5. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Tata Steel

– Senedd Cymru am 3:48 pm ar 19 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:48, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar Tata Steel. Galwaf ar y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ddoe, cyhoeddais i ddatganiad ysgrifenedig yn dilyn datganiad i'r wasg gan Tata Steel yn amlinellu manylion eu cynigion ar gyfer trawsnewid busnes Ewrop. Heddiw, hoffwn i achub ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cyhoeddiad hwn, a fydd, gwn i hynny, yn peri pryder i lawer ohonoch chi a'ch etholwyr.

Yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Mai eleni na fyddai'r fenter arfaethedig ar y cyd rhwng Tata Steel a ThyssenKrupp yn mynd yn ei blaen, cyhoeddodd Tata ei fod yn gweithio gydag ymgynghorwyr ailstrwythuro i ddatblygu cynllun trawsnewid newydd. Datganiad ddoe gan Tata Steel yw'r cyhoeddiad cyntaf y mae'r cwmni wedi'i wneud ynghylch canlyniad ei gynllunio ar gyfer gweddnewid.

Dywedodd y datganiad fod angen y rhaglen er mwyn gwella perfformiad ariannol y cwmni ar frys a sicrhau bod busnes Ewrop yn dod yn hunangynhaliol ac yn bositif yn ariannol, gan alluogi buddsoddiad i ddiogelu ei ddyfodol hirdymor.

Mae'r datganiad yn nodi'r pedwar maes y mae Tata yn bwriadu canolbwyntio arnynt i wella perfformiad ariannol. Mae'r rhain yn cynnwys gwell gwerthiant a chymysgedd cynnyrch, cynyddu effeithlonrwydd drwy optimeiddio prosesau cynhyrchu, costau caffael is a gostwng costau cyflogaeth. Fel rhan o'r ffocws ar ostwng costau cyflogaeth, mae Tata Steel wedi cyhoeddi ei fod yn amcangyfrif lleihad yn nifer y gweithwyr o hyd at 3,000 ledled ei weithrediadau yn Ewrop. Disgwylir y bydd tua dwy ran o dair o'r swyddi hyn yn cael eu lleoli mewn swyddfeydd.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:50, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Nid yw'r datganiad yn rhoi unrhyw wybodaeth am ddosbarthiad daearyddol colli swyddi nac amserlenni ar gyfer ei weithredu. Fodd bynnag, rwyf wedi siarad â'r cwmni heddiw a dywedwyd wrthyf y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud yn ystod y misoedd nesaf i nodi, fesul swyddogaeth, pa swyddi fydd yn cael eu colli. Yna, bydd asesiad yn cael ei wneud o'r effaith fesul safle, ac yn cael ei weithredu erbyn Mawrth 2021. Bydd trafodaethau rheolaidd yn parhau i sicrhau ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru, yn cynnig cefnogaeth lawn i bobl sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol ledled y chwe safle yng Nghymru ac sy'n cael eu cyflogi'n anuniongyrchol o fewn y gadwyn gyflenwi.

O ran colli swyddi yng Nghymru, byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw, ac mae ein rhaglen ReAct yn barod i roi cymorth i weithwyr ledled safleoedd Tata Steel Cymru, gan gynnwys cymorth cydgysylltiedig gan bartneriaid lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i weithio gyda'r cwmni a'r undebau llafur i sicrhau dyfodol hirdymor i'r diwydiant dur yng Nghymru.  

Mae'r datganiad yn dilyn y newyddion siomedig ar 2 Medi ynghylch bwriad Tata Steel i gau safle Orb Electrical Steels yng Nghasnewydd. Bu'r Prif Weinidog a minnau yn ymweld â safle Orb ar 13 Tachwedd i gyfarfod âg undeb y Gymuned, sydd wedi gweithio gydag ymgynghorwyr Syndex i lunio adroddiad yn amlinellu dewis arall yn lle cau Orb. Yn dilyn yr ymweliad hwn, siaradais i yn uniongyrchol â Henrik Adam, prif swyddog gweithredol Tata Steel Europe, a soniais am bwysigrwydd caniatáu digon o amser i ystyried cynnig y Gymuned ac, yn wir, unrhyw gynigion eraill a ddaw gerbron a allai gynnig dyfodol i'r safle. Byddaf i'n parhau i bwyso ar y cwmni ar yr union bwynt hwn.

Mae'r sector dur yn parhau i wynebu amrywiaeth enfawr o heriau, yn fyd-eang ac yn ddomestig, gan gynnwys gormod o gapasiti byd-eang, prisiau carbon a deunyddiau crai cynyddol, gwerthiant yn arafu, cynnydd mewn mewnforion, prisiau ynni uchel yn y DU a dirywiad yn y galw gan sectorau'r gadwyn gyflenwi megis y sector modurol.

Yn wyneb yr heriau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth sylweddol i'r diwydiant dur yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf. Yn benodol ar gyfer Tata, yn 2016 darparwyd £11 miliwn mewn cyllid sgiliau, o gyfanswm o £12 miliwn. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd wedi cynnig £8 miliwn o fuddsoddiad i gefnogi cynlluniau gweithfeydd pŵer Port Talbot a £660,000 ar gyfer ymchwilio a datblygu cynhyrchion newydd.

Yn fwy cyffredinol, rydym wedi cefnogi'r diwydiant dur drwy ddarparu £2 miliwn o gyllid ar gyfer sefydlu'r sefydliad dur a metelau ym Mhrifysgol Abertawe; rydym wedi cyhoeddi hysbysiad cyngor caffael sy'n cefnogi'r broses o gyrchu a chaffael dur cynaliadwy mewn prosiectau adeiladu a seilwaith yng Nghymru; ac, wrth gwrs, ni oedd y cyntaf i lofnodi siarter dur y DU. Rydym hefyd wedi darparu £6.8 miliwn o gyllid i Celsa Steel ar gyfer prosiectau gwella'r amgylchedd yn safleoedd y cwmni yma yng Nghaerdydd.

Rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi dangos ei chefnogaeth gadarn i'r diwydiant dur a'i bod wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r sector. Mae'n bryd yn awr i Lywodraeth y DU wneud yr un peth a chwarae ei rhan i gefnogi'r diwydiant dur, sy'n sector strategol hanfodol i'r DU gyfan, wedi'i leoli wrth wraidd llawer o gadwyni cyflenwi gan gynnwys y rhai adeiladu a modurol.

Rwy'n dal i alw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar feysydd nad ydyn nhw wedi'u datganoli, megis ynni, i fynd i'r afael â'r gwahaniaeth enfawr ym mhrisiau trydan rhwng cynhyrchwyr dur y DU a'u cymheiriaid yn Ewrop, a'r effaith andwyol a gaiff hyn ar gystadleurwydd.

Rwyf hefyd yn dal i bwyso ar Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen ar frys â chytundeb sector neu rywbeth cyfatebol ar gyfer dur, er mwyn darparu'r sylfaen ar gyfer diwydiant cynaliadwy. Mae'r sector yn galw am sicrwydd ynghylch Brexit, a'r prif beth y mae'n gofyn amdano gan y Llywodraeth yw mynediad di-dariff i farchnadoedd yr UE. Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol a minnau'n parhau i godi materion masnach sy'n ymwneud â Brexit gyda Llywodraeth y DU ar bob cyfle.

Dirprwy Lywydd, ysgrifennais at Andrea Leadsom, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ar 8 Hydref, yn gofyn iddi alw cyfarfod o Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r diwydiant dur, yn debyg i Gyngor Dur y DU. Roeddwn i'n falch pan gytunodd yr Ysgrifennydd Gwladol i alw cyfarfod bord gron ar ddur y DU ar 24 Hydref, ond roeddwn i'n siomedig ac yn rhwystredig dros ben fod y cyfarfod wedi'i ganslo gyda llai na 24 awr i fynd.

Mae'r cyhoeddiad ddoe yn brawf pellach bod y diwydiant dur yng Nghymru a ledled y DU yn parhau i wynebu amgylchedd gweithredu hynod heriol. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU bellach drin y sefyllfa sy'n wynebu'r diwydiant dur gyda'r brys a'r pwys y mae'n ei haeddu, drwy ailgynnull y ford gron ar ddur ar y cyfle cyntaf a chymryd camau pendant i ymdrin â rhai o'r materion sydd yn wynebu ein cynhyrchwyr dur.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:56, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ysgrifenedig a'i ddatganiad heddiw? Ac, wrth gwrs, byddwn i'n cytuno ag ef y bydd y cyhoeddiad hwn ddoe yn peri pryder mawr i weithlu Tata Steel ym Mhort Talbot a lleoliadau eraill ledled Cymru.

