Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Weinidog, y rhwystr mwyaf i wella ffyniant economaidd Cwm Tawe a Chwm Nedd yw diffyg seilwaith. Er gwaethaf dau ddegawd o gronfeydd strwythurol yr UE, nid oes trafnidiaeth ddibynadwy gan bobl yn fy rhanbarth o hyd. Beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud yn ystod y 12 mis nesaf i wella cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd yn fy rhanbarth fel y gall fy etholwyr gyrraedd eu gwaith ar amser? A fydd eich cyllideb yn rhoi blaenoriaeth i seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus? [Torri ar draws.] Anwybodus. [Torri ar draws.] Ydych, wir.