod i ymddiswyddo yn yr un sefyllfa'n union â Chaerffili ac fe allai yn wir wynebu mwy o broblemau yn y dyfodol.
O ran ymddygiad a rhoi arweinwyr grŵp yn gyfrifol am ymddygiad—syniad gwych. Yr unig broblem yw, fel y gwyddoch chi a minnau, mae'r bobl sy'n ymddwyn waethaf yn tueddu i beidio â bod yn perthyn i grwpiau. Maen nhw'n tueddu i fod yn unigolion, annibynwyr o wahanol liwiau. Nhw yw'r rhai sy'n tueddu i ymddwyn waethaf, yn fy mhrofiad i o lywodraeth leol ac, os meiddiaf ddweud, mannau eraill. Ac, mewn gwirionedd, a oes gennym ni gyfle i allu gweithredu rhywfaint yn erbyn y rheini, oherwydd os nad oes ganddyn nhw arweinydd plaid, yna wrth bwy ydych chi'n cwyno?
Ac, yn olaf, o ran systemau etholiadol, rwy'n credu bod honno'n ddadl gyfan yn ei rhinwedd ei hun. Os gallaf ddweud fy mod yn anghytuno'n sylfaenol â phob un gair y dywedodd Dai Lloyd amdano. Mae'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn gwastraffu mwy o bleidleisiau nag unrhyw system arall. Canlyniad mawr etholiad mewn cyngor yn yr Alban: tair sedd—y nifer mwyaf o bleidleisiau oedd 1,700, yn ail roedd 1,500, cafodd y trydydd person ei ethol gyda 354 o bleidleisiau, oherwydd bod gan y ddwy blaid fwyaf ofn rhoi dau ymgeisydd rhag ofn na châi neb ei ethol, a'r llall—. Felly, mae gwir angen inni ddechrau trafod hyn. A chredaf—. A hefyd—wel, yn olaf, fe ddywedaf y byddwn yn hoffi petai Dai Lloyd yn iawn wrth ddweud bod pobl yn pleidleisio mewn blociau pleidiol, oherwydd fy mhrofiad i yn Nhreforys yw eu bod yn tueddu i ddewis a dethol pan oedden nhw'n dewis pobl i'w cynrychioli a, diolch byth, y rhan fwyaf o'r amser fe wnaethon nhw fy newis i.