Rwy'n falch eich bod chi wedi cael trafodaeth gychwynnol heddiw, ac yn y drafodaeth honno, a oedd unrhyw arwydd o sut y gallai'r cyhoeddiad hwn effeithio ar y gweithwyr medrus yn safleoedd Cymru? Fe sonioch mai cwpl o fisoedd fyddai'r amserlen ar gyfer y dadansoddiad fesul swyddogaeth. Dyna gyfeiriwyd ato yn eich sgwrs y bore yma. A gawsoch chi unrhyw syniad o bryd y byddai'n bosibl disgwyl diweddariad, ac a wnaed unrhyw ymrwymiadau eraill ichi yn ystod y sgwrs honno? A pha drafodaethau a gawsoch chi yn dylanwadu ar y broses hon, os mynnwch chi, er budd safleoedd Cymru, wrth gwrs, yn eich sgwrs y bore yma?  

Bu cryn dipyn o gonsensws ar draws y pleidiau i gefnogi ein diwydiant dur ni hyd yn hyn, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno nad ydym eisiau colli hyn yng ngwres etholiad cyffredinol.

Roeddwn i hefyd yn falch, fel chithau, fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cytuno i alw cyfarfod bwrdd crwn dur y DU ar 24 Hydref. Fe wnaethoch sôn am eich siom a'ch rhwystredigaeth fod y cyfarfod hwnnw wedi'i ganslo ar y funud olaf, a gwn hefyd fod cyd-Aelodau yn Llywodraeth y DU yr un mor rhwystredig â'r ffaith bod UK Steel wedi canslo'r cyfarfod hwn ar y funud olaf, er iddo gael ei annog gan Lywodraeth y DU i barhau â'r cyfarfod hwn. Tybed a wnaiff y Gweinidog felly egluro a oes cryn dipyn o ymgysylltu wedi bod rhwng ei adran ef a swyddogion Llywodraeth y DU ar ddyfodol diwydiant dur y Deyrnas Unedig.

Ac wrth droi efallai at ambell i bwynt lle y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi, mae Tata Steel wedi dweud ei fod yn ceisio sicrhau'r sylfaen ar gyfer buddsoddiadau sydd eu hangen i gyflymu arloesedd a llwybr y cwmni tuag at wneud dur carbon-niwtral. Tybed beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r uchelgais hwn. Pa fesurau yr ydych chi yn eu hystyried i gynorthwyo gyda lleihau costau gweithredu a biwrocratiaeth, megis rhyddhad ardrethi busnes ar ôl Brexit er mwyn lleddfu'r pwysau ar y diwydiant, a sicrhau bod gan Tata Steel fusnes cystadleuol o ran adeiladwaith yma yng Nghymru? A oedd hyn yn rhywbeth yr oeddech chi wedi gallu ei drafod y bore yma yn eich cyfarfod? Ac yn olaf, a wnaiff y Gweinidog nodi hefyd pa brosiectau seilwaith penodol gan Lywodraeth Cymru fydd yn caffael dur Cymreig cartref, a fydd, wrth gwrs, o fudd i'r gadwyn gyflenwi ehangach yma yng Nghymru?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:00, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Russell George am ei gyfraniad a'i gwestiynau? Yn gyntaf oll, rwy'n cytuno'n llwyr y dylai cefnogaeth drawsbleidiol ar y mater pwysig iawn hwn gael ei gynnal yn ystod cyfnod yr etholiad presennol? Byddaf i'n dod at lefel yr ymgysylltu â Llywodraeth y DU mewn munud, ond gallaf ddweud bod y drafodaeth a gynhaliwyd y bore yma gyda Tata yn adeiladol iawn. Llwyddais i ganfod mwy o fanylion, ond mae arnaf i ofn na allaf roi asesiad penodol fesul safle o effaith y cyhoeddiad, oherwydd, fel y dywedais yn fy natganiad, bydd y gwaith a gaiff ei wneud yn y tri mis nesaf yn seiliedig ar swyddogaethau yn hytrach na safleoedd. Cyn gynted ag y bydd y data ynghylch y swyddogaethau ar gael, gall Tata wedyn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y modd y mae hyn yn effeithio ar bob un o'r safleoedd, ac rwy'n disgwyl i hynny fod tua mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Ac fel y dywedais, Dirprwy Lywydd, o fis Chwefror y flwyddyn nesaf hyd at fis Mawrth 2021, bydd y cyfnod gweithredu ar gyfer y rhaglen drawsnewid hon yn cael ei roi ar waith.

Rwy'n credu ei bod yn briodol dweud nawr bod Tata hefyd wedi rhoi sicrwydd imi y bydd yn anrhydeddu'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth ag undebau llafur ac y byddan nhw, o ganlyniad, yn ceisio osgoi diswyddiadau gorfodol. Nawr, rydym ni'n gwybod, o'r ffaith y bydd y rhan fwyaf o'r swyddi wedi'u lleoli mewn swyddfeydd, o ran y cyhoeddiad a wnaed eisoes ynglŷn ag Orb, y gallai'r swyddi sy'n goler las yn Orb dal i fod—neu y gallai'r bobl sy'n gweithio mewn swyddi coler las yn Orb dal i gael eu trosglwyddo i gyfleoedd eraill o fewn y teulu Tata ar hyd coridor yr M4. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion barhau i drafod hyn a'r rhaglen drawsnewid yn ehangach gyda Tata yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

O ran y drafodaeth bwrdd crwn a oedd fod digwydd fis diwethaf, er ei bod yn wir fod UK Steel wedi canslo'r cyfarfod, gwnaed hynny allan o rwystredigaeth, rhwystredigaeth na allai'r Ysgrifennydd Gwladol, yn anffodus, fod yn bresennol ar gyfer y cyfarfod llawn, ac felly mae gennyf i bob cydymdeimlad â UK Steel. Mae'n gwbl hanfodol ar yr adeg eithriadol o heriol hon bod pob Llywodraeth yn rhoi ei phwysau y tu ôl i gyd-ymdrech i ymdrin â'r heriau sy'n wynebu'r sector. Wedi dweud hynny, Dirprwy Lywydd, cefais gyfarfod adeiladol iawn fy hun, ar sail ddwyochrog, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol fis yn unig yn ôl, ac awgrymais i i'r Ysgrifennydd Gwladol y byddai o fantais inni rannu, lle bo hynny'n bosibl, adnoddau dynol ein dwy Lywodraeth. Ac roeddwn i'n falch iawn bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cytuno bod hwn yn syniad da ac rydym ni bellach yn bwrw ymlaen â hynny. Rwy'n meddwl am ddau reswm—un yw dyfodol dur, a'r llall yw dyfodol y sector modurol—mae angen i'n llywodraethau ni weithio'n agos iawn gyda'i gilydd a disgwyliaf i'n swyddogion wneud hynny.

Fe wnaeth Tata siarad yn ei ddatganiad am y dyfodol carbon-niwtral ar gyfer cynhyrchu dur ac roedd Russell George yn iawn i ofyn pa fath o gymorth a all fod ar gael gan Lywodraeth Cymru o ran hyn. Drwy ein cynllun gweithredu economaidd, rydym bellach wedi creu'r lens newydd ar gyfer asesu ceisiadau am arian grant ac mae un o'r gofynion hynny'n ymwneud â datgarboneiddio. Yn fy marn i, os gallwn gydblethu cyfleoedd o strategaeth ddiwydiannol y DU a chynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru, gallwn gefnogi ymdrech Tata i gynhyrchu dur carbon-niwtral. Ond er mwyn gwneud y gorau o'r cyfleoedd hynny o fewn strategaeth ddiwydiannol y DU, mae angen dod i gytundeb sector dur ar frys.

Ac o ran cymorth arall a all fod ar gael, dulliau eraill a all fod ar gael i ddarparu cyfleoedd i Tata a chynhyrchwyr dur eraill yng Nghymru, wel, mae'r fargen ddinesig ym Mae Abertawe yn un ffordd amlwg o gefnogi'r sector, a hefyd, fel y nododd Russell George, raglenni seilwaith mawr. Ac o ganlyniad i'r ffaith mai Llywodraeth Cymru oedd y gyntaf i lofnodi siarter dur y DU, mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod cymaint o ddur Cymru â phosib yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau seilwaith mawr. Ac o fewn y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, a gyhoeddwyd y mis hwn, mae yna brosiectau sylweddol a allai ddefnyddio dur sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru, a disgwyliaf i Tata allu manteisio ar y pwrs cyhoeddus a'r cyfleoedd caffael sydd bellach ar gael iddo.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:05, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, mae hyn yn rhagor o newyddion ofnadwy i'r diwydiant dur yng Nghymru a'r unigolion cysylltiedig, sydd bellach yn pryderu y bydd rhagor o effaith ar swyddi yma yng Nghymru, er, wrth gwrs, mae'n ansicr iawn ar hyn o bryd lle y bydd y toriadau'n digwydd. Rwy'n credu ei bod yn glir hefyd fod gennym ni achos yma o weithwyr, ble bynnag mae'r swyddi hynny'n mynd, yn talu'r pris am y ffordd yr aeth y fenter ar y cyd â ThyssenKrupp i'r wal, a'r diffyg cynllun B pe bai'r cyd-fenter yn chwalu. Mae wedi dod i fy sylw i, yn sicr, fod undebau wedi rhybuddio Tata ar sawl achlysur na ddylen nhw ddibynnu'n llwyr ar un opsiwn; fe ddylen nhw edrych ar opsiynau eraill hefyd. A byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gan y Gweinidog pa rybuddion tebyg y byddai Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi.

