Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd cyngor Caerffili fod sesiynau nofio am ddim i bobl dros 60 oed wedi’u torri ar ôl i’ch Llywodraeth wneud toriad o 50 y cant i'r cyllid ar gyfer y fenter nofio am ddim. Weinidog, a ydych yn derbyn bod eich setliad cyllid llywodraeth leol annigonol mewn cynghorau fel Caerffili yn peryglu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, fel y 'Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru'?