Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Diolch, Lywydd. Ar y dechrau fel hyn, byddai'n well i ddweud, fel dwi wedi ei ddweud eisoes o'r blaen nifer o weithiau, fel meddyg teulu, rwyf yn y gorffennol wedi talu indemniadau, ond nid oes unrhyw fudd uniongyrchol gennyf yn y Bil hwn o'n blaenau ni'r prynhawn yma.
Nawr, trafododd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bil yn ei gyfarfod ar 23 Hydref eleni. Fel rhan o hyn, fe gawsom ni dystiolaeth gan y Gweinidog, yr Undeb Gwarchod Meddygol—yr MDU—ac Undeb Amddiffyn Meddygol a Deintyddol yr Alban—MDDUS. Chawsom ni ddim rhagor o gyfle i glywed tystiolaeth lafar oherwydd bod yr amserlen ar gyfer craffu ar y Bil wedi’i chwtogi. Roedd yr amserlen hon hefyd yn cyfyngu ar y cyfleoedd sydd ar gael i'r pwyllgor wahodd ac ystyried tystiolaeth ysgrifenedig.
Rwy’n credu ei bod yn werth nodi barn y pwyllgor nad yw defnyddio gweithdrefn wedi'i chwtogi ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth yn caniatáu ystyried y dystiolaeth yn ofalus, yn anad dim gan fod hyn yn cyfyngu ar y cyfleoedd i ymgysylltu'n ystyrlon â'r rhai y mae'r Bil yn effeithio arnyn nhw. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cymryd sylw o hynna.
Nawr, rwyf am symud ymlaen i ystyried y Bil ei hun. Mae trefniadau ar y gweill yn Lloegr i drosglwyddo rhwymedigaethau esgeuluster clinigol hanesyddol meddygon teulu o ddarparwyr indemniad preifat i'r wladwriaeth, fel dŷn ni wedi clywed. Fel pwyllgor, roedden ni’n teimlo ei bod yn bwysig sicrhau na fyddai meddygon teulu sydd â phractis yng Nghymru dan anfantais o gymharu â'u cydweithwyr yn Lloegr yn sgil y penderfyniad polisi hwn. Roedden ni’n fodlon bod angen y Bil er mwyn osgoi hyn, ac am y rheswm hwn, fe wnaeth y pwyllgor argymell bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil hwn.
Fodd bynnag, roedden ni’n awyddus i sicrhau na fyddai unrhyw gynllun a gefnogir gan y wladwriaeth yn darparu llai o amddiffyniad na llai o gefnogaeth i feddygon teulu nag sydd ganddyn nhw nawr gyda’u haelodaeth o ddarparwr indemniad preifat. Fe glywsom ni gan y sefydliadau amddiffyn meddygol eu bod yn amddiffyn yn gadarn statws proffesiynol unrhyw feddyg sy’n rhan o hawliad esgeuluster, a’u bod nhw hefyd yn rhoi cymorth ychwanegol i'r meddyg hwnnw yn ystod yr hawliad.
Rydyn ni’n argymell bod y Gweinidog yn rhoi ymrwymiad heddiw y bydd y lefel hon o amddiffyniad a chymorth yn parhau i gael ei darparu i feddygon teulu o dan unrhyw gynllun yn y dyfodol a gefnogir gan y wladwriaeth. Dwi'n croesawu'r geiriau mae'r Gweinidog wedi eu llefaru eisoes ynglŷn â phwysigrwydd yr union lefel o ymrwymiad sydd ei angen yn y dyfodol o'i gymharu â beth mae meddygon wedi'i gael yn y gorffennol.
O droi rŵan at gostau'r Bil a throsglwyddo asedau, fel rhan o'n gwaith ar y Bil, fe wnaethon ni ystyried y costau a’r rhwymedigaethau sydd i’w hysgwyddo gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Gweinidog wedi amcangyfrif y bydd y rhwymedigaethau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hysgwyddo o dan y Bil hwn yn tua £100 miliwn, yn amodol ar drafod a chytuno'n llwyddiannus gyda'r tri sefydliad amddiffyn meddygol.
Nodwn fod Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb yn ddiweddar ar drosglwyddo asedau gydag un o'r tri sefydliad amddiffyn meddygol—y Gymdeithas Gwarchod Meddygol, sef yr MPS—a’i bod yn agos at gytundeb gydag un arall. Ond siomedig iawn oedd clywed na fu unrhyw gynnydd gyda'r trydydd sefydliad, yr MDU. Mewn gwirionedd, dywedodd yr MDU wrthym ni fod Llywodraeth Cymru wedi methu â chymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau ystyrlon ag ef ar y mater hwn.
Fel pwyllgor, roedden ni’n teimlo bod cael unrhyw gynllun a gefnogir gan y wladwriaeth i weithredu’n effeithiol yn dibynnu ar ddod i gytundeb gyda’r tri sefydliad amddiffyn meddygol ynghylch y lefelau o drosglwyddo asedau. Yn hynny o beth, fe wnaethon ni argymell bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon gyda’r MDU i ddod i gytundeb ynghylch trosglwyddo asedau, a bod yn rhaid i lefel y trosglwyddiad hwn gynrychioli setliad teg a chymesur o ran indemnio meddygon teulu a sicrhau gwerth am arian. Dwi'n clywed eto'r geiriau y mae'r Gweinidog wedi'u llefaru eisoes y prynhawn yma ar y pwynt hwn, a dwi'n croesawu unrhyw gynnydd yn y drafodaeth efo'r MDU, a dwi'n pwyso arno fo i gael y drafodaeth hynny yn ystyrlon ac i ddod i gytundeb efo'r MDU, MDDUS a'r MPS fel y tri sefydliad sydd yn amddiffyn meddygon.
Ynglŷn â'r pwynt olaf, ynglŷn â diwygio'r gyfraith yn ehangach, yn fyr, Llywydd, clywodd y pwyllgor dystiolaeth fod angen gwneud diwygiadau ehangach i’r deddfau camwedd sydd ar waith yng Nghymru a Lloegr. Fel yn Lloegr, mae'r Gweinidog, drwy'r Bil hwn, yn ceisio lliniaru effaith y costau cynyddol a ddaw yn sgil esgeuluster clinigol, a thrwy hynny fynd i’r afael â rhai o'r materion sy'n ymwneud â recriwtio a chadw meddygon teulu. Fodd bynnag, nid yw'r Bil yn mynd i'r afael â’r hyn sydd wrth wraidd y cynnydd yn y costau esgeuluster a'r pwysau cysylltiedig ar gyllid y gwasanaeth iechyd. Mae yna nifer o ffactorau, fel, er enghraifft, pam defnyddio costau triniaeth breifat yn y llysoedd fel sail i iawndal i'r claf? Ydy e'n gwneud synnwyr i'r gwasanaeth iechyd gael cyfle i'w wneud yn iawn am beth aeth o'i le yn y lle cyntaf, fel soniodd rhai o'n tystion wrthym ni? Fel pwyllgor, rydyn ni’n credu bod mantais mewn archwilio'r gyfraith yn y maes hwn, a bod hyn yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru fynd ar ei drywydd gyda'r sefydliadau cyfatebol yn y Deyrnas Unedig. Edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog. Diolch yn fawr.