– Senedd Cymru am 4:47 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Eitem 6 yw'r ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig hwnnw—Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ar 14 Tachwedd, cyflwynais Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru), ynghyd â'r dogfennau ategol angenrheidiol gerbron y Cynulliad hwn. Mae'r Bil yn diwygio adran 30 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru 2006 mewn cysylltiad â chynlluniau i gwrdd â cholledion a rhwymedigaethau cyrff penodol y gwasanaeth iechyd. Bydd yn rhoi pŵer newydd i Weinidogion Cymru sefydlu cynlluniau indemniad uniongyrchol. Bydd hyn yn darparu'r pŵer i sefydlu rheoliad i sefydlu cynllun rhwymedigaeth presennol i gwmpasu rhwymedigaeth meddygon teulu o ran hawliadau esgeulustra clinigol sydd wedi'u hadrodd, neu a ddigwyddodd ond na chawsant eu hadrodd, cyn 1 Ebrill 2019.
Bydd y cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol sy'n cynnwys hawliadau sy'n codi o 1 Ebrill 2019, ynghyd â'r cynllun rhwymedigaeth presennol, yn cyd-fynd â'r trefniadau sy'n cael eu rhoi ar waith ar gyfer meddygon teulu yn Lloegr. Byddai'n sicrhau nad yw meddygon teulu yng Nghymru yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai yn Lloegr, ac nad oes effaith negyddol ar recriwtio a chadw meddygon teulu, nac unrhyw ymyriad â'r llif o feddygon teulu ar draws y ffin.
Craffwyd ar y Bil drafft gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y Pwyllgor Cyllid, ac, wrth gwrs, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Fel rhan o'r gwaith craffu hwnnw, gwahoddwyd rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y tri sefydliad amddiffyn meddygol, i roi tystiolaeth, a hoffwn ddiolch i'r pwyllgorau am eu gwaith o fewn yr hyn a oedd, yn anochel, yn amserlen fyrrach.
Rwy'n falch bod y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn cefnogi'r Bil ac wedi argymell bod y Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol heddiw. Fodd bynnag, mae'r pwyllgorau craffu wedi gofyn am sicrwydd neu eglurder ynghylch nifer o bwyntiau. Holodd dau o'r sefydliadau amddiffyn meddygol a fydd meddygon teulu yn parhau i gael gwasanaeth holistaidd gan ddarparwr a gefnogir gan y wladwriaeth o'r un safon â'r hyn a ddarparwyd hyd yma gan y sefydliadau amddiffyn meddygol. Gofynnwyd hefyd a fydd y darparwr a gefnogir gan y wladwriaeth yn diogelu statws proffesiynol meddygon teulu i'r un graddau, rhywbeth y teimlant ei fod yn rhan annatod o hygrededd y cynllun.
Nawr, mae'r cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol yn cael ei weithredu gan wasanaethau cyfreithiol a risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru—ac fe gyfeiriaf atyn nhw'n awr fel SSP GIG Cymru i fod yn gryno. Ond mae penodi SSP GIG Cymru yn adeiladu ar eu profiad presennol o ymdrin ag indemniad gofal eilaidd GIG Cymru ac mae'n cael cefnogaeth meddygon teulu ledled Cymru. Mae'r cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol wedi ymsefydlu'n dda ers ei gyflwyno. Mae SSP GIG Cymru yn gwbl ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i feddygon teulu yng Nghymru, sy'n gymesur â lefel y gwasanaethau y mae meddygon teulu wedi dod i arfer â hwy wrth ymdrin â'r tri sefydliad amddiffyn meddygol. Ac i'r perwyl hwn, mae SSP GIG Cymru wedi cynnal nifer o weithdai ar gyfer byrddau iechyd lleol a rheolwyr practisau meddygon teulu. Mae'r dull rhagweithiol a chydweithredol hwn wedi galluogi meddygon teulu i ddeall yn well swyddogaeth SSP GIG Cymru a'r rhyngwyneb rhyngddynt a swyddogaeth barhaus sefydliadau amddiffyn meddygol. Mae SSP GIG Cymru yn cydnabod pwysigrwydd amddiffyn hawliadau'n gadarn lle y bo'n briodol, a diogelu meddygon teulu, eu staff a'u henw da. Mae SSP GIG Cymru hefyd yn ymrwymedig i ddatrys unrhyw gais am iawndal a wneir gan glaf mewn cysylltiad â gofal clinigol o dan y GIG mor deg a chyflym â phosibl. Rwy'n ffyddiog y bydd meddygon teulu yn parhau i gael gwasanaeth cyfannol o safon uchel o ganlyniad i hynny.
Mae'n bleser gennyf ddweud bod trefniadau presennol y cynllun rhwymedigaethau wedi'u cytuno gyda'r Gymdeithas Gwarchod Meddygol. Bydd y trefniant hwn yn helpu i gryfhau cynaliadwyedd gwasanaethau meddygol cyffredinol, a bu trafodaethau helaeth gydag Undeb Amddiffyn Meddygol a Deintyddol yr Alban. Gwnaed fy ymrwymiad ym mis Tachwedd y llynedd i ehangu'r cynllun indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth i dalu am rwymedigaethau presennol yn amodol ar gwblhau diwydrwydd dyladwy cyfreithiol ac ariannol a thrafodaethau boddhaol â'r tri sefydliad amddiffyn meddygol. Mae trafodaethau gyda'r Undeb Amddiffyn Meddygol wedi datblygu'n arafach na chyda'r ddau sefydliad amddiffyn meddygol arall. Maen nhw hefyd yn parhau gydag achos adolygiad barnwrol yn erbyn Ysgrifennydd Gwladol y DU dros iechyd a hefyd yn erbyn Gweinidogion Cymru. Fodd bynnag, gallaf sicrhau Aelodau'r Cynulliad bod Llywodraeth Cymru yn parhau â'n trafodaethau gyda'r Undeb Amddiffyn Meddygol. Rydym ni wedi ymrwymo i ddatblygu trefniadau presennol y cynllun rhwymedigaethau mor gyflym a chadarnhaol ag sy'n bosibl, yn union fel yr ydym ni wedi gwneud ac yn parhau i wneud gyda'r ddau sefydliad amddiffyn meddygol arall.