Yn sicr, yn ystod fy chwe blynedd fel Aelod Cynulliad, mae wedi bod yn gyfnod o ansicrwydd di-baid. Rywsut, cyhoeddiad ar ôl cyhoeddiad am golli swyddi, gohirio bob hyn a hyn, ac rwy'n ddiolchgar am yr adegau y mae cyllid wedi'i ddarparu ar gyfer prosiectau amrywiol sydd wedi rhoi achubiaeth ar wahanol adegau. Rwy'n sicr yn cytuno â'r Gweinidog pan ddywed fod angen i Lywodraeth y DU dynnu ei bys allan. I mi, nid yw'n dangos ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r diwydiant hynod bwysig hwn i Gymru.

Hefyd, rwy'n cwestiynu pa ddylanwad yr ydych chi yn Llywodraeth Cymru yn ei gredu sydd gennych chi. Ydy, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n gadarnhaol, mae wedi darparu arian drwy gynlluniau hyfforddi ar gyfer gwahanol gynlluniau pŵer, ac ymchwil a datblygu hefyd. Ond pa ddylanwad sydd gennych chi mewn gwirionedd? Gyda swyddi mewn perygl, ar yr ochr orau nawr, a oes elfen hyd yn oed o ddylanwadu ar eich cysylltiad â Tata er mwyn diogelu'r swyddi hynny a gafodd miliynau o bunnoedd o arian Llywodraeth Cymru ar gyfer hyfforddiant? A yw'r swyddi hynny a gafodd eu hyfforddi gan ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru yn ddiogel? A yw'r swyddi hynny sydd wedi elwa'n uniongyrchol o becynnau cymorth yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn mynd i gael eu gwarchod oherwydd eich bod yn credu bod gennych chi ryw fath o ddylanwad?

Mae'r mater o ddur Orb yng Nghasnewydd yn un sy'n peri pryder hefyd, wrth gwrs. Mae gennym ni Tata yma yn dweud eu bod am arallgyfeirio i gynhyrchion newydd—cynhyrchion y bydd eu hangen ar farchnadoedd yn y dyfodol. Gwyddom mai dyna oedd yn cael ei gynhyrchu yng Nghasnewydd. A phan ddywedasoch funud yn ôl eich bod wedi gofyn i brif weithredwr Tata am ddigon o amser i ystyried cynigion a oedd wedi'u rhoi ar y bwrdd, a allech chi roi syniad inni o'r hyn a olygir gan 'ddigon o amser '? Beth yw'r amserlen? Ac yna, wyddoch chi, pan wyf i a'm plaid wedi bod yn siarad am gynnal uwch-gynhadledd weithgynhyrchu sylweddol i Gymru er mwyn dechrau mapio siâp gweithgynhyrchu yng Nghymru am flynyddoedd i ddod, y math o beth sydd gennyf i mewn golwg yw sector gweithgynhyrchu, sylfaen ddiwydiannol, lle mae angen i Orb fod yng Nghasnewydd, un sydd ag uchelgeisiau, boed hynny'n weithgynhyrchu cerbydau trydan neu'n elfennau cysylltiedig o'r sector cerbydau trydan, lle mae angen i Orb fod yng Nghasnewydd. A byddai hynny ynddo'i hun yn gallu helpu i ddadlau'r achos. Felly, byddaf yn ei adael yno am nawr.

Mae'n rhyddhad, mewn ffordd, nad yw colli swyddi, lle mae hynny'n digwydd, yn mynd i ddigwydd tan, rwy'n credu, fis Mawrth 2021, sydd o leiaf yn rhoi ychydig o amser. Ond mae angen inni wybod nawr bod Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn ceisio defnyddio ei dylanwad, cyn gymaint ag y mae'n credu sydd ganddi, gan edrych ar yr un pryd tuag at Lywodraeth y DU i ddangos ei bod o ddifrif am y diwydiant dur.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:09, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau ac am nodi rhai pwyntiau arwyddocaol a phwysig iawn? Un: y cwestiwn o faint o ddylanwad sydd gan Lywodraeth Cymru dros yr hyn sydd i raddau helaeth yn broblem yn y DU—a gallech chi ei ymestyn a dweud mai problem Ewropeaidd yw hon mewn rhai ffyrdd, ac mewn ffyrdd eraill, mae'n broblem fyd-eang. A oes gan Lywodraeth Cymru y gallu i wir ddylanwadu ar faterion capasiti byd-eang? Nac oes. A oes gan Lywodraeth Cymru y gallu i fynd i'r afael â'r costau ynni anghymesur o uchel? Nac oes, Llywodraeth y DU all wneud hynny, a rhaid iddi weithredu. A oes gan Lywodraeth Cymru y gallu i ddylanwadu ar y galw am ddur o fewn y sector modurol yn Tsieina ac yn yr Unol Daleithiau? Nac oes. Felly, yr hyn y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei wneud yw canolbwyntio ar yr heriau hynny y gallwn ni helpu Tata i fynd i'r afael â nhw, a chydweithio â Tata. Yn amlwg gallwn ni gynorthwyo, ac rydym yn amlwg yn cynorthwyo, o ran datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gweithgynhyrchu uwch yn y dyfodol, gan gynnwys dur. Gallwn fod o gymorth gyda datgarboneiddio eu hôl troed; yn wir, dyna'n union beth yr ydym ni'n ei wneud. Gallwn helpu gydag ymchwil a datblygu, ac, unwaith eto, rydym ni'n gwneud yr union beth hwnnw. Ond mae'r newidiadau mawr y gellid eu gwneud i gynorthwyo Tata yn ei raglen drawsnewid o fewn y DU yn nwylo Llywodraeth y DU.

Gallai Llywodraeth y DU wneud tri pheth yn gyflym ac yn gymharol syml. Yn gyntaf oll, cynnull y cyngor dur hwnnw. Yn ail, gallai Llywodraeth y DU fynd i'r afael â gwahaniaethau mewn prisiau o ran ynni, ac mae'n ffaith bod cynhyrchwyr dur y DU yn wynebu costau uwch o 80 y cant am ynni na'r Ffrancwyr, a chostau uwch o 62 y cant na'r Almaenwyr. Gallai Llywodraeth y DU ymdrin â hynny, wrth i'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a'r Trysorlys weithio gyda'i gilydd. Y trydydd maes lle gallai Llywodraeth y DU wneud cynnydd sylweddol yw gyda'r cytundeb sector hwnnw. Pam? Wel, oherwydd bod y cytundeb sector yn gofyn am gyfraniadau, buddsoddiad, gan fusnesau dur. Nawr, er mwyn cyflawni'r cytundeb sector hwnnw, mae angen iddyn nhw sicrhau bod digon o arian ar y bwrdd i ddatgloi buddsoddiad gan Tata a busnesau dur eraill. Dywedodd Tata wrthyf y bore yma fod y rhaglen drawsnewid hon yn ymwneud â sicrhau y gallan nhw fuddsoddi mewn gwariant cyfalaf er mwyn cynnal y safleoedd sydd gennym ni yn y DU ac yn Ewrop.

Nawr, bydd Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo lle y gall, ond roedd y cwestiwn hwnnw a ofynnwyd gan Rhun ap Iorwerth yn eithriadol o bwysig, ac mae'n gwbl briodol ein bod yn edrych ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud hyd yn hyn, ond byddwn yn ystyried yn fanylach eto ble mae angen i Lywodraeth y DU ddarparu yn y dyfodol. Ac, nid wyf i'n mynd i ymddwyn fel sylwebydd ar yr hyn a wnaeth neu'r hyn na wnaeth Tata, yr hyn y dylai neu na ddylai Tata fod wedi ei wneud, ar yr adeg yr aeth y drafodaeth ynghylch cyd-fenter ThyssenKrupp i'r wal. Ond mae'n eithaf clir mai'r rhaglen drawsnewid yw'r cynllun B hwnnw y mae undebau wedi gofyn amdano. Nawr, byddwn ni'n gweithio gyda'r sector cyfan, byddwn ni'n gweithio gyda Tata i ddod o hyd i gyfleoedd i ddarparu cydnerthedd lle y gallwn ni, ond mae'n rhaid inni gydweithio â Llywodraethau eraill.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:13, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ddoe, ac, unwaith eto, am y datganiad hwn heddiw a'r cyfle i ofyn cwestiynau ac i egluro ychydig o bwyntiau o ran y newyddion gan Tata am y posibilrwydd o golli 3,000 o swyddi ac agweddau eraill a amlygwyd gan y pedwar pwynt? Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod bod y 3.000 o swyddi a gollir yn digwydd ledled Ewrop, ond os ystyriwn fod traean o'r rheini efallai yn y DU, mae hynny'n mynd i fod yn un rhan o wyth o'r gweithlu yn y DU, sef 1,000 o swyddi ledled y DU, ac mae'r rhan fwyaf o weithfeydd Tata y DU yn mynd i fod yng Nghymru. Felly mae'n effeithio'n enfawr ar swyddi a gweithlu Cymru.

