Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Mae'r rhaglen datblygu gwledig yn darparu buddsoddiad mawr ei angen yn ein hamgylchedd, ein cymunedau ffermio a'n cymunedau gwledig, ac mae'r buddsoddiad hwn yn ymwneud i raddau helaeth â gwneud y mwyaf o'r ffordd rydym yn rheoli ein hecosystemau, gan sicrhau ein bod yn defnyddio ynni'n effeithlon a'n bod yn lleihau ein nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Felly gallaf gadarnhau bod Cymru, hyd yn hyn, wedi defnyddio 45 y cant o'n cyllid gan yr UE ar gyfer y rhaglen datblygu gwledig, a bod hynny'n debyg i aelod-wladwriaethau eraill yr UE. Ar ddiwedd 2018, roedd aelod-wladwriaethau’r UE wedi defnyddio oddeutu 42 y cant o’u cyllid ar gyfartaledd, felly rydym ychydig ar y blaen a gallaf gadarnhau nad oes gennym unrhyw gynlluniau i anfon unrhyw arian nas defnyddiwyd yn ôl i’r UE.
Rydym yn gwneud cynnydd da, felly, ar lefel prosiectau, mae cyfanswm o £664.9 miliwn wedi'i ymrwymo, sydd oddeutu 80 y cant o gronfeydd y rhaglen, ac mae cynlluniau ar waith i gyflawni ymrwymiad llawn y rhaglen erbyn diwedd 2020 a gwariant llawn erbyn diwedd y cyfnod n+3.