Rwyf eisiau troi, nawr, at argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Mewn ymateb i argymhelliad 1, ym mis Mai 2018 nodais y byddai cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol a gefnogir gan y wladwriaeth ar gyfer esgeulustod clinigol yn cael ei gyflwyno o 1 Ebrill 2019. Ym mis Tachwedd 2018, cadarnheais y bydd y ddarpariaeth indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth yn cael ei hymestyn i gynnwys hawliadau am esgeuluster clinigol sy'n codi cyn 1 Ebrill 2019, sef y cynllun rhwymedigaethau presennol. Ar ôl ymgynghori â'r sefydliadau amddiffyn meddygol, dechreuodd trafodaethau ar delerau masnachol y cynllun rhwymedigaethau presennol ym mis Ionawr 2019, a chadarnhaodd y trafodaethau hynny ym mis Mawrth 2019 mai un elfen o gytundebau rhwymedigaethau presennol arfaethedig oedd gofyniad i ategu'r cynllun gyda rheoliadau. Ar ôl gweithredu'n gyflym, cafwyd cadarnhad ym mis Gorffennaf 2019 y byddai'r Bil indemniad meddygon teulu yr ydym yn ei drafod heddiw yng Nghyfnod 1 yn cael ei gynnwys yn rhaglen ddeddfwriaethol y Prif Weinidog ar gyfer y Cynulliad presennol i roi pwerau i Weinidogion wneud y rheoliadau hynny.
Mewn ymateb i argymhelliad 2, hoffwn dynnu sylw at y ffaith nad yw'r is-adran 10 newydd yn rhoi unrhyw bwerau i Weinidogion Cymru. Diben yr is-adran 10 newydd yw egluro nad oes dim o dan adran 30 yn cyfyngu ar bwerau cyffredinol Gweinidogion Cymru nac yn effeithio arnynt mewn unrhyw ddeddfwriaeth arall. Ac mae'r is-adran 10 newydd yn ei gwneud hi'n glir nad yw'r diwygiadau a wneir gan y Bil yn cyfyngu ar unrhyw bwerau sydd eisoes yn bodoli. Rwyf, fodd bynnag, yn anghytuno ag argymhelliad 3 i gymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol i'r rheoliadau cyntaf a wnaed o dan yr is-adran 38 newydd ac yna i droi'n ôl at y weithdrefn negyddol.
Mae'r Bil wedi cael cyfnod craffu llawn, er yn fyr, yng Nghyfnod 1, gyda rhanddeiliaid yn gallu darparu tystiolaeth i'r pwyllgor, naill ai'n bersonol neu'n ysgrifenedig. Mae asesiad effaith rheoleiddiol y Bil yn nodi beth a phwy sy'n dod o dan reoliadau'r cynllun rhwymedigaethau presennol, fel y gwnaiff datganiad o fwriad y polisi. Mae pŵer presennol Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n indemnio cyrff iechyd o dan adran 30 eisoes yn destun y weithdrefn negyddol. Mae'r pŵer hwn eisoes wedi'i ddefnyddio i sefydlu'r cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol drwy reoliadau. Felly, mae'r Bil yn cadw sefyllfa bresennol sydd eisoes wedi'i gosod gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ar gyfer rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 30.
O ran yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid, rwy'n derbyn argymhelliad 1. Ar ôl i holl drefniadau'r adran triniaeth cynnal bywyd brys gael eu cytuno, caiff y wybodaeth ei datgelu, yn unol â gofynion cyfrinachedd masnachol ac archwilio ac adrodd. Rwyf hefyd yn derbyn argymhelliad 2. Ni fydd cost Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru mewn cysylltiad â goruchwylio hawliadau triniaeth cynnal bywyd brys o Ebrill 2021 yn fwy na chost hawliadau a reolir gan sefydliadau amddiffyn meddygol. Bydd yr asesiad effaith rheoleiddiol yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu hyn. Croesawaf sylwadau'r Aelodau a gobeithiaf y bydd cefnogaeth barhaus i'r Bil angenrheidiol hwn.
Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Dai Lloyd.
Diolch, Lywydd. Ar y dechrau fel hyn, byddai'n well i ddweud, fel dwi wedi ei ddweud eisoes o'r blaen nifer o weithiau, fel meddyg teulu, rwyf yn y gorffennol wedi talu indemniadau, ond nid oes unrhyw fudd uniongyrchol gennyf yn y Bil hwn o'n blaenau ni'r prynhawn yma.
Nawr, trafododd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bil yn ei gyfarfod ar 23 Hydref eleni. Fel rhan o hyn, fe gawsom ni dystiolaeth gan y Gweinidog, yr Undeb Gwarchod Meddygol—yr MDU—ac Undeb Amddiffyn Meddygol a Deintyddol yr Alban—MDDUS. Chawsom ni ddim rhagor o gyfle i glywed tystiolaeth lafar oherwydd bod yr amserlen ar gyfer craffu ar y Bil wedi’i chwtogi. Roedd yr amserlen hon hefyd yn cyfyngu ar y cyfleoedd sydd ar gael i'r pwyllgor wahodd ac ystyried tystiolaeth ysgrifenedig.
Rwy’n credu ei bod yn werth nodi barn y pwyllgor nad yw defnyddio gweithdrefn wedi'i chwtogi ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth yn caniatáu ystyried y dystiolaeth yn ofalus, yn anad dim gan fod hyn yn cyfyngu ar y cyfleoedd i ymgysylltu'n ystyrlon â'r rhai y mae'r Bil yn effeithio arnyn nhw. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cymryd sylw o hynna.
Nawr, rwyf am symud ymlaen i ystyried y Bil ei hun. Mae trefniadau ar y gweill yn Lloegr i drosglwyddo rhwymedigaethau esgeuluster clinigol hanesyddol meddygon teulu o ddarparwyr indemniad preifat i'r wladwriaeth, fel dŷn ni wedi clywed. Fel pwyllgor, roedden ni’n teimlo ei bod yn bwysig sicrhau na fyddai meddygon teulu sydd â phractis yng Nghymru dan anfantais o gymharu â'u cydweithwyr yn Lloegr yn sgil y penderfyniad polisi hwn. Roedden ni’n fodlon bod angen y Bil er mwyn osgoi hyn, ac am y rheswm hwn, fe wnaeth y pwyllgor argymell bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil hwn.
Fodd bynnag, roedden ni’n awyddus i sicrhau na fyddai unrhyw gynllun a gefnogir gan y wladwriaeth yn darparu llai o amddiffyniad na llai o gefnogaeth i feddygon teulu nag sydd ganddyn nhw nawr gyda’u haelodaeth o ddarparwr indemniad preifat. Fe glywsom ni gan y sefydliadau amddiffyn meddygol eu bod yn amddiffyn yn gadarn statws proffesiynol unrhyw feddyg sy’n rhan o hawliad esgeuluster, a’u bod nhw hefyd yn rhoi cymorth ychwanegol i'r meddyg hwnnw yn ystod yr hawliad.
Rydyn ni’n argymell bod y Gweinidog yn rhoi ymrwymiad heddiw y bydd y lefel hon o amddiffyniad a chymorth yn parhau i gael ei darparu i feddygon teulu o dan unrhyw gynllun yn y dyfodol a gefnogir gan y wladwriaeth. Dwi'n croesawu'r geiriau mae'r Gweinidog wedi eu llefaru eisoes ynglŷn â phwysigrwydd yr union lefel o ymrwymiad sydd ei angen yn y dyfodol o'i gymharu â beth mae meddygon wedi'i gael yn y gorffennol.
O droi rŵan at gostau'r Bil a throsglwyddo asedau, fel rhan o'n gwaith ar y Bil, fe wnaethon ni ystyried y costau a’r rhwymedigaethau sydd i’w hysgwyddo gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Gweinidog wedi amcangyfrif y bydd y rhwymedigaethau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hysgwyddo o dan y Bil hwn yn tua £100 miliwn, yn amodol ar drafod a chytuno'n llwyddiannus gyda'r tri sefydliad amddiffyn meddygol.
Nodwn fod Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb yn ddiweddar ar drosglwyddo asedau gydag un o'r tri sefydliad amddiffyn meddygol—y Gymdeithas Gwarchod Meddygol, sef yr MPS—a’i bod yn agos at gytundeb gydag un arall. Ond siomedig iawn oedd clywed na fu unrhyw gynnydd gyda'r trydydd sefydliad, yr MDU. Mewn gwirionedd, dywedodd yr MDU wrthym ni fod Llywodraeth Cymru wedi methu â chymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau ystyrlon ag ef ar y mater hwn.
Fel pwyllgor, roedden ni’n teimlo bod cael unrhyw gynllun a gefnogir gan y wladwriaeth i weithredu’n effeithiol yn dibynnu ar ddod i gytundeb gyda’r tri sefydliad amddiffyn meddygol ynghylch y lefelau o drosglwyddo asedau. Yn hynny o beth, fe wnaethon ni argymell bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon gyda’r MDU i ddod i gytundeb ynghylch trosglwyddo asedau, a bod yn rhaid i lefel y trosglwyddiad hwn gynrychioli setliad teg a chymesur o ran indemnio meddygon teulu a sicrhau gwerth am arian. Dwi'n clywed eto'r geiriau y mae'r Gweinidog wedi'u llefaru eisoes y prynhawn yma ar y pwynt hwn, a dwi'n croesawu unrhyw gynnydd yn y drafodaeth efo'r MDU, a dwi'n pwyso arno fo i gael y drafodaeth hynny yn ystyrlon ac i ddod i gytundeb efo'r MDU, MDDUS a'r MPS fel y tri sefydliad sydd yn amddiffyn meddygon.
Ynglŷn â'r pwynt olaf, ynglŷn â diwygio'r gyfraith yn ehangach, yn fyr, Llywydd, clywodd y pwyllgor dystiolaeth fod angen gwneud diwygiadau ehangach i’r deddfau camwedd sydd ar waith yng Nghymru a Lloegr. Fel yn Lloegr, mae'r Gweinidog, drwy'r Bil hwn, yn ceisio lliniaru effaith y costau cynyddol a ddaw yn sgil esgeuluster clinigol, a thrwy hynny fynd i’r afael â rhai o'r materion sy'n ymwneud â recriwtio a chadw meddygon teulu. Fodd bynnag, nid yw'r Bil yn mynd i'r afael â’r hyn sydd wrth wraidd y cynnydd yn y costau esgeuluster a'r pwysau cysylltiedig ar gyllid y gwasanaeth iechyd. Mae yna nifer o ffactorau, fel, er enghraifft, pam defnyddio costau triniaeth breifat yn y llysoedd fel sail i iawndal i'r claf? Ydy e'n gwneud synnwyr i'r gwasanaeth iechyd gael cyfle i'w wneud yn iawn am beth aeth o'i le yn y lle cyntaf, fel soniodd rhai o'n tystion wrthym ni? Fel pwyllgor, rydyn ni’n credu bod mantais mewn archwilio'r gyfraith yn y maes hwn, a bod hyn yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru fynd ar ei drywydd gyda'r sefydliadau cyfatebol yn y Deyrnas Unedig. Edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog. Diolch yn fawr.
Yn nesaf, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i gyfrannu at y ddadl yma i drafod y ddau argymhelliad y mae'r Pwyllgor Cyllid wedi'u gwneud.
Mae'r pwyllgor yn fodlon ar y cyfan â chost amcangyfrifedig y Bil o £30,000, sy'n cynnwys, wrth gwrs, cymorth cyfreithiol allanol i weithredu'r Bil gan ddefnyddio'r pwerau newydd i wneud rheoliadau o dan y cynllun indemniad uniongyrchol. Derbyniwn sicrwydd y Gweinidog fod cymorth cyfreithiol allanol wedi cael ei ddefnyddio fel mater o hwylustod ac y byddai'r costau wedi bod yn debyg pe bai'r gwaith yn cael ei wneud gan gynghorwyr cyfreithiol o fewn Llywodraeth Cymru.
Mae'r pwyllgor yn cydnabod y bydd y Bil hwn yn dod â deddfwriaeth yng Nghymru yn unol â Lloegr cyn belled ag y bo modd i ddarparu cynllun â chefnogaeth y wladwriaeth sy'n darparu sicrwydd indemniad esgeuluster clinigol i ddarparwyr gwasanaethau meddygon teulu. Rydym yn falch o glywed y bydd hyn yn sicrhau nad yw meddygon teulu yng Nghymru o dan anfantais a bydd yn helpu i sicrhau felly na fydd gwahanol gynlluniau sy'n gweithredu yn Lloegr ac yng Nghymru yn cael effaith andwyol ar recriwtio meddygon teulu a gweithgarwch trawsffiniol. Fel rhan o'r cynllun a gefnogir gan y wladwriaeth, bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am hawliadau esgeulustod clinigol hanesyddol a adroddwyd, neu a ddigwyddodd ond na chawsant eu hadrodd, cyn 1 Ebrill 2019.
Yn ystod y sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog, clywsom fod y cynllun rhwymedigaethau presennol yn amodol ar sicrhau diwydrwydd dyladwy cyfreithiol ac ariannol a thrafodaethau boddhaol â'r sefydliadau amddiffyn meddygol, sy'n mynd rhagddynt. Rwy'n falch o glywed y cyhoeddiad bod cytundeb wedi'i wneud gyda'r Gymdeithas Diogelu Meddygol. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad pan fydd y trafodaethau wedi dod i ben gyda'r ddau sefydliad amddiffyn meddygol arall.
Clywodd y pwyllgor y byddai'r amcangyfrif cyfredol o rwymedigaethau y byddai Llywodraeth Cymru yn eu hysgwyddo, pe cai cytundeb cynllun rhwymedigaethau presennol ei lofnodi gyda phob sefydliad amddiffyn meddygol, tua £100 miliwn cyn i unrhyw asedau gael eu trosglwyddo. Nawr, dywedodd y Gweinidog wrthym y byddai'r ffigur hwn yn lleihau unwaith y caiff yr asedau eu trosglwyddo. Fodd bynnag, mae gwerth y trosglwyddiad wedi'i gyfyngu ar hyn o bryd oherwydd ei sensitifrwydd masnachol a'i gytundebau peidio â datgelu rhwng Llywodraeth Cymru a'r sefydliadau amddiffyn meddygol. Er ein bod yn sylweddoli na all y Gweinidog ddarparu'r wybodaeth hon ar hyn o bryd, credwn y dylai fod ar gael pan fydd yn ymarferol ac rydym ni wedi argymell bod cyfanswm gwerth y trosglwyddo asedau yn cael ei nodi yng nghyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru a gânt eu gosod gerbron y Cynulliad.
O ran rheoli'r cynllun rhwymedigaethau presennol, bydd y sefydliad amddiffyn meddygol sy'n cymryd rhan yn ymdrin â'r hawliadau hyd at fis Ebrill 2021, ac ar ôl Ebrill 2021 Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru fydd yn ymdrin â nhw. Clywsom fod Llywodraeth Cymru yn credu y gall Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg Cydwasanaethau GIG Cymru ymgymryd â'r broses o reoli hawliadau rhwymedigaethau presennol heb unrhyw gost ychwanegol. Mae'r pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn diwygio'r effaith reoleiddiol i adlewyrchu'r ffaith nad yw'n rhagweld unrhyw gostau ychwanegol i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru pan fydd yn dechrau rheoli'r cynllun rhwymedigaethau presennol o Ebrill 2021.
Fel y dywedais i, dim ond dau argymhelliad oedd gan y pwyllgor, a dwi'n ddiolchgar am y cyfle i gyfleu'r rheini i'r Siambr y prynhawn yma.
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol sydd nesaf—Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Cyflwynwyd adroddiad ar y Bil hwn ar 12 Tachwedd a gwnaed tri argymhelliad. Cyn trafod yr argymhellion hynny, hoffwn dynnu sylw at un pwynt cyffredinol. Yn yr un modd â chyda'n gwaith craffu ar yr holl Filiau, bu'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ystyried materion sy'n ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, ac mae hyn yn cynnwys cydymffurfio â deddfwriaeth hawliau dynol. Rydym ni wedi dweud yn gyson y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gwybodaeth sy'n ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol, a nodir mewn memoranda esboniadol, yn cynnwys digon o fanylion i sicrhau tryloywder ac i alluogi craffu effeithiol ar Filiau.
Yn yr adroddiad hwn, rydym ni wedi manteisio ar y cyfle i ailadrodd y casgliad a wnaed gennym ni'n ddiweddar yn ein hadroddiad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru), sef bod esboniadau llawn o asesiadau a gynhaliwyd mewn cysylltiad â hawliau dynol ar gael mewn memoranda esboniadol sy'n cael eu cynnwys gyda Biliau a gyflwynir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn.
Fel y nodwyd eisoes, mae'r Bil hwn wedi bod yn destun proses Cyfnod 1 wedi'i chwtogi yn y Cynulliad. Roedd ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â'r pwynt hwn. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y penderfyniad polisi cefndirol ar gyfer y Bil hwn ym mis Mai 2018, a chafodd y rheoliadau ar gyfer cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol eu dwyn ymlaen ym mis Mawrth eleni. Felly, nid oedd yn glir i ni pam na chafodd y Bil ei gyflwyno'n gynharach. Byddai hyn wedi caniatáu rhagor o waith craffu Cyfnod 1 ac ymgysylltu rhwng rhanddeiliaid a phwyllgorau. Am y rheswm hwnnw, gofynnwn i'r Gweinidog ddefnyddio'r ddadl hon i egluro'r amserlenni a arweiniodd at gyflwyno'r Bil, gan gynnwys cadarnhau ar ba adeg oedd y Gweinidog yn ymwybodol y byddai angen deddfwriaeth sylfaenol. A nodaf sylwadau'r Gweinidog yn gynharach o ran eglurhad ar y pwynt penodol hwn.
Gan symud ymlaen at ein hail argymhelliad, yng nghyd-destun cyfnod byr y gwaith craffu yng Nghyfnod 1, nodasom y pŵer eang a roddwyd i Weinidogion Cymru gan adran 1 (8) o'r Bil, a fewnosododd is-adran (10) newydd yn Neddf y GIG (Cymru) 2006. Awgrymodd y Gweinidog ar y pryd y byddai'r ddarpariaeth hon yn helpu i hwyluso'r broses o atal effaith ddamweiniol neu gyfeiliornus ar bwerau presennol Gweinidogion Cymru, a gofynnwn i'r Gweinidog ddefnyddio'r ddadl hon i egluro'r rhesymeg y tu ôl i'r pŵer a geisir yn adran 1 (8). A nodaf unwaith eto sylwadau'r Gweinidog yn gynharach ar y mater penodol hwn.
Ac yna, yn olaf, o ran y cydbwysedd rhwng y manylion ar wyneb y Bil a'r hyn sy'n cael ei adael i is-ddeddfwriaeth, nodasom fod y Bil yn darparu tri phŵer i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth. Rydym yn cydnabod esboniad y Gweinidog ynglŷn â'r dewis i gyflwyno rheoliadau a wneir o dan adran 1 (8) o'r Bil gan ddefnyddio'r weithdrefn negyddol. Fodd bynnag, yn ein barn ni, mae'n ddadleuol a yw'n deg ac yn briodol cymharu gwneud rheoliadau a fydd yn cyflwyno cynllun rhwymedigaethau presennol â'r rhai a gyflwynodd y cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol yn gynharach eleni.
Mae ein pryderon yn seiliedig ar y ffaith nad yw'r Bil hwn, sy'n darparu sylfaen ddeddfwriaethol sylfaenol ar gyfer y rheoliadau, wedi cael y cyfle llawn ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1, ac nid yw hi chwaith yn glir ar hyn o bryd pwy a beth fydd yn cael eu cwmpasu gan reoliadau dilynol. Am y rheswm hwnnw, ein trydydd argymhelliad oedd y dylid diwygio'r Bil er mwyn i'r weithdrefn gadarnhaol gael ei defnyddio ar gyfer y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 1 (8) o'r Bil, ac yna'r weithdrefn negyddol ar achlysuron dilynol. Unwaith eto, rwyf wedi nodi'r sylwadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud ar y pwynt penodol hwn. Diolch, Llywydd.
Diolch am gyflwyno datganiad ar y Bil heddiw, Gweinidog. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei gefnogi. Gwn fod y proffesiwn meddygol yn edrych ymlaen yn fawr at hyn—mae'n gam mawr ymlaen. Rwy'n awyddus i ategu'r sylwadau a wnaed gan y tri chadeirydd sydd wedi siarad, a pham y bu'n rhaid i ni frysio hyn yn ystod y camau olaf a pham na chafodd ei gyflwyno'n gynharach eleni, o ystyried eich bod eisoes wedi bwriadu gwneud hynny a'ch bod wedi gweithredu'r cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol.
O ran unrhyw sylwebaeth yr hoffwn ei gwneud ynghylch y Bil, rwy'n credu y byddwn yn hoffi cadw'r rhan fwyaf o'm sylwebaeth ar gyfer, 'A ydych chi wedi gwneud digon o gynlluniau ar gyfer yr arian?' Roeddwn i mewn gwirionedd, yn bersonol, yn synnu'n fawr yn ystod y sesiwn dystiolaeth i ddarganfod y gall hawliad am esgeulustod, weithiau, gael ei gyflwyno 20 mlynedd ar ôl y digwyddiad. Felly, mae'n rhaid ei bod yn anodd iawn. Sylwais o'ch llythyr ychwanegol a anfonasoch at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon eich bod wedi comisiynu cynghorwyr ariannol allanol i ymgymryd â'r diwydrwydd dyladwy ariannol ac y buoch yn cysylltu ag actiwarïaid i geisio'i ragweld, a tybed, efallai, yn eich ymateb y gallech chi roi ychydig mwy o wybodaeth am ba mor ffyddiog ydych chi y bydd y £100 miliwn yn fras, yn ddigon. Yn amlwg, os bydd gennym ni lai o geisiadau na hynny, yna bydd Llywodraeth Cymru ar ei hennill. Rwy'n derbyn eich pwynt y byddwch yn sicrhau y caiff yr asedau i gyflawni hynny eu trosglwyddo, ond oherwydd nad ydym ni'n gwybod a oes rhai hawliadau ofnadwy yn llechu na fyddwn ni'n gwybod amdanyn nhw am bump neu 10 mlynedd arall, pa mor ffyddiog ydych chi fod eich swm yn gywir pan ddaw hi'n fater o gynllunio ar gyfer y dyfodol hwnnw?
Rwy'n deall na allwch chi roi cymaint o wybodaeth i ni am y trafodaethau gyda'r Undeb Amddiffyn Meddygol, ond, unwaith eto, nhw yw un o'r elfennau mwyaf, ac rwy'n credu bod eu cynnwys yn gwbl allweddol. Os yw'r Undeb Amddiffyn Meddygol yn eistedd yn eu swyddfeydd yn digwydd bod yn gwylio hyn, hoffwn ddweud wrthyn nhw, 'A fyddech cystal â dod at y bwrdd i wneud i hyn ddigwydd?' Rwy'n dweud wrthych chi, Lywodraeth Cymru, 'Gwnewch i hyn ddigwydd', oherwydd rwyf yn credu ei fod yn hanfodol i'r gweithlu sydd yn y maes gofal sylfaenol. Bydd yn helpu gyda phopeth a all fod o gymorth i gadw gweithwyr mewn gofal sylfaenol—meddygon teulu. Mae'n gwbl hanfodol, ac mae hwn yn arf gwirioneddol a allai berswadio pobl i aros yn hwy neu i ad-dalu eu treuliau os deuant yn ôl yn y cyfamser i helpu.
