Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Heb os, byddwch yn cytuno â mi ein bod yn gweld y newidiadau yn ein hinsawdd yn sgil newid hinsawdd. Ac yn sicr, buaswn yn dweud bod angen darparu cyllid ychwanegol er mwyn carthu ein hafonydd a'n cyrsiau dŵr, a arferai ddigwydd yn amlach rai blynyddoedd yn ôl, a chyllid ychwanegol hefyd i awdurdodau lleol er mwyn glanhau cwlfertau a draeniau. Buaswn yn dweud bod y pwysau a welwn yn cael ei roi ar awdurdodau lleol yn golygu nad oes ganddynt yr adnoddau a fu ganddynt yn flaenorol i wneud rhywfaint o'r gwaith hwn, ynghyd â gwaith ar y rhwydwaith ffyrdd, y mae awdurdodau lleol hefyd yn gyfrifol amdano. A tybed a fyddech yn ymrwymo i roi adnoddau ariannol ychwanegol i’r ddau faes hwn, a fydd, buaswn yn awgrymu, yn helpu i liniaru llifogydd mewn miloedd lawer o eiddo sy'n cael eu rhoi mewn mwy a mwy o berygl o ddioddef llifogydd.