A gadewch inni fod yn onest yma: mae pedair blynedd wedi mynd heibio ers inni weld yr heriau a ddaeth i Tata pan gaewyd Redcar yn 2015, ac rydym wedi gweld y gweithwyr dur yn mynd trwy lawer o newidiadau yn ystod y pedair blynedd hynny—i fyny ac i lawr—amseroedd anodd ac yna bydden nhw'n cael rhyddhad, ac yna mwy o amseroedd anodd a mwy o heriau. Ac mae hyn wedi cael effaith ofnadwy ar weithwyr dur a'u teuluoedd, gyda'r holl straen a phryder yn ei gylch. A'r cyhoeddiad yr ydych chi newydd ei nodi heddiw, Gweinidog, y bydd yn annhebygol y cawn wybod ymhle y gwelir colli swyddi ac na chawn wybod ynghylch y gweithredu tan 2021—18 mis arall—mae hyn yn mynd i ychwanegu mwy o ansicrwydd i'r teuluoedd hynny ac i'r gweithwyr dur hynny, gan y byddan nhw'n mynd i'r gwaith bob dydd yn meddwl efallai na fydd swydd ganddyn nhw ymhen 12 mis. Mae'n rhywbeth, mewn gwirionedd, y mae angen i Tata fynd i'r afael ag ef yn gyflym, yn hytrach na'i adael mor hwyr. Rwy'n sylweddoli eu bod yn gwneud eu gwaith, yn yr ystyr eu bod yn mynd i edrych yn fanwl ar hyn. Ond mae'n gadael yr ansicrwydd hwnnw ym meddyliau pobl am y misoedd sydd o'n blaenau, ac mae angen inni fynd i'r afael â hynny, ac mae hynny'n bwysig iawn.

Rwyf hefyd yn croesawu eich bod wedi tynnu sylw at elfen y gadwyn gyflenwi, oherwydd, unwaith eto, agwedd y gadwyn gyflenwi yw hon, 'Beth maen nhw'n ei wneud yn ystod y 18 mis nesaf? Ble maen nhw'n mynd i fod yn rhoi eu gweithlu a'u pwyslais? Sut maen nhw'n mynd i ystyried buddsoddi a sicrhau'r agwedd honno a gwneud yn siwr eu bod yn mynd i'r afael â'r arbedion effeithlonrwydd a'r optimeiddio y mae Tata yn tynnu sylw atynt eu hunain?

Rhan arall o'r datganiad sy'n peri gofid—os edrychwch arno'n ofalus iawn, mae'n cyfeirio at enillion cyn llog, treth, dibrisiant ac amorteiddio'n gostwng 90 y cant yn y flwyddyn ariannol hon. Maen nhw'n gweld gostyngiad o 90 y cant. Mae'r gostyngiad yn y ffigurau hynny yn enfawr, ac felly mae'n rhaid inni edrych yn ofalus iawn ar ddyfodol cynaliadwy cynhyrchu dur.

Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at ddympio yn eu datganiad, a sut mae hynny wedi effeithio ar y farchnad fyd-eang, ac, unwaith eto, mae'n rhaid inni alw ar Lywodraeth y DU i wneud mwy i gael yr UE i osod camau amddiffyn uwch, tra'r ydym yn dal i fod yn aelodau o'r UE. Ond hefyd, os ydym ni'n mynd i adael yr UE, beth yw'r mecanwaith amddiffyn sy'n mynd i fod ar waith ar gyfer y DU i ddiogelu rhag dympio'r dur hwn o lefydd eraill, oherwydd y rhyfel masnach rhwng Tsieina ac America? Dyna beth sy'n achosi rhai o'r problemau hynny. A bod yn blaen, roeddem yn gwybod, y tro diwethaf, na wnaeth y DU ddim i wthio'r UE i roi'r tariffau ar ddur o Tsieina. Gwledydd eraill yr UE wnaeth hynny, felly nid oes gennyf i unrhyw ffydd, ar hyn o bryd, yn Llywodraeth y DU yn rhoi unrhyw beth mewn grym i atal y dympio hwnnw rhag digwydd. A wnewch chi, unwaith eto, godi'r materion hynny gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y gallwn ni amddiffyn dur y DU rhag cyrch gan fewnforion rhad o genhedloedd eraill?

Gweinidog, mae'r datganiad hefyd yn tynnu sylw at gynnydd mewn gwerthiannau ym mhen ucha'r farchnad, ac mae hynny'n golygu gwariant cyfalaf. A ydych chi wedi cael trafodaethau gyda Tata ynghylch lle y gallent fod eisiau rhoi gwariant cyfalaf ar waith i gael gwerthiannau pen ucha'r farchnad, i gael y cynhyrchion, fel y llinell galfaneiddio cablau ym Mhort Talbot neu'r llinell Zodiac yng Nghasnewydd, er mwyn sicrhau y gallwn ni gael cynnyrch sy'n gwerthu ym mhen ucha'r uchel? Oherwydd sawl gwaith maen nhw wedi dweud wrthyf, os gallant gael mwy o hynny, mae'n cynyddu eu helw a maint yr elw o ganlyniad i hynny.

Soniodd am Orb, ac, unwaith eto, mae'r cwestiwn yn codi, pan wnaed y cyhoeddiad ynghylch Orb, roedden nhw'n sôn am drosglwyddo'r swyddi hynny i'r gweithfeydd yn ne Cymru, yn enwedig ym Mhort Talbot: ble mae hyn yn dod o fewn hynny, oherwydd, os ydyn nhw'n sôn am golli swyddi ym Mhort Talbot, ac rydym ni wedi clywed bod hynny tua thraean y swyddi coler glas a thua dwy ran o dair o'r swyddi coler gwyn. Felly mae swyddi coler glas yn mynd, a ble fydd y swyddi hynny'n cael eu colli? Os bydd modd i bobl o Orb fynd i'r gweithfeydd eraill, sut mae hynny'n cyd-fynd â'r cynllun hwn?

Fe wnaethoch sôn hefyd am fargen ddinesig bae Abertawe fel rhan o'ch ateb chi i Russell George ac, eto, efallai y gall Llywodraeth Cymru roi ymrwymiad i'r modd y bydd yn gweithio gyda bargen ddinesig bae Abertawe, yn enwedig y prosiect gwyddor dur, i ystyried, efallai, yr agenda niwtral o ran carbon y mae Tata yn sôn amdani fel rhan o'r fargen honno, a gallwn ni ddangos yr ymrwymiad parhaus i ddyfodol y diwydiant dur yma yng Nghymru drwy'r prosiect hwnnw. Eto, byddai ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hynny'n cael ei groesawu'n fawr.