Byddai gennyf ddiddordeb mawr gwybod a ydych chi'n credu y bydd unrhyw broblemau o ran unrhyw effeithiau trawsffiniol oherwydd hyn, oherwydd, yn amlwg, mae llawer o fynd a dod dros y ffin mewn rhai rhannau o Gymru. Rwy'n falch eich bod wedi dod i gytundeb â'r Gymdeithas Diogelu Meddygol.
Yn olaf, hoffwn ailadrodd—credaf eu bod yn sylwadau a wnaeth Dai Lloyd—ein barn ar ddiwedd yr adroddiad hwn am gost gynyddol esgeuluster clinigol. Bob tro y ceir hawliad am esgeuluster clinigol, mae'n rhaid i'r GIG ei dalu ac mae'n dod o'r hyn y mae angen inni ei wneud—daw o welyau, nyrsys, meddygon a gofal sylfaenol. Felly, byddwn yn eich annog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni yn gyson ac, efallai, unwaith y flwyddyn ichi ddychwelyd i roi gwybod i ni am yr hyn yr ydych chi wedi gallu ei wneud i annog Llywodraeth y DU a holl Lywodraethau eraill y gwledydd datganoledig i ddod at ei gilydd mewn gwirionedd i geisio mynd i'r afael â'r achos sylfaenol sy'n gwneud yr hawliadau esgeuluster meddygol hyn mor hynod o gostus, oherwydd dyna ble y gwneir y gwahaniaeth gwirioneddol, yn y tymor hir. Diolch.
Hoffwn wneud rhai sylwadau byr iawn—mae rhai o'r pwyntiau y byddwn wedi dymuno eu codi fel arall naill ai eisoes wedi cael sylw gan y Gweinidog neu wedi cael eu codi gan siaradwyr eraill.
O ran argymhelliad 2 y pwyllgor, roeddwn yn falch o glywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ynglŷn â lefel y gefnogaeth a fydd ar gael i'r staff—i unrhyw feddyg teulu sy'n canfod ei hun mewn sefyllfa o weithredu yn ei erbyn. Ond, gwnaed y pwynt i ni yn y Pwyllgor—rwy'n credu gan yr Undeb Amddiffyn Meddygol—pan fydd gweithredu yn erbyn meddygon teulu, neu pan fo cyhuddiad yn cael ei wneud, mae'n uniongyrchol iawn yn eu herbyn nhw'n bersonol, ac mae eu sefyllfa rywfaint yn wahanol i sefyllfa gweithiwr meddygol proffesiynol mewn ysbyty.
Hoffwn wahodd y Gweinidog i ddweud eto ac ymrwymo i gael lefel debyg o gymorth personol. Dywedodd yr Undeb Amddiffyn Meddygol wrthym ei fod yn ymwneud â mwy na dim ond darparu'r cyngor ymarferol a chyfreithiol, a chymorth ariannol os oedd angen, ond oherwydd bod meddyg teulu, o bosibl, yn fwy ynysig, mae'n ymwneud â lefel o gefnogaeth bersonol. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ein sicrhau heddiw na chaiff y lefel honno o gymorth personol ei cholli.
A hefyd—ac, unwaith eto, efallai na fydd y Gweinidog yn gallu dweud llawer am hyn, ond byddai'n ddefnyddiol gwybod a oes gan y Gweinidog amserlen fras o ran yr adolygiad barnwrol, neu a yw hynny'n rhywbeth a gaiff ei ddatrys os yw yntau a'i swyddogion yn gallu dod i gytundeb gyda'r Undeb Amddiffyn Meddygol? Byddai'n ddefnyddiol inni gael gwybod faint y mae hyn i gyd yn debygol o gymryd, er fy mod yn sylweddoli, Llywydd, nad yw hyn yn nwylo'r Gweinidog o angenrheidrwydd, nac yn nwylo ei swyddogion.
Ac, yn olaf, i ddweud ein bod yn gwybod bod gennym ni broblemau gwirioneddol o ran recriwtio a chadw meddygon teulu yng Nghymru; rydym ni hefyd yn gwybod nad ni yw'r unig rai sydd â phroblemau o'r fath. Dydw i ddim yn credu bod yr un ohonom ni'n credu y bydd y Bil hwn ynddo'i hun yn newid hynny ac yn ei drawsnewid dros nos, ond mae'n gam pwysig ymlaen. Ac rwy'n gobeithio y bydd meddygon teulu a darpar feddygon teulu yn gallu gweld hyn fel arwydd bod y gymuned wleidyddol yng Nghymru eisiau cynnig cefnogaeth iddyn nhw, ac yn dymuno rhoi'r amddiffyniad sydd ei angen arnyn nhw. Rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd gytuno â hynny mewn egwyddor ar draws y pleidiau. Diolch yn fawr.
Rwy'n croesawu cyflwyno Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru). Y ffaith bod sicrwydd indemniad ar gyfer meddygon teulu wedi bod yn cynyddu'n barhaus, a bod hyn wedi cael effaith ar y proffesiwn, yw'r rheswm pam y cefnogais gyflwyno'r cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol. Mae'n drist bod y DU yn mynd yn fwy cyfreithgar, ac yn ddiau mae'r cynnydd sylweddol mewn nifer y cwmnïau hawliadau esgeuluster meddygol yn ddiweddar wedi cyfrannu at y cynnydd enfawr mewn costau indemniad a welsom ni yn y blynyddoedd diwethaf.
Fel y mae'r memorandwm esboniadol i'r Bil yn ei amlygu, bu cynnydd o tua 7 y cant y flwyddyn mewn costau indemniad yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r Gweinidog wedi datgan o'r blaen y gellir priodoli llawer o'r cynnydd hwn i benderfyniad Llywodraeth y DU i newid cyfradd y gostyngiad am anafiadau personol. Fodd bynnag, roedd Llywodraeth y DU yn iawn i sicrhau bod dioddefwyr ag anafiadau sy'n newid bywyd yn cael y lefel gywir o iawndal er mwyn talu am golli enillion yn y dyfodol a chostau gofal parhaus.
Mae cost gynyddol yswiriant indemniad yn effeithio ar ein meddygon teulu ac yn cael effaith negyddol ar recriwtio a chadw, ac nid wyf yn meddwl bod unrhyw un ohonom ni yn y fan yma yn anghytuno â bwriad y Bil hwn, a fydd yn ymestyn y cynllun indemniadau i gwmpasu rhwymedigaethau presennol. Fodd bynnag, mae'n drueni na chyflwynwyd y ddeddfwriaeth hon yn gynharach, ac, o ganlyniad, mae gennym ni amser cyfyngedig i graffu ar y Bil hwn.
Rhaid inni sicrhau bod y Bil hwn yn arwain at gynllun indemniadau sydd cystal â'r cynlluniau y mae'n eu disodli, os nad yn well. Mae'n hanfodol bod cynllun Cymru yn darparu cydraddoldeb â'r cynllun yn Lloegr. Rhaid inni sicrhau bod meddygon mewn ardaloedd trawsffiniol yn cael tegwch o ran eu darpariaeth. Un o'r beirniadaethau mawr ar y cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol fu'r angen am gofrestr locwm, ar wahân i'r rhestr perfformwyr meddygol, er mwyn darparu sicrwydd ar gyfer meddygon sesiynol. Felly, byddaf yn ceisio diwygio'r Bil yn ystod ei daith drwy'r Cynulliad er mwyn dileu'r angen am gofrestr locwm.
Mae hefyd yn drueni bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu defnyddio'r weithdrefn negyddol ar gyfer rheoliadau o dan y Bil. Byddaf yn ceisio gweithio gyda phleidiau eraill i ddiwygio'r Bil fel bod y rheoliadau'n gofyn am y weithdrefn gadarnhaol.
Mae angen y Bil hwn ar ein meddygon teulu neu, yn hytrach, mae arnyn nhw angen y cynllun indemniad y mae'r Bil hwn yn ei greu. Rhaid inni sicrhau bod y cynllun rhwymedigaethau presennol yn addas i'r diben, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chyd-Aelodau i wella'r Bil ac i sicrhau bod y cynllun ar waith erbyn mis Ebrill. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch i'r Aelodau am yr amrywiaeth o sylwadau, ac am y gefnogaeth eang i ddiben a phwrpas y Bil, er fy mod yn cydnabod bod rhai pwyntiau o eglurhad a sicrwydd ac, yn wir, rhai pwyntiau ynghylch gwelliannau posibl y mae Aelodau wedi awgrymu y gallent eu gwneud.
Rwyf eisiau ymdrin ar y dechrau, serch hynny, â'r pwynt a wnaethpwyd mewn ambell gyfraniad ynghylch a ydym ni'n gymdeithas fwy cyfreithgar ai peidio ac, yn wir, y gost o wneud hawliadau am esgeuluster meddygol. Edrychwch, nid wyf yn credu ei fod o reidrwydd yn beth drwg fod pobl yn fwy tebygol o gwyno nawr nac 20 neu 30 mlynedd yn ôl. Rydym ni'n llai parchus, ac rwy'n meddwl bod hynny oherwydd ei bod hi'n haws i bobl geisio cyfiawnder; nid wyf yn credu bod hynny'n beth drwg o gwbl. Fel rhan o'n her, er hynny, o ran cost hawliadau esgeulustod meddygol, rydym ni'n fwy ymwybodol o arwyddocâd effaith esgeuluster posibl, yn enwedig os yw'n digwydd, fel yr ydym ni wedi gweld ar ddechrau'r wythnos hon, i berson ifanc; bydd angen gofal gydol oes. Ac rwyf bob amser yn nerfus, pan fydd pobl yn sôn am gyfyngu'r gost, ynghylch a yw hynny'n golygu cyfyngu ar fynediad pobl drwy gyfyngu ar adenillion costau, ac mae hynny wedyn yn golygu, yn y bôn, o ran rhai pobl, y gallech fod yn dweud hynny, os na allwch dalu amdano eich hun, ni fyddwch yn cael mynediad at gyfiawnder, neu yn wir y posibilrwydd o gyfyngu ar adennill costau cyffredinol ar gyfer unigolyn sydd wedi dioddef math o esgeulustod. A, waeth pa faes y mae ynddo, nid wyf yn credu mai'r dull cywir yw dweud y dylem ni gyfyngu ar lefel y cyfiawnder y gall pobl ei gael. Mae heriau anodd o ran y pethau sydd rhaid inni eu gwneud, ond, a dweud y gwir, mae a wnelo hynny fwy â gwella'r gofal yr ydym ni'n ei ddarparu, yr ansawdd o fewn y system a'r gonestrwydd. Mae yna ddeddfwriaeth wahanol sy'n ceisio gwella ansawdd y gofal yr ydym ni'n ei ddarparu ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig yn ogystal â'r ddeddfwriaeth yr ydym yn ei threialu drwy'r Cynulliad ar hyn o bryd. Ond rwy'n credu mai dyna'r maes i ganolbwyntio arno o ran sut yr ydym ni'n lleihau cost esgeuluster meddygol. Dydw i ddim yn credu y dylai'r pwyslais fod ar gael cyfyngiad artiffisial ar bobl sydd â math o gŵyn y bydd dyfarnu arni.
Hoffwn ailadrodd un neu ddau o bwyntiau a wneuthum yn fy nghyfraniad a diolch i gadeiryddion y pwyllgorau craffu am roi cyfle imi ymateb iddyn nhw'n gynnar yn y ddadl, ond credaf imi ymdrin â'r pwyntiau ynglŷn ag amseru. Dywedais hynny ar goedd. Nid oedd yn bosibl dod â hyn gerbron mewn datganiadau deddfwriaethol blaenorol; dyna pam y digwyddodd yn yr un diweddaraf. Mae hefyd yn werth nodi, o ran y cynllun rheoliadau, adran 30, fel y dywedais, yn Neddf GIG Cymru, maen nhw i gyd yn rheoliadau gweithdrefn negyddol ac mae'r cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol wedi'i gyflwyno ar y sail honno hefyd.
O ran y pwyntiau am adnoddau a throsglwyddo asedau, rwy'n hapus i gadarnhau, unwaith eto, yr hyn a ddywedais yn fy nghyfraniad agoriadol am raddfa'r trosglwyddiad asedau hwnnw a sut a phryd y byddwn yn gallu rhoi syniad o'i faint. Felly, rwy'n fodlon ailadrodd y ffaith bod yr argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid wedi'i dderbyn.
O ran ein profiad o redeg y gronfa risg ar gyfer gofal eilaidd, rwy'n credu y dylai hyn roi rhywfaint o hyder i bobl sy'n ymarfer mewn gofal sylfaenol, nid yn unig yn y broses ariannol sy'n bodoli, sy'n cael ei rhedeg yn dda, ond mewn gwirionedd yn lefel y gofal a'r cymorth uniongyrchol sydd wedi'i ddarparu o fewn hynny, ac nid wyf yn credu y byddai'n dderbyniol i mi ddweud y dylai fod yna adran fargen, os mynnwch chi, ar gyfer y cymorth unigol neu fugeiliol sydd ar gael. Felly, rwy'n fodlon dweud nad dyna'r disgwyliad a bod gan feddygon teulu eu hunain lefel o hyder ynghylch hyn yn ehangach.
Mae hefyd yn werth nodi, o ran y ffordd y mae'r gronfa risg yn cael ei rhedeg ar draws GIG Cymru ar hyn o bryd, ei bod yn uchel ei pharch yng Nghymru ac, yn wir, ar draws y ffin oherwydd y caiff ei rhedeg yn effeithlon. Dylai hynny, unwaith eto, roi rhywfaint o hyder i Aelodau ynghylch y dyfarniadau ariannol a wnaed, ynghyd â'r cyngor annibynnol yr ydym ni wedi'i geisio ar y pwynt hwnnw.
Ac, o ran y pwynt ynghylch peidio â chael effaith ar weithgarwch trawsffiniol, y pwynt a wneuthum ar y cychwyn yw y byddwn yn bendant yn cael effaith ar weithgarwch trawsffiniol os nad oes gennym ni reoliadau ar waith i ddarparu cynllun tebyg ar gyfer ymarfer cyffredinol yng Nghymru pan ddaw cynllun Lloegr i rym ddechrau mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Rwy'n fodlon ailddatgan fy ymrwymiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gynnydd gyda sefydliadau amddiffyn meddygol. Dyna pryd rwy'n gobeithio y byddaf mewn sefyllfa i gadarnhau cytundeb gydag Undeb Amddiffyn Meddygol a Deintyddol yr Alban. Mae'r rheini'n drafodaethau adeiladol sy'n digwydd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Roeddwn yn mynd i ymdrin â'r Undeb Amddiffyn Meddygol hefyd, ac yna byddaf yn derbyn yr ymyriad.
Y pwynt am adolygiad barnwrol yr Undeb Amddiffyn Meddygol—maen nhw wedi gwneud cais am wrandawiad llafar, ac mae'r hawl ganddyn nhw, ac mae hwnnw ar hyn o bryd wedi ei restru i'w glywed ar 17 Rhagfyr. Nid wyf yn rhagweld oedi hir, ac mae'n effeithio, wrth gwrs, ar y gallu i gyflwyno'r rheoliadau hyn yng Nghymru a Lloegr hefyd, ond, cyn gynted ag y byddwn mewn sefyllfa i gael y penderfyniad hwnnw a'r hyn y mae'n ei olygu, yna byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, ac, fel y dywedais, ar hyn o bryd, mae'r drws yn dal ar agor ac mae fy swyddogion yn dal i geisio ymgysylltu â'r Undeb Amddiffyn Meddygol i gadarnhau'r hyn a fydd, gobeithio, yn gytundeb y gallant ei dderbyn cystal â ni. Cymeraf yr ymyriad cyn i mi orffen.
Tybed a allai hi fod o werth ichi ailadrodd, ar gyfer y cofnod, pa effaith y credwch y gallai fod ar y cynllun cyfan petai'r Undeb Amddiffyn Meddygol yn dewis peidio â dod ymlaen a pha effaith y gallai hynny ei chael ar feddygon teulu.
Wel, mae pwynt yma ynghylch y nifer o bobl sydd wedi cymryd rhan yn y trefniadau indemniad gyda'r Undeb Amddiffyn Meddygol, twll o bosib, a lefel sicrwydd wahanol ac actor gwahanol i bobl mewn gofal sylfaenol, a byddai hynny ar draws Lloegr a Chymru. Nid wyf yn credu y byddai'r gwahaniaeth hwnnw o gymorth, oherwydd bod yna rywbeth o hyd ynglŷn â'r angen am sicrwydd ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu y byddai o fantais i bawb pe baem yn gallu cytuno ar hyn ledled Cymru a Lloegr. Mae'n werth gorffen ar y pwynt hwn, ac roedd yn bwynt a godwyd yn gynharach: mae cefnogaeth gyffredinol yn y Siambr hon oherwydd bod cefnogaeth eang ar draws y sbectrwm gwleidyddol. A chlywsom yn gynharach, ac rwy'n siŵr y clywn ar lawer o achlysuron eraill, am y gwahaniaethau rhwng pleidiau yn y lle hwn a thu hwnt am ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond ynghylch hyn mae perthynas adeiladol iawn rhwng Llywodraethau ar draws y DU o ran ceisio cael y canlyniad cywir ar gyfer meddygon teulu a rhoi sicrwydd gwirioneddol ar gyfer y dyfodol. Rwy'n ymroddedig i weld y ddeddfwriaeth honno'n gwneud hynny yma yng Nghymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.