Mercher, 20 Tachwedd 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George.
1. Pa ddyraniadau ychwanegol fydd ar gael yn ystod y cylch cyllideb presennol i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus wrth ymdrin â thywydd garw? OAQ54689
2. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran diwygio caffael cyhoeddus er mwyn galluogi mwy o fwyd ffres ar gyfer ysgolion, ysbytai a chartrefi nyrsio i gael eu caffael yn lleol? OAQ54723
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yng nghymoedd de Cymru? OAQ54712
5. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod cyllideb arfaethedig Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwariant ataliol? OAQ54726
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol? OAQ54711
7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch dyraniadau cyllid i'r portffolio economi a thrafnidiaeth? OAQ54694
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y model buddsoddi cydfuddiannol? OAQ54690
9. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth ddyrannu cyllid fel rhan o'r Ail Becyn Buddsoddi Cyfalaf? OAQ54702
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dai Lloyd.
1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ymdrechion awdurdodau lleol yn ne orllewin Cymru i gwrdd â safonau'r Gymraeg? OAQ54697
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau'r berthynas rhwng Cymru a gwledydd sydd â chysylltiadau cryf â'n cymunedau mwyaf amrywiol? OAQ54724
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru ar Flaenau Gwent? OAQ54725
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu Archif Genedlaethol Cymru? OAQ54693
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y twristiaid sy'n ymweld â Chymoedd De Cymru? OAQ54701
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i adfer Castell Rhiw'r Perrai ger Draethen? OAQ54699
7. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran cynhyrchu concordat rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch trafodaethau masnach yn y dyfodol? OAQ54722
Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Bydd yr holl gwestiynau y prynhawn yma'n cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1—Neil McEvoy.
1. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y chwiliadau diogelwch ar ystâd y Cynulliad? OAQ54721
2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y cysylltiad a fu rhwng y Llywydd a’r Prif Weithredwr a Syr Roderick Evans o ran y cwynion ynghylch safonau? OAQ54706
3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd strategaeth gyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru? OAQ54713
4. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am baratoadau ar gyfer ymestyn yr etholfraint cyn etholiad nesaf y Cynulliad ym mis Mai 2021? OAQ54729
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol, a bydd y cwestiwn amserol a ddewiswyd y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. David Melding.
1. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad ynghylch diogelwch tân mewn llety myfyrwyr yng Nghymru yn dilyn tân yr wythnos diwethaf ym Mhrifysgol Bolton? 365
Eitem 5 ar yr agenda yw'r datganiadau 90 eiliad. Daw'r cyntaf yr wythnos hon gan Joyce Watson.
Eitem 6 yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar ardoll ar barcio yn y gweithle. A gaf fi atgoffa'r Aelodau mai dyma'r slot 30 munud, lle mae gan Aelodau ategol dair munud i siarad, a lle...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar strategaeth gerbydau rheilffyrdd, a dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig deddfwriaethol gan Aelod ar ardoll parcio yn y gweithle. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw...
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynglyn â sut bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn mynd i gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o filiwn...
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i chwaraeon cymunedol ym Merthyr Tudful a Rhymni?
A wnaiff y Gweinidog ddarparu datganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leddfu'r baich trethu ar bobl ifanc ar ddechrau eu gyrfaoedd?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia