Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Nid yw'r datganiad yn rhoi unrhyw wybodaeth am ddosbarthiad daearyddol colli swyddi nac amserlenni ar gyfer ei weithredu. Fodd bynnag, rwyf wedi siarad â'r cwmni heddiw a dywedwyd wrthyf y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud yn ystod y misoedd nesaf i nodi, fesul swyddogaeth, pa swyddi fydd yn cael eu colli. Yna, bydd asesiad yn cael ei wneud o'r effaith fesul safle, ac yn cael ei weithredu erbyn Mawrth 2021. Bydd trafodaethau rheolaidd yn parhau i sicrhau ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru, yn cynnig cefnogaeth lawn i bobl sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol ledled y chwe safle yng Nghymru ac sy'n cael eu cyflogi'n anuniongyrchol o fewn y gadwyn gyflenwi.
O ran colli swyddi yng Nghymru, byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw, ac mae ein rhaglen ReAct yn barod i roi cymorth i weithwyr ledled safleoedd Tata Steel Cymru, gan gynnwys cymorth cydgysylltiedig gan bartneriaid lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i weithio gyda'r cwmni a'r undebau llafur i sicrhau dyfodol hirdymor i'r diwydiant dur yng Nghymru.
Mae'r datganiad yn dilyn y newyddion siomedig ar 2 Medi ynghylch bwriad Tata Steel i gau safle Orb Electrical Steels yng Nghasnewydd. Bu'r Prif Weinidog a minnau yn ymweld â safle Orb ar 13 Tachwedd i gyfarfod âg undeb y Gymuned, sydd wedi gweithio gydag ymgynghorwyr Syndex i lunio adroddiad yn amlinellu dewis arall yn lle cau Orb. Yn dilyn yr ymweliad hwn, siaradais i yn uniongyrchol â Henrik Adam, prif swyddog gweithredol Tata Steel Europe, a soniais am bwysigrwydd caniatáu digon o amser i ystyried cynnig y Gymuned ac, yn wir, unrhyw gynigion eraill a ddaw gerbron a allai gynnig dyfodol i'r safle. Byddaf i'n parhau i bwyso ar y cwmni ar yr union bwynt hwn.
Mae'r sector dur yn parhau i wynebu amrywiaeth enfawr o heriau, yn fyd-eang ac yn ddomestig, gan gynnwys gormod o gapasiti byd-eang, prisiau carbon a deunyddiau crai cynyddol, gwerthiant yn arafu, cynnydd mewn mewnforion, prisiau ynni uchel yn y DU a dirywiad yn y galw gan sectorau'r gadwyn gyflenwi megis y sector modurol.
Yn wyneb yr heriau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth sylweddol i'r diwydiant dur yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf. Yn benodol ar gyfer Tata, yn 2016 darparwyd £11 miliwn mewn cyllid sgiliau, o gyfanswm o £12 miliwn. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd wedi cynnig £8 miliwn o fuddsoddiad i gefnogi cynlluniau gweithfeydd pŵer Port Talbot a £660,000 ar gyfer ymchwilio a datblygu cynhyrchion newydd.
Yn fwy cyffredinol, rydym wedi cefnogi'r diwydiant dur drwy ddarparu £2 miliwn o gyllid ar gyfer sefydlu'r sefydliad dur a metelau ym Mhrifysgol Abertawe; rydym wedi cyhoeddi hysbysiad cyngor caffael sy'n cefnogi'r broses o gyrchu a chaffael dur cynaliadwy mewn prosiectau adeiladu a seilwaith yng Nghymru; ac, wrth gwrs, ni oedd y cyntaf i lofnodi siarter dur y DU. Rydym hefyd wedi darparu £6.8 miliwn o gyllid i Celsa Steel ar gyfer prosiectau gwella'r amgylchedd yn safleoedd y cwmni yma yng Nghaerdydd.
Rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi dangos ei chefnogaeth gadarn i'r diwydiant dur a'i bod wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r sector. Mae'n bryd yn awr i Lywodraeth y DU wneud yr un peth a chwarae ei rhan i gefnogi'r diwydiant dur, sy'n sector strategol hanfodol i'r DU gyfan, wedi'i leoli wrth wraidd llawer o gadwyni cyflenwi gan gynnwys y rhai adeiladu a modurol.
Rwy'n dal i alw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar feysydd nad ydyn nhw wedi'u datganoli, megis ynni, i fynd i'r afael â'r gwahaniaeth enfawr ym mhrisiau trydan rhwng cynhyrchwyr dur y DU a'u cymheiriaid yn Ewrop, a'r effaith andwyol a gaiff hyn ar gystadleurwydd.
Rwyf hefyd yn dal i bwyso ar Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen ar frys â chytundeb sector neu rywbeth cyfatebol ar gyfer dur, er mwyn darparu'r sylfaen ar gyfer diwydiant cynaliadwy. Mae'r sector yn galw am sicrwydd ynghylch Brexit, a'r prif beth y mae'n gofyn amdano gan y Llywodraeth yw mynediad di-dariff i farchnadoedd yr UE. Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol a minnau'n parhau i godi materion masnach sy'n ymwneud â Brexit gyda Llywodraeth y DU ar bob cyfle.
Dirprwy Lywydd, ysgrifennais at Andrea Leadsom, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ar 8 Hydref, yn gofyn iddi alw cyfarfod o Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r diwydiant dur, yn debyg i Gyngor Dur y DU. Roeddwn i'n falch pan gytunodd yr Ysgrifennydd Gwladol i alw cyfarfod bord gron ar ddur y DU ar 24 Hydref, ond roeddwn i'n siomedig ac yn rhwystredig dros ben fod y cyfarfod wedi'i ganslo gyda llai na 24 awr i fynd.
Mae'r cyhoeddiad ddoe yn brawf pellach bod y diwydiant dur yng Nghymru a ledled y DU yn parhau i wynebu amgylchedd gweithredu hynod heriol. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU bellach drin y sefyllfa sy'n wynebu'r diwydiant dur gyda'r brys a'r pwys y mae'n ei haeddu, drwy ailgynnull y ford gron ar ddur ar y cyfle cyntaf a chymryd camau pendant i ymdrin â rhai o'r materion sydd yn wynebu ein cynhyrchwyr dur.