Cytunaf hefyd â chi, yn bendant iawn, bod yn rhaid cadw at y memorandwm cyd-ddealltwriaeth â'r undebau llafur, gan fod gweithwyr dur wedi ildio eu cyfraniadau pensiwn a'u hawliau ac wedi newid i gynllun newydd gyda'r ymrwymiad hwnnw a roddwyd gan Tata. Ni allan nhw gefnu ar yr ymrwymiad hwnnw. Mae'n rhaid iddyn nhw wneud yn siŵr bod y diffyg—felly, mae'r swyddi gorfodol wedi mynd. Os cofiaf yn iawn, byddent yn cadw unrhyw ddiswyddiadau gorfodol tan 2026. Rhaid iddyn nhw gyflawni hynny. Ni allant gerdded i ffwrdd, oherwydd mae'r gweithwyr dur wedi rhoi popeth iddyn nhw. Maen nhw wedi rhoi eu cyfraniadau a newidiadau pensiwn iddyn nhw, maen nhw wedi rhoi eu hymrwymiad iddyn nhw, maen nhw wedi rhoi newidiadau cynhyrchiant iddyn nhw. Maen nhw hyd yn oed wedi derbyn colli swyddi pan oedd angen. Bellach mae'n amser i Tata roi rhywfaint o hynny yn ôl i'r gweithwyr a rhoi amddiffyniad iddyn nhw, ac anrhydeddu'r ymrwymiad hwnnw—

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Ac yn olaf, ymunaf â chi, Gweinidog—. Rwy'n gwerthfawrogi, Dirprwy Lywydd, ond i'm hetholwyr mae hyn yn hollbwysig. Mae'n hanfodol i ddyfodol fy nhref i, ac felly mae'n bwysig ein bod ni'n cael yr agweddau hyn yn glir. Ymunaf â chi o ran y cwestiwn am Lywodraeth y DU. Rydym wedi bod yn poeni'n arw am lawer iawn o flynyddoedd am eu hymrwymiad i'r diwydiant dur. Mae hwn yn ddiwydiant sylfaenol, nid i Gymru'n unig, ond i'r DU. Rhaid i unrhyw genedl weithgynhyrchu gael diwydiant dur cryf, ac, os nad ydyn nhw eisiau bod yn genedl weithgynhyrchu, dylent gyhoeddi hynny'n glir. Dweud beth yw eu cynlluniau; peidio â mynd y tu ôl i ddrysau caeedig i wneud hyn. Mae angen cytundeb â'r sector dur. Mae angen cyngor dur arnom. Mae angen ymrwymiad gan Lywodraeth y DU ei bod yn gweld bod gan ddur ddyfodol yma yn y DU. A wnewch chi fynd â'r negeseuon hynny i Lundain os gwelwch yn dda?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Yn wir, fe wnaf hynny. A gaf i ddiolch i Dai Rees nid yn unig am ei gwestiynau ond hefyd am ei frwydr ddiflino dros waith dur Port Talbot ac yn wir dros ddur y DU yn fwy cyffredinol? Dirprwy Lywydd, gwnaeth Dai Rees y pwynt pwysig iawn bod rhyfel masnach yr Unol Daleithiau-Tsieina yn dylanwadu ar yr heriau ac yn cyfrannu at yr heriau y mae Tata a'r diwydiant dur yn y DU yn eu hwynebu ar hyn o bryd, gan atal y galw o fewn y ddwy wlad. Nid wyf yn credu y bydd Donald Trump yn gwneud cymwynas â sector dur y DU, ond pan gytunir ar y cytundeb masnach hwnnw, bydd hynny'n rhyddhau potensial cynhyrchwyr dur o fewn y DU ac Ewrop ac yn darparu cyfleoedd yn benodol i Tata o fewn y gadwyn gyflenwi modurol.

Mae Dai Rees yn llygad ei le fod yn rhaid buddsoddi gwariant cyfalaf yn y cynhyrchion hynny a fydd yn cynnig y gwerth uchaf a'r lefelau enillion uchaf, ac mae un o bedwar maes gwaith y rhaglen drawsnewid yn ymwneud â'r angen i wella'r cymysgedd cynnyrch o fewn Tata. Byddwn i'n cytuno â Dai Rees fod yn rhaid ad-dalu teyrngarwch y gweithwyr gan anrhydeddu'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth, ac rwy'n falch iawn fy mod wedi cael y sicrwydd ddoe ac yn wir heddiw gan Tata y byddai'n anrhydeddu'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth.

Gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw fod cynlluniau eisoes yn cael eu gwneud ar gyfer uwchgynhadledd fodurol ar 5 Rhagfyr, ac ar gyfer uwchgynhadledd weithgynhyrchu ehangach yn y flwyddyn newydd, i ystyried y cyfleoedd, ond hefyd yr heriau y mae gweithgynhyrchu uwch a'r sector dur yn eu hwynebu yn yr unfed ganrif ar hugain. Rwy'n mynd i sôn yn fyr am Orb. Gwn fod hwn yn gyhoeddiad ar wahân i newyddion ddoe, ond mae nifer o'r Aelodau wedi gofyn am ganlyniadau cyhoeddiad ddoe i'r gweithwyr hynny yn Orb. Rwyf i hefyd yn ei chael hi'n anodd dweud sut y gallai Tata golli 3,000 o swyddi yn Ewrop ond ar yr un pryd y gallai ddod o hyd i gyfleoedd i gynifer o weithwyr ffyddlon a medrus o Orb. Ond, fel y dywedais ychydig yn gynharach, bydd y rhan fwyaf o'r swyddi a gaiff eu colli oherwydd y cyhoeddiad ddoe wedi'u lleoli mewn swyddfeydd, tra bo'r rhan fwyaf o'r swyddi sy'n mynd i gael eu colli yn Orb yn swyddi coler glas. Dywedwyd wrthyf heddiw eto eu bod yn hyderus iawn y byddan nhw'n gallu dod o hyd i gyfleoedd o fewn Tata ar gyfer y gweithwyr hynny sy'n dymuno aros mewn cyflogaeth gyda Tata.

Cyfeiriais at y gadwyn gyflenwi yn fy natganiad. Soniodd Dai Rees hefyd am yr angen i ddarparu rhywfaint o sicrwydd ar gyfer y gadwyn gyflenwi ac, unwaith eto, dyna'r rheswm pam fy mod yn credu ei bod mor bwysig bod cyfarfod o fwrdd crwn y cyngor dur yn digwydd cyn gynted â phosib. Rwyf hefyd yn credu mai gorau oll po gyntaf y gall Tata roi gwybod i'r gweithwyr beth yw eu tynged. Yn amlwg, nid yw mynd trwy'r Nadolig a'r flwyddyn newydd a'u ffyniant ar gyfer y dyfodol yn y fantol yn sefyllfa dda i fod ynddi. Bydd yn cael sylw erbyn mis Chwefror, ond rwy'n obeithiol y bydd Tata yn gallu rhoi mwy o fanylion i gynifer o bobl â phosib cyn hynny.

Ac, o ran y fargen ddinesig, fel y dywedais i yn fy natganiad, rydym eisoes wedi darparu miliynau lawer o bunnoedd ar gyfer y sefydliad ym Mhrifysgol Abertawe, ac roeddwn yn falch hefyd bod CCAUC wedi dyfarnu £3 miliwn pellach i'r sefydliad. Nawr, o ran bargen dinas bae Abertawe, mae yna gynnig ar gyfer canolfan arloesi dur genedlaethol—fe'i gelwid yn ganolfan gwyddor dur gynt—a chynlluniwyd honno i adeiladu ar y sefydliad bellach. Mae'r cynnig yn rhan o brosiect ehangach, sef cefnogi arloesedd a thwf carbon isel. Mae'r prosiect yn dal i gael ei ddatblygu—nid yw wedi cael ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Llywodraeth—ond rwy'n gwbl sicr y gallai gyfrannu at ddatblygu detholiad ehangach o gynhyrchion y gallai Tata eu darparu yn y dyfodol.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:24, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad, Gweinidog, ac wrth gwrs byddwn yn gweithio'n drawsbleidiol dros ein hetholwyr, oherwydd bu hwn yn gyfnod pryderus iddyn nhw, gan fod hanner gweithlu Tata yn y DU yn gweithio yng ngwaith dur Port Talbot lle rwyf i'n byw ac yn ei gynrychioli. Bydd y ffaith bod llawer mwy o swyddi'n cael eu colli yn cael effaith iasol ar dref Port Talbot ychydig wythnosau cyn y Nadolig. Er bod gwleidyddion yn beio'r Torïaid neu'r cyni a Brexit weithiau, rydym ni i gyd yn gwybod, ac ni allwn anwybyddu'r ffaith, bod yr UE yn chwarae rhan enfawr yn y llanastr hwn.

Yr UE a rwystrodd yr uno rhwng Tata a ThyssenKrupp, uno y dywedodd arbenigwyr dur o bob cwr o'r byd ei fod yn angenrheidiol ac mai cyfuno oedd y ffordd orau i'r diwydiant oroesi. Ond rhwystrodd yr UE yr uno hwnnw, ac mae biwrocratiaeth yr UE wedi arwain gweithwyr dur yn fy rhanbarth i at eu tynged. Fel yr amlygwyd gan ganllawiau Llywodraeth Cymru ei hun ar gaffael cyhoeddus, mae cyfreithiau'r UE wedi'u cynllunio i hyrwyddo symudiad rhydd nwyddau—[torri ar draws.]—a gwasanaethau—mae'n wir—ac atal polisïau 'prynu cenedlaethol'. Mae'r polisïau 'prynu cenedlaethol' hynny yn gwbl hanfodol os ydym am achub dur Cymru, dur Cymru sy'n dioddef o ganlyniad i bolisïau eraill yr UE, megis y rhai sy'n gorfodi prisiau ynni yn y DU i godi trwy orfodi trethi ar filiau ynni ac atal—[torri ar draws.]—ac atal mynediad cwmnïau'r DU at drwyddedau carbon rhydd.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

Ydy—, ffeithiau ydyn nhw.

Felly, Gweinidog, pa obaith sydd gan ddur Cymru os cewch chi eich dymuniad a'ch bod yn cael gwared ar Brexit? Sut bydd eich Llywodraeth yn lliniaru rheolau mwyaf niweidiol yr UE er mwyn achub ein dur? Yn olaf, Gweinidog, rydych yn ymgyrchu i weld, yn amlwg, eich arweinydd chi yn Rhif 10 a John McDonnell yn Rhif 11, ac maen nhw wedi amlinellu llwyth o bolisïau a fydd yn dinistrio economi'r DU ac yn tanseilio ein mantais gystadleuol yn llwyr. Felly, Gweinidog, sut bydd dinistrio ein heconomi yn llwyr yn helpu gweithwyr Tata? A fyddwch chi—[Torri ar draws.] A fyddwch chi—[Torri ar draws.] A fyddwch chi yn—[Torri ar draws.] A fyddwch chi yn ymladd i ychwanegu dur at y rhestr o ddiwydiannau y bydd Llywodraeth Lafur yn y dyfodol yn eu gwladoli? Mae'n amlwg mai'r ffordd orau o helpu'r gweithwyr dur ym Mhort Talbot yw darparu Brexit cyn gynted â phosibl, a'n rhyddhau o'r UE. Mae angen inni gael darlun llawnach o beth yn union sy'n digwydd. Diolch.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:27, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Iawn, edrychwch, rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi dechrau ei chyfraniad trwy ddweud bod yn rhaid i ni weithio yn drawsbleidiol ac na ddylem ni briodoli bai, ond yna defnyddiodd y cyfraniad fel manteisiaeth wleidyddol pur. Y gwir amdani yw—[Torri ar draws.] Y gwir amdani—[Torri ar draws.] Y gwir amdani yw bod Nigel Farage wedi siarad am yr angen i dorri'n lân oddi wrth yr UE trwy Brexit, a fyddai yn ei dro yn ein dychwelyd i dariffau a rheolau Sefydliad Masnach y Byd, a fyddai yn ei dro yn dinistrio'r sector dur yn y Deyrnas Unedig; byddai'n dinistrio'r diwydiant dur yn y DU. Nid fi fel gwleidydd sy'n dweud hynny—arbenigwyr y sector dur sy'n dweud hynny. Nid oes amheuaeth, os caiff Nigel Farage a'r blaid Brexit ei ffordd, byddai cynhyrchiant dur y DU yn dod i ben. Byddai'n dod i ben mewn dim amser. Byddai'n rhodd i Tsieina, byddai'n rhodd i'r Unol Daleithiau, byddai'n rhodd i'r bobl y mae'r blaid Brexit yn eu casáu, i'r Ewropeaid, oherwydd bydden nhw'n gallu cynaeafu'r diwydiant y brwydrwyd yn daer drosto y mae cynhyrchwyr dur y DU wedi llwyddo i'w wasanaethu dros ddegawdau lawer.

Nid oes llawer mwy y gallaf ei ychwanegu at y pwyntiau y ceisiais fynd i'r afael â nhw a godwyd gan yr Aelod, ond fe fyddwn i'n dweud, ynghylch pwynt manteisgar arall a wnaed, ynglyn â Jeremy Corbyn ac ymgyrch Llafur yn yr etholiad cyffredinol, bod Llafur wedi cyhoeddi cynlluniau hynod uchelgeisiol ar gyfer bargen newydd werdd. Byddai'n rhaid i'r fargen newydd werdd honno gael ei chyflawni trwy fanteisio'n llawn ar gynhyrchu dur carbon-niwtral. Byddai'n rhaid ei chyflawni trwy sicrhau bod diwydiant dur y DU yn cefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Nid oes amheuaeth o gwbl na fyddem ni, pe byddai Llafur yn dod i rym ar lefel y DU, yn gweld camau pendant ar unwaith o ran anghyfartaledd ynni, byddem yn gweld camau pendant ar unwaith ar ryw fath o gytundeb â'r sector dur er budd y diwydiant, a byddem hefyd yn gweld camau pendant ar unwaith i ysgogi lefel gynaliadwy o dwf economaidd yn seiliedig ar dwf gwyrdd.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 4:29, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am gyflwyno'r datganiad hwn, am yr hyn sy'n newyddion hynod gythryblus? Rwy'n cytuno'n llwyr â chyfraniad Dai Rees, fel y gwnaf bob amser, o ran dur, ond ni allaf ddweud hynny am rai cyfraniadau eraill yr ydym wedi'u clywed y prynhawn yma.

Fel y gwyddoch chi, Gweinidog, mae gweithwyr dur yn fy etholaeth i yn chwilio'n daer am yr wybodaeth hon, a byddwn i'n croesawu unrhyw beth y gallech ei wneud i gael yr wybodaeth honno i'r gweithwyr ac i'r undebau llafur cyn mis Chwefror y flwyddyn nesaf.

Mae cynhyrchu dur yn Shotton a ledled Cymru yn rhan hanfodol o'r economi. Mae dur o safon sy'n cael ei gynhyrchu gartref yn ein cadw'n gystadleuol, ond roeddech yn iawn wrth ddweud, Gweinidog, bod angen mynd i'r afael â materion heb eu datganoli ar lefel Llywodraeth y DU. Mae gweithlu Shotton mor fedrus ac ymroddedig ag y gwelwch unrhyw le yn y byd. Gweinidog, mae angen inni wybod bod y rhai sy'n ein llywodraethu yn cefnogi'r gweithlu hwnnw, ac er eich bod chi wedi gwneud popeth y gallwch yn gyson, ni ellir dweud yr un peth am Lywodraeth Geidwadol y DU. Os ydyn nhw'n ystyried y sector dur o gwbl, ôl-ystyriaeth ydyw, ac mae'r ffaith eu bod wedi methu â chynnal cyfarfod o'r Cyngor dur ers 18 mis, ar adeg pan fo'r sefyllfa fyd-eang mor ansicr, yn egluro eu ffaeleddau yn wirioneddol.

I'r gweithwyr, eu teuluoedd a'r gymuned yn Shotton, hen stori yw hon. Rydym wedi ein siomi o'r blaen gan y Torïaid yn y 1980au—yr achos unigol mwyaf o ddiswyddo mewn hanes Ewropeaidd modern. Er gwaethaf yr etholiad cyffredinol, Gweinidog, mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn dal mewn grym. A allwch chi ymuno â mi, ac Aelodau fel Dai Rees, i'w hannog i ymgysylltu a'u hannog i weithredu, ac, am unwaith, i godi eu llais a sefyll dros ddiwydiant dur Prydain fel y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud?

Gweinidog, yn olaf, a gaf i godi pwynt y gwnaethoch ei godi yn eich ymateb i Russell George ynghylch seilwaith a phrosiectau ledled Cymru sy'n defnyddio dur Cymru? Pa gefnogaeth, fel Llywodraeth Cymru, allwch chi ei gynnig i ddenu prosiectau a phrosiectau seilwaith, fel canolfan ehangu logisteg Heathrow, i Alun a Glannau Dyfrdwy, i Shotton, lle mae Tata Steel ar y rhestr fer ar hyn o bryd? Trwy gaffael siarter dur y DU yn iawn, gobeithio y gallwn ddefnyddio dur y DU a dur Cymru i adeiladu a dod â'r ganolfan weithgynhyrchu honno i Alun a Glannau Dyfrdwy.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:32, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Jack Sargeant am ei gyfraniad ac am ei gwestiynau? Roeddwn i'n myfyrio'n gynharach y prynhawn yma ar y profiad o gael fy magu, yn amlwg, yng ngogledd-ddwyrain Cymru a gweld gwaith dur Shotton yn cau bron yn gyfan gwbl. Fe wnaethom ni lwyddo i ymladd, er am nifer llai o swyddi nag a gafwyd ar un adeg. Ond, o ganlyniad i fuddsoddiad pellach gan berchnogion y safle a thrwy ei gefnogi oddi yma ym Mae Caerdydd, llwyddodd Llywodraeth Cymru i gynorthwyo atgyfodiad safle gwaith dur Shotton. Wrth gwrs, mae ansicrwydd yn awr, ond mae'r safle penodol hwnnw'n gweithredu'n hynod effeithlon ac yn dychwelyd elw da i Tata.

Rwy'n credu bod Jack Sargeant yn llygad ei le wrth nodi, ymysg llawer, gyfle ar gyfer safle Shotton—sef canolfan logisteg Heathrow. Gwn fod Tata yn gweithio'n frwd iawn i geisio sicrhau un o'r canolfannau logisteg ar gyfer Maes Awyr Heathrow.

Ond, fel y dywedodd Jack Sargeant, problem i'r DU yw hon sy'n galw am ateb gan y DU. Mae yna rai ffactorau sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth y DU hefyd, ac rydym wedi nodi un ohonyn nhw: rhyfel masnach Tsieina-UDA. Nid oes dim amheuaeth na fydd hynny ond yn cael ei ddatrys unwaith y bydd Donald Trump yn penderfynu bod yn rhaid cytuno ar gytundeb masnach. Ni chaiff ei sicrhau ar sail un o'r ddwy ochr yn unig yn dymuno datrys gwahaniaethau.

Rwy'n credu ei bod yn gwbl gywir a phriodol bod Tata yn hysbysu gweithwyr cyn gynted â phosibl o ganlyniad yr asesiad a fydd yn cael ei gynnal rhwng nawr a dechrau'r flwyddyn newydd. Byddaf yn pwyso arnyn nhw i rannu unrhyw fanylion am golledion swyddi penodol â chyflogeion cyn gynted â phosibl.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 4:34, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, nid yw hyn yn syndod i unrhyw un sy'n deall y diwydiant dur. Mae llawer o'r bobl yr wyf eisoes wedi siarad â nhw heddiw a ddoe, ers y newyddion, wedi dweud, 'Wel, mae hyn yn rhywbeth yr oeddem ni'n ei ddisgwyl', ar ôl iddyn nhw weld y cyd-fenter yn methu. A wnewch chi ddweud wrthyf i—? Yn y datganiad ddoe, fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn dymuno cyfarfod brys â Tata o ganlyniad i'r cyhoeddiad, a gwn eich bod wedi siarad â nhw heddiw, ond allwch chi roi unrhyw arwydd o ba bryd yr oedd yn bosibl eich bod yn gwybod eu bod am wneud y cyhoeddiad hwn, er mwyn inni allu bod yn sicr o ba gamau yr oeddech yn eu cymryd yn y Llywodraeth i sicrhau nad oedd y math hwn o newyddion yn dod ger ein bron?

Nid wyf yn siŵr fy mod wedi deall o'ch ateb i Rhun ap Iorwerth, fy nghyd-Aelod, mewn cysylltiad â chynlluniau wrth gefn i'r cyd-fenter, ac a oedd unrhyw atebion amgen eraill. Gwelais yn y Financial Times ar yr adeg pan gafodd y cyd-fenter ei gohirio, fod prif swyddog cyllid Tata Steel wedi dweud y byddai'r holl opsiynau'n cael eu harchwilio mewn cysylltiad â busnes yr UE, felly beth oedd yr holl opsiynau hynny? Yn sicr, nid wyf i'n gwybod beth ydyn nhw. Er enghraifft, a yw cydweithfa gweithwyr dur wedi'i hystyried? Yn Mondragon, y gydweithfa fwyaf o'i math yn y byd, mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn dur, ac oni fyddai hyn yn rhywbeth y gallem ni ei ystyried yma yng Nghymru fel nad yw'r gweithwyr dur yn teimlo mor ddifreiniedig ag y maen nhw ar hyn o bryd? Beth am edrych ar yr holl atebion posibl?

O ran yr adnoddau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi, wrth gwrs, mae Plaid Cymru wedi cefnogi hynny, yn enwedig o ran y pwerdy, ond mae fy anesmwythder heddiw yn ymwneud â'r ffaith y bydd nifer y swyddi'n gostwng yn 2021, ac erbyn hynny bydd Llywodraeth Cymru wedi parhau i fuddsoddi'n sylweddol yn Tata Steel. Pryd ydym ni'n dechrau dweud, 'Pa mor bell yr awn ni fel Llywodraeth Cymru?', oherwydd os ydyn nhw am ddweud faint o swyddi fydd yn mynd ym Mhort Talbot yn 2021, beth sy'n digwydd i'r buddsoddiad hwnnw? Beth sy'n digwydd os byddan nhw'n torri llawer iawn o'r swyddi hynny a'n gadael ni mewn sefyllfa wan iawn yma yng Nghymru? Nid ydym ni eisiau bod yma bryd hynny yn dweud, 'Pam y gwnaethom ni roi cymaint mwy o fuddsoddiad bryd hynny pan oeddem ni'n gwybod, o bosibl, y byddai toriadau, ac y byddan nhw'n tanseilio rhai o'r cytundebau yr ydym ni wedi'u cael â nhw?' Rwyf i eisiau sicrwydd y gallwn ni gael trafodaeth agored a gonest am hynny.

Fy nghwestiwn arall yw, rwy'n eich clywed yn sôn am weithwyr dur Tata a'r angen i gwrdd â nhw ac, wrth gwrs, byddwn i'n cytuno â hynny, ond hoffwn i ddeall pryd y bydd hynny'n digwydd. Mae rhai gweithwyr wedi bod yn dweud wrthyf i ei fod wedi bod yn gyfrinachol iawn ar hyn o bryd; nid ydyn nhw'n gwybod pryd maen nhw am gael cydnabyddiaeth o gyfarfod. Hoffwn i siarad ar ran y contractwyr, oherwydd pan gawsom y gyfran ddiwethaf o doriadau swyddi, nhw oedd y cyntaf i fynd. Fe wnaethon nhw golli eu swyddi, roedden nhw'n eistedd yn—. Hynny yw, bu'n rhaid iddyn nhw chwilio am swyddi eraill yn y cyfnod hwnnw, ac yna maen nhw wedi eu hailgyflogi gan Tata ers i rywfaint o'r gwaith gynyddu. Rwy'n chwilfrydig i ddeall sut y byddan nhw hefyd yn ymwneud â'r broses hon, oherwydd eu bod nhw'n bobl leol hefyd. Maen nhw'n bwysig hefyd.

Ac mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â'ch datganiad am yr asesiad fesul swyddogaeth hwn y mae Tata Steel yn dweud ei fod am ei wneud. Rwy'n pryderu'n fawr am hynny, mewn gwirionedd. Rydym yn gwybod pan fyddan nhw'n edrych ar wahanol fathau o swyddi mewn gwahanol gwmnïau—rydym ni'n gwybod yn Ford hefyd—eu bod nhw'n ceisio tynnu gweithwyr yn erbyn ei gilydd. Os ydyn nhw'n edrych ar garfan benodol o weithwyr, maen nhw o bosib yn cynnig rhywbeth gwahanol i'w gilydd. Felly, pa sicrwydd sydd gennych y bydd yn deg ac yn gyfartal ar draws y bwrdd, fel nad ydyn nhw'n chwarae gweithwyr yn erbyn ei gilydd, ac y gallan nhw fod yn sicr bod unrhyw gymorth a roddir iddyn nhw yn gydradd, ac y byddan nhw'n cael eu cefnogi ar hyd y ffordd oherwydd, yn y pen draw, dyna beth sy'n allweddol yn hyn o beth, bywoliaeth y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:38, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Bethan Sayed am ei chyfraniad a'r llu o bwyntiau pwysig y mae hi hefyd wedi'u gwneud yn y cwestiynau y mae hi wedi'u codi heddiw? Rwy'n credu ei bod yn deg dweud pan fydd gweithwyr yn dweud wrth Aelodau nad yw hyn yn syndod o reidrwydd, mae'n debyg oherwydd bod pedwar llinyn y rhaglen drawsnewid yn cynnwys un sy'n datgan yn benodol eu bod yn dymuno lleihau costau cyflogaeth. Ac felly, ni ddylai fod yn syndod bod Tata Europe yn ceisio lleihau nifer y bobl a gyflogir, a dyna pam yr oeddwn i'n galw ar Lywodraeth y DU am fisoedd ar fisoedd i gyflwyno bargen y sector ac i gynnull y cyngor dur, fel y gallem ni fod mewn sefyllfa ledled y DU, trwy weithio gyda'n gilydd, i ymateb yn gyflym iawn i unrhyw ofyniad am gymorth, nid gan Lywodraeth Cymru yn unig ond gan Lywodraeth y DU hefyd. Nid yw'r cyngor dur hwnnw wedi digwydd o hyd, ac rwyf unwaith eto wedi galw ar Lywodraeth y DU i'w gynnull cyn gynted â phosibl.

Ond mae hefyd yn deg dweud heddiw, yn fy marn i, bod y gyd-fenter hefyd yn mynd i arwain at golli swyddi ledled Ewrop, a thynnodd aelodau plaid Bethan ei hun sylw yn rheolaidd at y risg real iawn y gallai hyn ddigwydd. Y ffaith yw, er mwyn i Tata sicrhau bod ganddo ddyfodol cynaliadwy, mae angen iddo wneud arbedion, ond mae angen iddo fuddsoddi hefyd mewn gwariant cyfalaf. Y bore yma, pan siaradais â Tata, cefais sicrwydd dro ar ôl tro y bydd yr arbedion y mae'n ceisio'u gwneud yn cael eu dargyfeirio'n syth yn ôl i fuddsoddi mewn prosiectau gwariant cyfalaf.

Prin y rhoddwyd unrhyw rybudd inni, am resymau masnachol rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn eu parchu. Fodd bynnag, rwyf wedi gofyn i Tata sicrhau ein bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw beth sy'n ymwneud â nodi swyddogaethau y gellid eu colli. Rwyf wedi cael sicrwydd na fyddan nhw'n dewis gweithwyr unigol ac y bydd yr undebau llafur yn cael eu cynnwys yn llawn rhwng nawr a mis Chwefror ac yn ystod y broses weithredu hefyd.

Mae Bethan yn codi'r cwestiwn pwysig trwy ofyn, 'Pa mor bell yr awn i gefnogi Tata?', 'Pa mor bell yr awn i gefnogi'r sector dur yng Nghymru?' Byddwn yn mynd cyn belled ag y gallwn i sicrhau bod ganddo ddyfodol disglair a chynaliadwy, ond ni fyddwn yn llacio'r amodau yr ydym yn eu cymhwyso i'n cyllid. Ni fyddwn yn glastwreiddio'r amodau cymorth a gymhwysir i Tata nac unrhyw fusnes arall, ni waeth pa mor anodd yw'r amgylchedd gweithredu iddyn nhw, oherwydd pan fyddwn yn defnyddio arian trethdalwyr i gefnogi busnes a chymhwyso amodau yr ydym yn disgwyl eu hanrhydeddu, rydym yn ymrwymo i gontract â busnes. Fel y gŵyr llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon, rydym ni wedi cyflwyno contract economaidd sy'n ceisio sicrhau y gall cwmni ddangos twf, nid ar gyfer ei hun yn unig, ond ar gyfer y gadwyn gyflenwi hefyd, ac ni fyddwn yn rhoi'r gorau i gontractau o'r math hwnnw. Ni fyddwn yn caniatáu llacio'r amodau.

Rwy'n credu bod yr Aelod hefyd yn codi'r cwestiwn a allem ni, i bob pwrpas, hollti buddiannau Cymru oddi wrth fuddiannau ehangach Tata Steel yn y DU, er mwyn ystyried pob cyfle. Nid wyf i'n credu y byddai'n bosibl gwahanu buddiannau Cymru. Wrth wneud hynny, rydych yn agor y drws i safleoedd unigol ledled Cymru gan awgrymu hefyd y dylen nhw hollti cysylltiad â safleoedd eraill, a'r gwir amdani yw bod pob un o safleoedd Tata, yn y tymor byr o leiaf, yn ddibynnol ar Bort Talbot, ac rwy'n credu bod angen i ni fod yn ofalus iawn, iawn wrth godi'r cwestiwn a allwn ni ystyried cyfleoedd ar gyfer safleoedd penodol, ni waeth a ydyn nhw ar y cyd yng Nghymru yn hytrach na'r DU yn gyffredinol neu ar sail safleoedd unigol.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, yng Nghasnewydd, rydym ni mewn sefyllfa arbennig, wrth gwrs, lle cawsom y cyhoeddiad o ran Orb a'r bron i 400 o swyddi sydd yno a nawr y cyhoeddiad cyffredinol hwn gan Tata ar draws ei weithrediadau Ewropeaidd. Felly, mae'n bosibl y ceir effaith ar Lanwern, wrth gwrs, yn ogystal ag Orb. Rwy'n croesawu'n fawr iawn yr hyn y gwnaethoch ei ddweud am swyddi Orb a'r sicrwydd yr ydych wedi'i gael, a byddwn i'n ddiolchgar iawn, ac rwy'n siŵr y bydd y gweithwyr hefyd, pe baech yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa honno gan ei bod yn peri pryder mawr, ond rwy'n ddiolchgar am y sicrwydd yr ydych wedi'i roi.

O ran Orb, roedd hi'n dda iawn eich gweld chi a'r Prif Weinidog yn dod draw i'r cyfarfod, ac efallai ein bod mewn sefyllfa o adleoli'r hen weithwyr hynny, ond, wrth gwrs, rydym yn gobeithio'n fawr iawn y bydd y datganiadau o ddiddordeb mewn prynu safle Orb yn arwain at brynu a chadw'r safle a'r swyddi ar y safle. Felly, yn hynny o beth, Gweinidog, byddwn i'n ddiolchgar iawn eto pe baech yn gwneud eich gorau glas i sicrhau bod yr estyniad amser yr ydych wedi galw amdano er mwyn caniatáu i'r datganiadau hynny o ddiddordeb aeddfedu ac arwain at y gobaith o brynu, yn cael ei roi gan Tata. Yr hyn a ddaeth i'r amlwg, yn fy marn i, yn ystod yr orymdaith a'r rali a gawsom yng Nghasnewydd i brotestio yn erbyn y bwriad i gau Orb, oedd cryn gefnogaeth gan y cyhoedd i'r hyn y mae'r Aelodau wedi galw amdano—mae llawer o'r Aelodau wedi galw yma heddiw am strategaeth ddiwydiannol briodol, strategaeth weithgynhyrchu briodol gan Lywodraeth y DU—bod hynny'n digwydd a bod cydnabyddiaeth o ryw fath o is-set o hynny, sef dyfodol ceir trydan a dur trydan. Oherwydd dywedodd pobl wrthym yn blwmp ac yn blaen na allan nhw ddeall pam na all Llywodraeth y DU ddeall a gweithredu ar yr achos hwnnw, os ydym ni am fod yn rhan o'r chwyldro yn y dyfodol tuag at geir trydan ledled y byd a sicrhau'r budd mwyaf posibl ar gyfer swyddi a datblygiad economaidd yn y DU, ac i ni yma yng Nghymru, mae'n rhaid inni gynhyrchu dur trydanol yn y DU. Ac Orb, gyda'r buddsoddiad a nodwyd yn adroddiad Syndex, yw'r cyfle perffaith i wireddu'r buddsoddiad hwnnw a'r dyfodol hwnnw ar gyfer cynhyrchu ceir trydan a phob un o'r rhannau cydrannol ohono yma yn y DU, ac yn achos Orb, dur trydan yma yng Nghymru.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:45, 19 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i John Griffiths am ei gwestiynau a hefyd am ddod draw i Orb gyda'r Prif Weinidog a minnau yr wythnos diwethaf? Credais fod y drafodaeth a gawsom ni gyda Roy Rickhuss ac undeb Community a chyda gweithwyr o bob rhan o'r safle yn hynod gynhyrchiol. Wrth gwrs, gyda phosibilrwydd o golli 380 o swyddi, byddai rhai pobl yn dewis ymddeol, byddai rhai pobl yn dewis gweithio gyda chyflogwr gwahanol. Ond cefais addewid eto heddiw y byddai Tata yn ceisio dod o hyd i swydd mewn man arall o fewn teulu Tata i unrhyw un sy'n dymuno aros yn y cwmni. Ond cyn i hynny ddigwydd, rwyf wedi bod yn pwyso ar Tata ynghylch yr angen i sicrhau y rhoddir cymaint o amser ag sydd ei angen ar Community a Syndex neu, yn wir, cymaint o amser ag sydd ei angen ar unrhyw barti arall sydd â diddordeb a allai ddod ymlaen gyda'r bwriad o fod yn gyfrifol am a thrawsnewid Orb.

Wnaf i ddim nodi'n fanwl faint o amser sydd ei angen i asesu cynigion Syndex na neb arall yn llawn; rwy'n credu ei fod yn well iddyn nhw nodi hynny eu hunain. Ond rwy'n cydnabod y byddai'n golygu cost i Tata. Ond, yn gyffredinol, nid yw'r gost o drawsnewid safle Orb er mwyn iddo gynhyrchu'r mathau mwy safonol o ddur sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cerbydau trydan yn sylweddol iawn—rhywbeth rhwng £30 miliwn a £50 miliwn. Ydy, mae'n swnio'n swm mawr o arian o'i gymharu â buddsoddiadau eraill, ond, mewn gwirionedd, byddai'r arian hwn yn sicrhau cyfleoedd enfawr yn y broses o ddatblygu a gweithgynhyrchu cerbydau trydan. Ac wrth i ni geisio'n raddol i gael gwared ar geir diesel a phetrol, mae cyfleoedd enfawr ar gyfer sector modurol y DU. Ond nid ydym ni'n mynd i wireddu'r cyfleoedd hynny os collwn ni'r gweithgynhyrchwyr dur arbenigol, os tynnwn ni ein sylw oddi ar yr heriau y mae'r sector modurol yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac os yw Llywodraeth y DU yn methu â sicrhau cytundebau sector pwysig fel y maen nhw'n methu gyda chytundeb y sector dur.